Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 15
Prov WelBeibl 15:1  Mae ateb caredig yn tawelu tymer, ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.
Prov WelBeibl 15:2  Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth, ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.
Prov WelBeibl 15:3  Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth, mae'n gwylio'r drwg a'r da.
Prov WelBeibl 15:4  Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd, ond mae dweud celwydd yn torri calon.
Prov WelBeibl 15:5  Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad, ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
Prov WelBeibl 15:6  Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn, ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
Prov WelBeibl 15:7  Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth; ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.
Prov WelBeibl 15:8  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg, ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.
Prov WelBeibl 15:9  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg, ond mae'n caru'r rhai sy'n trio byw'n iawn.
Prov WelBeibl 15:10  Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym; bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.
Prov WelBeibl 15:11  Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn, felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd drwy feddyliau pobl!
Prov WelBeibl 15:12  Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro; dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.
Prov WelBeibl 15:13  Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb, ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.
Prov WelBeibl 15:14  Mae person call eisiau dysgu mwy, ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.
Prov WelBeibl 15:15  Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.
Prov WelBeibl 15:16  Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDD yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.
Prov WelBeibl 15:17  Mae platiaid o lysiau lle mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.
Prov WelBeibl 15:18  Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt, ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.
Prov WelBeibl 15:19  Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri, ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.
Prov WelBeibl 15:20  Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus, ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam.
Prov WelBeibl 15:21  Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens, ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn.
Prov WelBeibl 15:22  Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.
Prov WelBeibl 15:23  Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus, ac mor dda ydy gair yn ei bryd!
Prov WelBeibl 15:24  Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth, ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod.
Prov WelBeibl 15:25  Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ'r balch, ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel.
Prov WelBeibl 15:26  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg, ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.
Prov WelBeibl 15:27  Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu, ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw.
Prov WelBeibl 15:28  Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
Prov WelBeibl 15:29  Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg, ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
Prov WelBeibl 15:30  Mae gwên yn llonni'r galon, a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.
Prov WelBeibl 15:31  Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiol yn byw yng nghwmni'r doeth.
Prov WelBeibl 15:32  Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun, ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.
Prov WelBeibl 15:33  Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.