Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 32
Jere WelBeibl 32:1  Rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers deg mlynedd, bron. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar,
Jere WelBeibl 32:2  ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda.
Jere WelBeibl 32:3  Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi.
Jere WelBeibl 32:4  Bydd y Brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol.
Jere WelBeibl 32:5  Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr ARGLWYDD, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!”
Jere WelBeibl 32:6  Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:
Jere WelBeibl 32:7  ‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’
Jere WelBeibl 32:8  A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn, roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD wedi siarad gyda mi.
Jere WelBeibl 32:9  “Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano.
Jere WelBeibl 32:10  Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'u selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo.
Jere WelBeibl 32:11  Roedd dau gopi o'r gweithredoedd – un wedi'i selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn, dyma fi'n eu rhoi nhw
Jere WelBeibl 32:12  i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu.
Jere WelBeibl 32:13  Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd,
Jere WelBeibl 32:14  ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi'i selio a'r un agored, a'u rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.”
Jere WelBeibl 32:15  Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’
Jere WelBeibl 32:16  “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch, dyma fi'n gweddïo ar yr ARGLWYDD:
Jere WelBeibl 32:17  ‘O, Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu'r nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud.
Jere WelBeibl 32:18  Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy dy enw di.
Jere WelBeibl 32:19  Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
Jere WelBeibl 32:20  Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti.
Jere WelBeibl 32:21  Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.
Jere WelBeibl 32:22  Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi'i addo i'w hynafiaid nhw.
Jere WelBeibl 32:23  Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi'u dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw.
Jere WelBeibl 32:24  Mae rampiau gwarchae wedi'u codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio.
Jere WelBeibl 32:25  Ac eto, er bod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”
Jere WelBeibl 32:27  “Yr ARGLWYDD ydw i, Duw'r ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud.
Jere WelBeibl 32:28  Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro.
Jere WelBeibl 32:29  Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai lle buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna'n fy ngwylltio i.
Jere WelBeibl 32:30  Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi'u cerfio,’ meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 32:31  ‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi.
Jere WelBeibl 32:32  Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem!
Jere WelBeibl 32:33  Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio'u dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro.
Jere WelBeibl 32:34  Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.
Jere WelBeibl 32:35  Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’
Jere WelBeibl 32:36  “‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma:
Jere WelBeibl 32:37  ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw. Rôn i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Rôn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff.
Jere WelBeibl 32:39  Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau.
Jere WelBeibl 32:40  Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto.
Jere WelBeibl 32:41  Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’
Jere WelBeibl 32:42  “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’
Jere WelBeibl 32:43  ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi'i choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto.
Jere WelBeibl 32:44  Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD.