Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 44
Gene WelBeibl 44:1  Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach.
Gene WelBeibl 44:2  Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda'i arian am yr ŷd.” A dyma'r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff.
Gene WelBeibl 44:3  Wrth iddi wawrio'r bore wedyn, cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda'r asynnod.
Gene WelBeibl 44:4  Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o'r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog, “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi'u dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i.
Gene WelBeibl 44:5  Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn!’”
Gene WelBeibl 44:6  Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 44:7  A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly.
Gene WelBeibl 44:8  Daethon ni â'r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr?
Gene WelBeibl 44:9  Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.”
Gene WelBeibl 44:10  “Iawn; chi sy'n dweud y dylech gael eich cosbi,” meddai. “Bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.”
Gene WelBeibl 44:11  Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.
Gene WelBeibl 44:12  Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.
Gene WelBeibl 44:13  Dyma nhw'n rhwygo'u dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas.
Gene WelBeibl 44:14  Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff, roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.
Gene WelBeibl 44:15  Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam dych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”
Gene WelBeibl 44:16  A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un roedd y gwpan ganddo.”
Gene WelBeibl 44:17  Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”
Gene WelBeibl 44:18  Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo.
Gene WelBeibl 44:19  Roedd fy meistr wedi gofyn i'w weision, ‘Oes gynnoch chi dad, neu frawd arall?’
Gene WelBeibl 44:20  A dyma ninnau'n dweud, ‘Mae ein tad yn hen ddyn, ac mae gynnon ni frawd bach gafodd ei eni pan oedd dad mewn oed. Mae brawd y bachgen wedi marw. Fe ydy unig blentyn ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu'n fawr.’
Gene WelBeibl 44:21  Wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Dewch ag e ata i, i mi gael ei weld.’
Gene WelBeibl 44:22  A dyma ninnau'n dweud wrth ein meistr, ‘All y bachgen ddim gadael ei dad. Byddai ei dad yn marw petai'n ei adael.’
Gene WelBeibl 44:23  Ond wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Os fydd eich brawd bach ddim yn dod i lawr gyda chi, gewch chi ddim dod i'm gweld i eto.’
Gene WelBeibl 44:24  Yna aethon ni adre a dweud hyn i gyd wrth dy was, ein tad.
Gene WelBeibl 44:25  Felly pan ddwedodd ein tad wrthyn ni, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni,’
Gene WelBeibl 44:26  dyma ni'n dweud wrtho, ‘Allwn ni ddim oni bai fod ein brawd bach gyda ni. Gawn ni ddim gweld y dyn oni bai fod ein brawd bach gyda ni.’
Gene WelBeibl 44:27  A dyma dad yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi'n gwybod mai dau fab roddodd fy ngwraig i mi.
Gene WelBeibl 44:28  Mae un wedi mynd – wedi'i rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg – a dw i ddim wedi'i weld ers hynny.
Gene WelBeibl 44:29  Os cymerwch chi ei frawd oddi arna i hefyd, a bod rhywbeth yn digwydd iddo, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i i'r bedd.’
Gene WelBeibl 44:30  Mae'r ddau mor agos at ei gilydd. Felly os af i yn ôl at fy nhad heb y bachgen,
Gene WelBeibl 44:31  bydd hynny'n ddigon i'w ladd. Byddai dy weision yn euog o yrru eu tad i'w fedd.
Gene WelBeibl 44:32  Gwnes i addo i dad y byddwn i'n edrych ar ei ôl e. ‘Os wna i ddim dod ag e'n ôl i ti,’ meddwn i wrtho, ‘bydda i'n euog yn dy olwg di am weddill fy mywyd.’
Gene WelBeibl 44:33  Felly plîs, gad i mi aros yma yn gaethwas i'm meistr yn lle'r bachgen. Gad i'r bachgen fynd adre gyda'i frodyr.
Gene WelBeibl 44:34  Sut alla i fynd adre at fy nhad heb y bachgen? Allwn i ddim diodde gweld y poen fyddai hynny'n ei achosi i dad.”