GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 18
Gene | WelBeibl | 18:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell. | |
Gene | WelBeibl | 18:2 | Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau. | |
Gene | WelBeibl | 18:3 | “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Byddai'n fraint i'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig. | |
Gene | WelBeibl | 18:5 | Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n bleser gen i eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.” | |
Gene | WelBeibl | 18:6 | Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara.” | |
Gene | WelBeibl | 18:7 | Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys. | |
Gene | WelBeibl | 18:8 | Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi'i rostio a'u gosod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra oedden nhw'n bwyta. | |
Gene | WelBeibl | 18:9 | “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. | |
Gene | WelBeibl | 18:10 | A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Dw i'n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. | |
Gene | WelBeibl | 18:12 | Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.” | |
Gene | WelBeibl | 18:13 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ | |
Gene | WelBeibl | 18:14 | Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.” | |
Gene | WelBeibl | 18:15 | Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.” | |
Gene | WelBeibl | 18:16 | Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd. | |
Gene | WelBeibl | 18:17 | A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham? | |
Gene | WelBeibl | 18:18 | Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwyddo. | |
Gene | WelBeibl | 18:19 | Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a phawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.” | |
Gene | WelBeibl | 18:20 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn! | |
Gene | WelBeibl | 18:21 | Dw i am fynd i lawr i weld a ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.” | |
Gene | WelBeibl | 18:22 | Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra oedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. | |
Gene | WelBeibl | 18:23 | Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti? | |
Gene | WelBeibl | 18:24 | Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn? Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna? | |
Gene | WelBeibl | 18:25 | Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?” | |
Gene | WelBeibl | 18:26 | A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.” | |
Gene | WelBeibl | 18:27 | Yna gofynnodd Abraham, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr – a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb – | |
Gene | WelBeibl | 18:28 | beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.” | |
Gene | WelBeibl | 18:29 | A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.” | |
Gene | WelBeibl | 18:30 | Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.” | |
Gene | WelBeibl | 18:31 | “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.” | |
Gene | WelBeibl | 18:32 | A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.” | |