Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 42
Gene WelBeibl 42:1  Clywodd Jacob fod ŷd ar werth yn yr Aifft. “Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd?” meddai wrth ei feibion.
Gene WelBeibl 42:2  “Dw i wedi clywed fod ŷd yn yr Aifft. Ewch i lawr yno i brynu peth i ni er mwyn i ni gael byw yn lle marw.”
Gene WelBeibl 42:3  Felly dyma ddeg o frodyr Joseff yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd.
Gene WelBeibl 42:4  Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda'r brodyr eraill. Roedd arno ofn i rywbeth ddigwydd iddo.
Gene WelBeibl 42:5  Aeth meibion Israel i lawr i'r Aifft i brynu ŷd gyda phawb arall. Roedd y newyn wedi taro gwlad Canaan yn drwm.
Gene WelBeibl 42:6  Joseff oedd yn rheoli gwlad yr Aifft, a fe oedd yn gwerthu'r ŷd i bobl. A daeth brodyr Joseff yno ac ymgrymu o'i flaen.
Gene WelBeibl 42:7  Dyma Joseff yn eu nabod nhw pan welodd nhw. Ond roedd yn ymddwyn fel dyn dieithr o'u blaenau nhw a dechreuodd siarad yn gas gyda nhw. “O ble dych chi'n dod?” meddai. A dyma nhw'n ateb, “O wlad Canaan. Dŷn ni wedi dod yma i brynu bwyd.”
Gene WelBeibl 42:8  Er bod Joseff wedi'u nabod nhw, doedden nhw ddim wedi'i nabod e.
Gene WelBeibl 42:9  A dyma Joseff yn cofio'r breuddwydion roedd wedi'u cael amdanyn nhw. Ac meddai wrthyn nhw, “Ysbiwyr ydych chi! Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad.”
Gene WelBeibl 42:10  “Na, syr,” medden nhw. “Mae dy weision wedi dod yma i brynu bwyd.
Gene WelBeibl 42:11  Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn, ac yn ddynion gonest. Dŷn ni erioed wedi bod yn ysbiwyr.”
Gene WelBeibl 42:12  “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!”
Gene WelBeibl 42:13  A dyma nhw'n ei ateb, “Mae dy weision yn ddeuddeg brawd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn sy'n byw yng ngwlad Canaan. Mae'r ifancaf adre gyda'n tad, ac mae un wedi marw.”
Gene WelBeibl 42:14  “Na,” meddai Joseff eto. “Ysbiwyr ydych chi, yn union fel dw i wedi dweud.
Gene WelBeibl 42:15  Ond dw i'n mynd i'ch profi chi. Mor sicr â bod y Pharo'n fyw, gewch chi ddim gadael nes bydd eich brawd bach wedi dod yma!
Gene WelBeibl 42:16  Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir, mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”
Gene WelBeibl 42:17  A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod.
Gene WelBeibl 42:18  Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw.
Gene WelBeibl 42:19  Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y gweddill fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd.
Gene WelBeibl 42:20  Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” Dyma nhw'n cytuno i hynny.
Gene WelBeibl 42:21  Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
Gene WelBeibl 42:22  “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”
Gene WelBeibl 42:23  (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
Gene WelBeibl 42:24  Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grio. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
Gene WelBeibl 42:25  Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
Gene WelBeibl 42:27  Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.
Gene WelBeibl 42:28  Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Mae e yma yn fy sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi'i wneud?” medden nhw.
Gene WelBeibl 42:29  Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 42:30  “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.
Gene WelBeibl 42:31  Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr.
Gene WelBeibl 42:32  Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’
Gene WelBeibl 42:33  A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd.
Gene WelBeibl 42:34  Wedyn dewch â'ch brawd bach yn ôl yma ata i. Bydda i'n gwybod wedyn eich bod chi'n ddynion gonest, ac nid ysbiwyr. Wedyn gwna i ryddhau'r brawd arall, a byddwch yn rhydd i brynu a gwerthu yma.’”
Gene WelBeibl 42:35  Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a'u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Gene WelBeibl 42:36  “Dych chi'n fy ngwneud i'n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.”
Gene WelBeibl 42:37  Yna dyma Reuben yn dweud wrth ei dad, “Gad i mi fod yn gyfrifol amdano. Dof i ag e'n ôl. Os gwna i ddim dod ag e'n ôl atat ti, cei ladd fy nau fab i.”
Gene WelBeibl 42:38  Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i'n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i'r bedd.”