EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 40
Ezek | WelBeibl | 40:1 | Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf (sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 40:2 | Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn. Roedd adeiladau i'w gweld i gyfeiriad y de, tebyg i ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 40:3 | Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law. | |
Ezek | WelBeibl | 40:4 | Dwedodd wrtho i, “Ddyn, edrych yn ofalus a gwrando'n astud. Dw i eisiau i ti sylwi'n fanwl ar bopeth dw i'n ddangos i ti. Dyna pam mae Duw wedi dod â ti yma. Rwyt i fynd yn ôl a dweud wrth bobl Israel am bopeth rwyt ti wedi'i weld.” | |
Ezek | WelBeibl | 40:5 | Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:6 | Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:7 | Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa – pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:9 | Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 40:10 | Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint. | |
Ezek | WelBeibl | 40:12 | Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:13 | Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:14 | Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:15 | Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:16 | Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi'u haddurno gyda coed palmwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:17 | Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin. | |
Ezek | WelBeibl | 40:18 | Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled â'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf. | |
Ezek | WelBeibl | 40:19 | Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner. Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol. | |
Ezek | WelBeibl | 40:21 | Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led. | |
Ezek | WelBeibl | 40:22 | Roedd y ffenestri, yr ystafell gyntedd a'r coed palmwydd yr un fath ag yn y giât ddwyreiniol. Roedd saith gris i fyny at y giât ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. | |
Ezek | WelBeibl | 40:23 | Roedd giât arall i'r iard fewnol gyferbyn a'r fynedfa ar yr ochr ogleddol, fel gyda'r fynedfa ddwyreiniol. Mesurodd y pellter o'r naill i'r llall ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 40:24 | Yna aeth â fi i'r ochr ddeheuol. Mesurodd y colofnau a'r cilfachau ar y giât ddeheuol ac roedden nhw yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:25 | Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:26 | Roedd saith gris yn mynd i fyny at y giât, ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Ac roedd coed palmwydd ar y colofnau, un bob ochr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:27 | Roedd giât i'r iard fewnol yn wynebu'r de hefyd. Mesurodd y pellter o un giât i'r llall, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 40:28 | Yna aeth â fi i'r iard fewnol drwy'r giât ddeheuol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:29 | Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:30 | Roedd cynteddau o'i chwmpas, yn un deg tri metr o hyd a dau fetr a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 40:31 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:32 | Yna aeth â fi i ochr ddwyreiniol yr iard fewnol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:33 | Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn ddau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:34 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:36 | y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:37 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:38 | Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi. | |
Ezek | WelBeibl | 40:39 | Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. | |
Ezek | WelBeibl | 40:40 | Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:41 | Felly roedd wyth bwrdd i gyd – pedwar y tu allan i'r fynedfa a phedwar y tu mewn – lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:42 | Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi'u cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar | |
Ezek | WelBeibl | 40:43 | fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau. | |
Ezek | WelBeibl | 40:44 | Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:45 | A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de, | |
Ezek | WelBeibl | 40:46 | ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e.” | |
Ezek | WelBeibl | 40:47 | Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 40:48 | Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch. | |