Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 49
Gene WelBeibl 49:1  Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.
Gene WelBeibl 49:2  “Dewch yma i wrando, feibion Jacob; gwrandwch ar Israel, eich tad.
Gene WelBeibl 49:3  Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni – yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.
Gene WelBeibl 49:4  Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr – fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a'i lygru drwy dreisio fy ngwraig – gorwedd ar glustogau dy dad!
Gene WelBeibl 49:5  Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.
Gene WelBeibl 49:6  Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth – dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl. Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion fel rhai'n gwneud ych yn gloff am hwyl.
Gene WelBeibl 49:7  Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel!
Gene WelBeibl 49:8  Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion. Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.
Gene WelBeibl 49:9  Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben. Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew, a does neb yn meiddio aflonyddu arno.
Gene WelBeibl 49:10  Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda. Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion nes daw pobl i dalu teyrnged iddo. Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.
Gene WelBeibl 49:11  Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a'i asen ifanc wrth y winwydden orau. Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin a'i glogyn yng ngwaed y grawnwin.
Gene WelBeibl 49:12  Bydd ei lygaid yn gochion gan win, a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
Gene WelBeibl 49:13  Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr. Bydd yn hafan ddiogel i longau. Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
Gene WelBeibl 49:14  Mae Issachar fel asyn cryf yn gorwedd dan bwysau ei baciau.
Gene WelBeibl 49:15  Gwelodd le da i orffwys a bod y wlad yno yn hyfryd. Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn a chael ei hun yn gaethwas.
Gene WelBeibl 49:16  Bydd Dan yn rheoli ei bobl fel un o lwythau Israel.
Gene WelBeibl 49:17  Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd – fel gwiber ar y llwybr yn brathu troed y ceffyl a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
Gene WelBeibl 49:18  Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!
Gene WelBeibl 49:19  Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad, ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.
Gene WelBeibl 49:20  Bydd bwyd cyfoethog gan Asher. Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.
Gene WelBeibl 49:21  Mae Nafftali fel ewig, yn rhedeg yn rhydd, sy'n cael llydnod hardd.
Gene WelBeibl 49:22  Mae Joseff yn goeden ffrwythlon – coeden ffrwythlon wrth ffynnon, a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.
Gene WelBeibl 49:23  Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno, yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.
Gene WelBeibl 49:24  Ond daliai ei fwa'n llonydd ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim. Roedd Un Cryf Jacob gydag e – y Bugail, Craig Israel.
Gene WelBeibl 49:25  Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy'n rheoli popeth. Bydd e'n dy fendithio di gyda'r bendithion o'r awyr uchod, a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a'r groth.
Gene WelBeibl 49:26  Mae'r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff – ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
Gene WelBeibl 49:27  Mae Benjamin fel blaidd rheibus, yn rhwygo'i ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”
Gene WelBeibl 49:28  Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
Gene WelBeibl 49:29  Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.
Gene WelBeibl 49:30  Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu.
Gene WelBeibl 49:31  Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi'u claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi'u claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea.
Gene WelBeibl 49:32  Cafodd y darn tir a'r ogof sydd arno ei brynu gan yr Hethiaid.”
Gene WelBeibl 49:33  Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.