ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 33
Isai | WelBeibl | 33:1 | Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio, ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu! | |
Isai | WelBeibl | 33:2 | O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni! Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti. Bydd di yn nerth i ni yn y bore, ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl. | |
Isai | WelBeibl | 33:3 | Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi! Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru! | |
Isai | WelBeibl | 33:4 | Mae'r cwbl maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglu fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno. | |
Isai | WelBeibl | 33:5 | Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog! Mae'n byw yn yr uchelder! Mae'n llenwi Seion gyda chyfiawnder a thegwch. | |
Isai | WelBeibl | 33:6 | Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD – dyna'i drysor iddi. | |
Isai | WelBeibl | 33:7 | Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan! Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw! | |
Isai | WelBeibl | 33:8 | Mae'r priffyrdd yn wag! Mae'r teithwyr wedi diflannu! Mae'r cytundebau wedi'u torri, a'r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol. | |
Isai | WelBeibl | 33:9 | Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel tir anial, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail. | |
Isai | WelBeibl | 33:10 | “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD, “dw i'n mynd i godi i fyny; cewch weld mor uchel ydw i! | |
Isai | WelBeibl | 33:11 | Dim ond us dych chi'n ei feichiogi; dim ond gwellt fydd yn cael ei eni! Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi! | |
Isai | WelBeibl | 33:13 | Chi sy'n bell i ffwrdd, gwrandwch beth dw i wedi'i wneud! A chi sy'n agos, gwelwch mor nerthol ydw i.” | |
Isai | WelBeibl | 33:14 | Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn, Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn. “Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma? Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?” | |
Isai | WelBeibl | 33:15 | Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg. | |
Isai | WelBeibl | 33:16 | Person felly fydd yn saff rhag y cwbl, a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas. Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnal a bydd digonedd o ddŵr iddo. | |
Isai | WelBeibl | 33:18 | Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith, “Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi? Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian? Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?” | |
Isai | WelBeibl | 33:19 | Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto – yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall, ac yn paldaruo'n ddiystyr. | |
Isai | WelBeibl | 33:20 | Dychmyga Seion, dinas ein gwyliau crefyddol! Byddi'n gweld Jerwsalem fel lle tawel i fyw – pabell does dim rhaid ei phacio, gyda phegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto, a rhaffau fydd byth yn torri. | |
Isai | WelBeibl | 33:21 | Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd! Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo, ond heb longau sy'n cael eu rhwyfo na llongau hwylio mawr yn mynd heibio. | |
Isai | WelBeibl | 33:22 | Yr ARGLWYDD ydy'n barnwr ni, yr ARGLWYDD ydy'n llywodraethwr ni, yr ARGLWYDD ydy'n brenin ni – fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni! | |
Isai | WelBeibl | 33:23 | Byddi'n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rhannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr. | |