DEUTERONOMY
Chapter 32
Deut | WelBeibl | 32:2 | Bydd beth dw i'n ddweud fel cawod o law, a'm dysgeidiaeth fel diferion o wlith; bydd fel glaw yn disgyn ar borfa, neu law mân ar laswellt. | |
Deut | WelBeibl | 32:4 | Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest – yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn. | |
Deut | WelBeibl | 32:5 | Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon, a heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna'r drwg. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo. | |
Deut | WelBeibl | 32:6 | Ai dyma sut dych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD? Dych chi'n bobl mor ffôl! Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi? Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi! | |
Deut | WelBeibl | 32:7 | Cofiwch y dyddiau a fu; meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol: gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn – byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi. | |
Deut | WelBeibl | 32:8 | Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd, a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedd a rhoi angel i ofalu am bob un. | |
Deut | WelBeibl | 32:10 | Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial; mewn anialwch gwag a gwyntog. Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu, a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad. | |
Deut | WelBeibl | 32:11 | Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth, yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd, dyma'r ARGLWYDD yn codi ei bobl ar ei adenydd e. | |
Deut | WelBeibl | 32:13 | Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr, a chawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau, olew olewydd o'r tir caregog, | |
Deut | WelBeibl | 32:14 | caws colfran o'r gwartheg, a llaeth o'r geifr, gyda braster ŵyn, hyrddod a geifr Bashan. Cefaist fwyta'r gwenith gorau ac yfed y gwin gorau. | |
Deut | WelBeibl | 32:15 | Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio – magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub; | |
Deut | WelBeibl | 32:16 | ei wneud yn eiddigeddus o'r duwiau paganaidd, a'i bryfocio gyda'u heilunod ffiaidd. | |
Deut | WelBeibl | 32:17 | Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw – duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. | |
Deut | WelBeibl | 32:19 | Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod, am fod ei feibion a'i ferched wedi'i wylltio. | |
Deut | WelBeibl | 32:20 | Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon. | |
Deut | WelBeibl | 32:21 | Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'u duwiau ffals, a'm digio gyda'u delwau diwerth. Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy'n deall dim. | |
Deut | WelBeibl | 32:22 | Mae tân wedi'i gynnau – dw i mor ddig! Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear. Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch, ac yn llosgi hyd sylfeini'r mynyddoedd. | |
Deut | WelBeibl | 32:24 | Byddan nhw'n marw o newyn, yn cael eu dinistrio gan haint, a brathiadau chwerw anifeiliaid gwyllt a nadroedd gwenwynig. | |
Deut | WelBeibl | 32:25 | Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan, a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn – dynion a merched ifanc, plant bach a henoed. | |
Deut | WelBeibl | 32:26 | Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau, a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli. | |
Deut | WelBeibl | 32:27 | Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion; y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud, “Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn! Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’ | |
Deut | WelBeibl | 32:29 | Petaen nhw'n ddoeth, bydden nhw'n deall, ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.” | |
Deut | WelBeibl | 32:30 | Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi, a dau yn gyrru deg mil ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi'u gwerthu nhw, a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd? | |
Deut | WelBeibl | 32:31 | Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni – mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny! | |
Deut | WelBeibl | 32:32 | Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom, a'u gwinwydden yn tyfu ar gaeau teras Gomorra. Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn, a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw. | |
Deut | WelBeibl | 32:34 | “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD, “Onid ydw i wedi'i gadw dan glo yn fy stordai? | |
Deut | WelBeibl | 32:35 | Fi sy'n dial, ac yn talu nôl. Byddan nhw'n llithro – mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw, a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!” | |
Deut | WelBeibl | 32:36 | Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl, ac yn tosturio wrth ei weision, wrth weld eu bod nhw heb nerth, a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd. | |
Deut | WelBeibl | 32:37 | Bydd e'n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr? Ble mae'r graig lle roedden nhw'n ceisio cysgodi | |
Deut | WelBeibl | 32:38 | – y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau, ac yfed gwin yr offrymau o ddiod? Gadewch iddyn nhw'ch helpu chi; gadewch iddyn nhw edrych ar eich ôl chi! | |
Deut | WelBeibl | 32:39 | Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu, a does neb yn gallu fy stopio! | |
Deut | WelBeibl | 32:41 | dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair, a gafael ynddo i gosbi; Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion, a thalu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu! | |
Deut | WelBeibl | 32:42 | Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed, a'm cleddyf yn darnio cnawd – gwaed y rhai wedi'u lladd a'r caethion, prif arweinwyr y gelyn!’” | |
Deut | WelBeibl | 32:43 | Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae'n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i'w dir ac i'w bobl. | |
Deut | WelBeibl | 32:44 | Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd. | |
Deut | WelBeibl | 32:45 | Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 32:46 | Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 32:47 | Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.” | |
Deut | WelBeibl | 32:49 | “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel. | |
Deut | WelBeibl | 32:50 | Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben Mynydd Hor. | |
Deut | WelBeibl | 32:51 | Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel. | |