JOSHUA
Chapter 19
Josh | WelBeibl | 19:1 | Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda. | |
Josh | WelBeibl | 19:8 | Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef). Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon. | |
Josh | WelBeibl | 19:9 | Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda. | |
Josh | WelBeibl | 19:10 | Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran. Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain. | |
Josh | WelBeibl | 19:11 | Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Iocneam. | |
Josh | WelBeibl | 19:12 | O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffîa. | |
Josh | WelBeibl | 19:13 | Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon, cyn troi i gyfeiriad Nea. | |
Josh | WelBeibl | 19:14 | Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél. | |
Josh | WelBeibl | 19:15 | Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idalâ, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:16 | Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:22 | Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:23 | Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:26 | Alammelech, Amad, a Mishal. Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath. | |
Josh | WelBeibl | 19:27 | Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd. | |
Josh | WelBeibl | 19:29 | Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Machalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob. | |
Josh | WelBeibl | 19:30 | Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Machalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob. | |
Josh | WelBeibl | 19:31 | Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:33 | Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Tsa-ananîm, yna'n mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth afon Iorddonen. | |
Josh | WelBeibl | 19:34 | Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth afon Iorddonen yn y dwyrain. | |
Josh | WelBeibl | 19:35 | Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth, | |
Josh | WelBeibl | 19:38 | Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:39 | Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:47 | (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly aethon nhw i'r gogledd ac ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.) | |
Josh | WelBeibl | 19:48 | Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. | |
Josh | WelBeibl | 19:49 | Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn. | |
Josh | WelBeibl | 19:50 | Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno. | |