Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 13
Levi WelBeibl 13:2  “Pan fydd gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion.
Levi WelBeibl 13:3  Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
Levi WelBeibl 13:4  “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:5  Os bydd y drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall.
Levi WelBeibl 13:6  Wedyn, os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:7  “Os bydd y rash yn dod yn ôl ac yn ymledu wedyn, rhaid mynd at yr offeiriad eto.
Levi WelBeibl 13:8  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os ydy'r rash wedi lledu, bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:9  “Pan fydd gan rywun afiechyd ar y croen, rhaid mynd â'r person hwnnw at yr offeiriad
Levi WelBeibl 13:10  i'w archwilio. Os ydy'r smotyn yn wyn, y briw wedi casglu, a'r blew wedi troi'n wyn,
Levi WelBeibl 13:11  mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan.
Levi WelBeibl 13:12  Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
Levi WelBeibl 13:13  Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
Levi WelBeibl 13:14  Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:15  Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:16  “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:17  “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:18  “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle, rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:19  “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle, rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:20  Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus sydd wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.
Levi WelBeibl 13:21  Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:22  “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan.
Levi WelBeibl 13:23  Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:24  “Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn,
Levi WelBeibl 13:25  rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
Levi WelBeibl 13:26  Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:27  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:28  Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e.
Levi WelBeibl 13:29  “Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r ên,
Levi WelBeibl 13:30  rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r ên.
Levi WelBeibl 13:31  Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:32  Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal i'w weld ddim dyfnach na'r croen,
Levi WelBeibl 13:33  rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.
Levi WelBeibl 13:34  Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i'w weld ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:35  Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân,
Levi WelBeibl 13:36  rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.
Levi WelBeibl 13:37  Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:38  “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn,
Levi WelBeibl 13:39  rhaid i offeiriad eu harchwilio. Os ydy'r smotiau'n lliw gwelw, dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.
Levi WelBeibl 13:40  “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
Levi WelBeibl 13:41  “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
Levi WelBeibl 13:42  Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel, mae'n glefyd heintus sy'n lledu.
Levi WelBeibl 13:43  Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff,
Levi WelBeibl 13:44  rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.
Levi WelBeibl 13:45  “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo'i ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’
Levi WelBeibl 13:46  Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.
Levi WelBeibl 13:47  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:48  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:49  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:50  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:51  Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod, mae'r eitem wedi'i difetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei phwrpas, rhaid iddi gael ei llosgi.
Levi WelBeibl 13:52  Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod, mae'r eitem wedi'i difetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei phwrpas, rhaid iddi gael ei llosgi.
Levi WelBeibl 13:53  “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu,
Levi WelBeibl 13:54  rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei gosod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
Levi WelBeibl 13:55  Wedyn bydd yr offeiriad yn ei harchwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn.
Levi WelBeibl 13:56  Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi, rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd.
Levi WelBeibl 13:57  Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr.
Levi WelBeibl 13:58  Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:59  “Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.”