LEVITICUS
Chapter 25
Levi | WelBeibl | 25:2 | “Dwed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r ARGLWYDD a gorffwys. | |
Levi | WelBeibl | 25:3 | Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd. | |
Levi | WelBeibl | 25:4 | Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r ARGLWYDD – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd. | |
Levi | WelBeibl | 25:5 | Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn. | |
Levi | WelBeibl | 25:6 | Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun – chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:7 | Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwyllt sy'n byw ar y tir. | |
Levi | WelBeibl | 25:8 | “Bob pedwar deg naw mlynedd (sef saith Saboth o flynyddoedd – saith wedi'i luosi gyda saith), | |
Levi | WelBeibl | 25:9 | ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, sef y diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn, rhaid canu'r corn hwrdd drwy'r wlad i gyd. | |
Levi | WelBeibl | 25:10 | Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi'i chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy'r wlad i gyd – blwyddyn o ddathlu. Mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig. | |
Levi | WelBeibl | 25:11 | Mae hon i fod yn flwyddyn o ddathlu mawr. Rhaid i chi beidio hau na chasglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. | |
Levi | WelBeibl | 25:12 | Mae'n flwyddyn o ddathlu, wedi'i chysegru. Mae unigolion i gael bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun. | |
Levi | WelBeibl | 25:14 | Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais. | |
Levi | WelBeibl | 25:15 | Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. | |
Levi | WelBeibl | 25:16 | Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd, bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi. | |
Levi | WelBeibl | 25:17 | Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:18 | “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn. | |
Levi | WelBeibl | 25:20 | Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau. | |
Levi | WelBeibl | 25:21 | Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd. | |
Levi | WelBeibl | 25:22 | Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu. | |
Levi | WelBeibl | 25:23 | “Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd biau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:25 | “Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl. | |
Levi | WelBeibl | 25:26 | Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny. | |
Levi | WelBeibl | 25:27 | Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu'r tir, talu'r gwahaniaeth i'r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl. | |
Levi | WelBeibl | 25:28 | Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae'r tir i aros yn nwylo'r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno. | |
Levi | WelBeibl | 25:29 | “Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo'i werthu. | |
Levi | WelBeibl | 25:30 | Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr. | |
Levi | WelBeibl | 25:31 | Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae yna'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr. | |
Levi | WelBeibl | 25:32 | “Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd. | |
Levi | WelBeibl | 25:33 | Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'u trefi nhw yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw. | |
Levi | WelBeibl | 25:34 | A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser. | |
Levi | WelBeibl | 25:35 | “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd. | |
Levi | WelBeibl | 25:36 | Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:37 | Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a pheidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo. | |
Levi | WelBeibl | 25:38 | Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:39 | “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu'i hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas. | |
Levi | WelBeibl | 25:40 | Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. | |
Levi | WelBeibl | 25:42 | Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision. | |
Levi | WelBeibl | 25:44 | “Os oes gynnoch chi eisiau dynion neu ferched yn gaethweision, dylech chi eu prynu nhw o'r gwledydd eraill sydd o'ch cwmpas. | |
Levi | WelBeibl | 25:45 | Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd – hyd yn oed y rhai sydd wedi'u geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi. | |
Levi | WelBeibl | 25:46 | Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon. | |
Levi | WelBeibl | 25:47 | “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu. | |
Levi | WelBeibl | 25:49 | neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun. | |
Levi | WelBeibl | 25:50 | Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr sy'n cael ei gyflogi wedi'i ennill yn y blynyddoedd hynny. | |
Levi | WelBeibl | 25:53 | Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon. | |
Levi | WelBeibl | 25:54 | Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr – y dyn a'i blant gydag e. | |