Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 29
Gene WelBeibl 29:1  Dyma Jacob yn bwrw ymlaen ar ei daith, ac yn dod i wlad pobl y dwyrain.
Gene WelBeibl 29:2  Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew.
Gene WelBeibl 29:3  Pan fyddai'r preiddiau i gyd wedi cyrraedd yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg a rhoi dŵr i'r defaid. Wedyn bydden nhw'n rhoi'r garreg yn ôl ar geg y pydew.
Gene WelBeibl 29:4  Gofynnodd Jacob iddyn nhw, “O ble dych chi'n dod, frodyr?” “O Haran,” medden nhw.
Gene WelBeibl 29:5  “Ydych chi'n nabod Laban fab Nachor?” holodd Jacob. “Ydyn,” medden nhw.
Gene WelBeibl 29:6  “Sut mae e'n cadw?” gofynnodd Jacob. “Mae e'n cadw'n dda,” medden nhw. “Edrych, dyma Rachel, ei ferch, yn cyrraedd gyda'i defaid.”
Gene WelBeibl 29:7  Yna dyma Jacob yn dweud wrthyn nhw, “Edrychwch, mae'n dal yn olau dydd. Dydy hi ddim yn amser casglu'r anifeiliaid at ei gilydd eto. Rhowch ddŵr iddyn nhw, a mynd â nhw allan i bori am ychydig mwy.”
Gene WelBeibl 29:8  “Ond allwn ni ddim gwneud hynny nes bydd y preiddiau i gyd wedi cyrraedd,” medden nhw. “Dyna pryd byddwn ni'n symud y garreg oddi ar geg y pydew ac yn rhoi dŵr i'r defaid.”
Gene WelBeibl 29:9  Tra oedd e'n dal i siarad â nhw, dyma Rachel yn cyrraedd gyda defaid ei thad. Hi oedd yn gofalu amdanyn nhw.
Gene WelBeibl 29:10  Pan welodd Jacob Rachel, merch ei ewythr Laban, gyda'r defaid, dyma fe'n symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd ei ewythr.
Gene WelBeibl 29:11  Yna aeth at Rachel, a'i chyfarch â chusan. Roedd yn methu peidio crio.
Gene WelBeibl 29:12  Dwedodd wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca. A dyma Rachel yn rhedeg i ddweud wrth ei thad.
Gene WelBeibl 29:13  Pan glywodd Laban y newyddion am Jacob, mab ei chwaer, rhuthrodd allan i'w gyfarfod. Rhoddodd groeso brwd iddo drwy ei gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag e i'w dŷ. Yna dwedodd Jacob y cwbl wrth Laban.
Gene WelBeibl 29:14  “Rwyt ti wir yn un o nheulu i!” meddai Laban. Roedd Jacob wedi aros gyda Laban am fis,
Gene WelBeibl 29:15  ac meddai Laban wrtho, “Ti'n perthyn i mi, felly ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim. Dwed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.”
Gene WelBeibl 29:16  Roedd gan Laban ddwy ferch – Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf.
Gene WelBeibl 29:17  Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch wirioneddol hardd a siapus.
Gene WelBeibl 29:18  Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.”
Gene WelBeibl 29:19  “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”
Gene WelBeibl 29:20  Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.
Gene WelBeibl 29:21  Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno arno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”
Gene WelBeibl 29:22  Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.
Gene WelBeibl 29:23  Ond ar ddiwedd y noson aeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
Gene WelBeibl 29:24  (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)
Gene WelBeibl 29:25  Y bore wedyn, cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban. “Beth yn y byd rwyt ti wedi'i wneud i mi?” meddai Jacob. “Rôn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”
Gene WelBeibl 29:26  Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn y wlad yma i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.
Gene WelBeibl 29:27  Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”
Gene WelBeibl 29:28  Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd.
Gene WelBeibl 29:29  (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.)
Gene WelBeibl 29:30  Felly cysgodd Jacob gyda Rachel. Roedd yn caru Rachel yn fwy na Lea. A gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.
Gene WelBeibl 29:31  Pan welodd yr ARGLWYDD fod Jacob ddim yn caru Lea cymaint â Rachel, rhoddodd blant i Lea. Ond roedd Rachel yn methu cael plant.
Gene WelBeibl 29:32  Dyma Lea'n beichiogi ac yn cael mab ac yn ei alw'n Reuben. “Mae'r ARGLWYDD wedi gweld mod i'n cael fy nhrin yn wael,” meddai. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o ngharu i nawr!”
Gene WelBeibl 29:33  A dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall. “Mae'r ARGLWYDD wedi clywed mod i ddim yn cael fy ngharu, ac mae wedi rhoi mab arall i mi,” meddai. A dyma hi'n ei alw'n Simeon.
Gene WelBeibl 29:34  Dyma hi'n beichiogi eto a chael mab arall. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o deimlo'n un hefo fi nawr,” meddai. “Dw i wedi rhoi tri mab iddo.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Lefi.
Gene WelBeibl 29:35  A dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab arall eto. “Y tro yma dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD,” meddai hi. A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Jwda. Ac wedyn dyma hi'n stopio cael plant.