Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 23
Prov WelBeibl 23:1  Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr, gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn;
Prov WelBeibl 23:3  Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion, mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
Prov WelBeibl 23:4  Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian; bydd yn ddigon call i ymatal.
Prov WelBeibl 23:5  Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
Prov WelBeibl 23:6  Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd; paid stwffio dy hun gyda'i ddanteithion.
Prov WelBeibl 23:7  Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta! Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,” ond dydy e ddim yn meddwl hynny go iawn.
Prov WelBeibl 23:8  Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi'i fwyta, ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
Prov WelBeibl 23:9  Paid dweud gormod wrth ffŵl; fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
Prov WelBeibl 23:10  Paid symud yr hen ffiniau, a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
Prov WelBeibl 23:11  mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf, a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
Prov WelBeibl 23:12  Penderfyna dy fod eisiau dysgu a gwrando ar eiriau doeth.
Prov WelBeibl 23:13  Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn; dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.
Prov WelBeibl 23:15  Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth, bydda i'n hapus iawn.
Prov WelBeibl 23:16  Bydda i wrth fy modd yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.
Prov WelBeibl 23:17  Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu – bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.
Prov WelBeibl 23:18  Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
Prov WelBeibl 23:19  Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth; penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
Prov WelBeibl 23:20  Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed, ac yn stwffio'u hunain hefo bwyd.
Prov WelBeibl 23:21  Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd; fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
Prov WelBeibl 23:22  Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd; a phaid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
Prov WelBeibl 23:23  Gafael yn y gwirionedd, a phaid â'i ollwng, doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
Prov WelBeibl 23:24  Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn bydd ei dad mor hapus; mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
Prov WelBeibl 23:25  Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau; felly gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
Prov WelBeibl 23:26  Dw i eisiau dy sylw di, fy mab; gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
Prov WelBeibl 23:27  Mae putain fel pwll dwfn, a gwraig anfoesol fel pydew cul.
Prov WelBeibl 23:28  Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr; ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
Prov WelBeibl 23:29  Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus? Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg? Pwy sy'n cael damweiniau diangen? Pwy sydd â llygaid cochion?
Prov WelBeibl 23:30  Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân, ac yn trio rhyw ddiod newydd o hyd.
Prov WelBeibl 23:31  Paid llygadu'r gwin coch yna sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr ac yn mynd i lawr mor dda.
Prov WelBeibl 23:32  Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd; bydd fel brathiad gwiber.
Prov WelBeibl 23:33  Byddi'n gweld pethau rhyfedd, a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
Prov WelBeibl 23:34  Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr, neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
Prov WelBeibl 23:35  “Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd; ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth. Pryd dw i'n mynd i sobri? – Dw i angen diod arall.”