Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 25
Jere WelBeibl 25:1  Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda (hon hefyd oedd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon).
Jere WelBeibl 25:2  Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem:
Jere WelBeibl 25:3  “Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd – o'r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando.
Jere WelBeibl 25:4  Ac mae'r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw.
Jere WelBeibl 25:5  Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud; wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd.
Jere WelBeibl 25:6  Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi'u cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.
Jere WelBeibl 25:7  Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’
Jere WelBeibl 25:8  “Felly dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.
Jere WelBeibl 25:9  Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.
Jere WelBeibl 25:10  Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.
Jere WelBeibl 25:11  Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.
Jere WelBeibl 25:12  “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.
Jere WelBeibl 25:13  Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi'i ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi'i broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.
Jere WelBeibl 25:14  Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”
Jere WelBeibl 25:15  Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.
Jere WelBeibl 25:16  Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfel dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.”
Jere WelBeibl 25:17  Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd lle'r anfonodd fi yfed ohoni:
Jere WelBeibl 25:18  Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi'i melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!
Jere WelBeibl 25:19  Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd,
Jere WelBeibl 25:20  a'r bobl o dras gymysg sy'n byw yno. Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod.
Jere WelBeibl 25:22  Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir.
Jere WelBeibl 25:23  Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
Jere WelBeibl 25:24  Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.
Jere WelBeibl 25:26  Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear. Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon ei hun yfed o'r gwpan.
Jere WelBeibl 25:27  Yr ARGLWYDD: “Dwed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’
Jere WelBeibl 25:28  “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed!
Jere WelBeibl 25:29  Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud hyn.’
Jere WelBeibl 25:30  Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw: ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod, o'r lle sanctaidd lle mae'n byw. Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith. Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin, wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.
Jere WelBeibl 25:31  Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd, ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan. Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd â'r cleddyf!’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 25:32  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall. Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”
Jere WelBeibl 25:33  Bydd y rhai fydd wedi'u lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi'i wasgaru ar wyneb y tir.
Jere WelBeibl 25:34  Dechreuwch udo a chrio, chi arweinwyr y bobl! Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl. Mae diwrnod y lladdfa wedi dod. Cewch eich gwasgaru. Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.
Jere WelBeibl 25:35  Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd. Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!
Jere WelBeibl 25:36  Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crio! Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo! Mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio'u tir nhw.
Jere WelBeibl 25:37  Bydd y borfa dawel lle maen nhw'n aros yn anialwch difywyd am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.
Jere WelBeibl 25:38  Mae'r ARGLWYDD fel llew wedi dod allan o'i ffau. Mae wedi digio'n lân a bydd y wlad yn cael ei difetha gan gleddyf y gelyn.