ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 41
Isai | WelBeibl | 41:1 | Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd; dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd. Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud. Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn. | |
Isai | WelBeibl | 41:2 | Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn? Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us. | |
Isai | WelBeibl | 41:3 | Mae'n mynd ar eu holau, ac yn pasio heibio'n ddianaf; dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr! | |
Isai | WelBeibl | 41:4 | Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd? Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? – Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechrau a bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e! | |
Isai | WelBeibl | 41:5 | Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni; mae pob cwr o'r ddaear yn crynu. Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos! | |
Isai | WelBeibl | 41:7 | Mae'r saer coed yn annog y gof aur, a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro'r einion. Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!” ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud, “Fydd hwnna ddim yn symud!” | |
Isai | WelBeibl | 41:8 | Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi'i ddewis – disgynyddion Abraham, fy ffrind i. | |
Isai | WelBeibl | 41:9 | Des i â ti yma o bell, a'th alw o ben draw'r byd, a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti! | |
Isai | WelBeibl | 41:10 | Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di! Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde. | |
Isai | WelBeibl | 41:11 | Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a'u drysu. Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw. | |
Isai | WelBeibl | 41:12 | Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod. | |
Isai | WelBeibl | 41:13 | Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i'n dy helpu di.” | |
Isai | WelBeibl | 41:14 | Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel – Bydda i'n dy helpu di! —meddai'r ARGLWYDD. Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel. | |
Isai | WelBeibl | 41:15 | Bydda i'n dy wneud di yn sled ddyrnu – un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu ac yn gwneud bryniau fel us. | |
Isai | WelBeibl | 41:16 | Byddi'n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di'n llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel. | |
Isai | WelBeibl | 41:17 | Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim, ac sydd bron tagu gan syched, bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw. | |
Isai | WelBeibl | 41:18 | Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau. | |
Isai | WelBeibl | 41:19 | Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i'n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd – | |
Isai | WelBeibl | 41:20 | er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd. | |
Isai | WelBeibl | 41:21 | “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD. “Sut ydych chi am bledio?” meddai Brenin Jacob. | |
Isai | WelBeibl | 41:22 | “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy'n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol – i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau, neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol? | |
Isai | WelBeibl | 41:23 | Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau! Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg – fydd yn gwneud i ni ryfeddu! | |
Isai | WelBeibl | 41:24 | Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod; allwch chi wneud dim byd o gwbl! Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd! | |
Isai | WelBeibl | 41:25 | Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod: yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i. Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd neu fel mae crochenydd yn sathru clai. | |
Isai | WelBeibl | 41:26 | Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau? Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw, i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’? Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim. Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair! | |
Isai | WelBeibl | 41:27 | Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion: ‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’ Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem! | |
Isai | WelBeibl | 41:28 | Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhain yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i. | |