Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 11
I Ch WelBeibl 11:1  Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd.
I Ch WelBeibl 11:2  Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yna dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”
I Ch WelBeibl 11:3  Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb â nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, fel roedd Duw wedi addo drwy Samuel.
I Ch WelBeibl 11:4  Aeth Dafydd a byddin Israel i ymosod ar Jerwsalem, sef Jebws. (Y Jebwsiaid oedd wedi byw yn yr ardal honno erioed.)
I Ch WelBeibl 11:5  A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).
I Ch WelBeibl 11:6  Roedd Dafydd wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n arwain yr ymosodiad ar y Jebwsiaid yn cael ei wneud yn bennaeth y fyddin!” Joab fab Serwia wnaeth arwain yr ymosodiad, a daeth yn bennaeth y fyddin.
I Ch WelBeibl 11:7  Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a dyna pam mae'n cael ei galw yn Ddinas Dafydd.
I Ch WelBeibl 11:8  Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas, o'r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas.
I Ch WelBeibl 11:9  Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD hollbwerus gydag e.
I Ch WelBeibl 11:10  Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.
I Ch WelBeibl 11:11  Dyma restr o'i filwyr dewr: Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
I Ch WelBeibl 11:12  Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o'r ‛Tri Dewr‛.
I Ch WelBeibl 11:13  Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid.
I Ch WelBeibl 11:14  Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.
I Ch WelBeibl 11:15  Dyma dri o'r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.
I Ch WelBeibl 11:16  Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem.
I Ch WelBeibl 11:17  Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”
I Ch WelBeibl 11:18  Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod â'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD,
I Ch WelBeibl 11:19  a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro'u bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro'u bywydau i'w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.
I Ch WelBeibl 11:20  Abishai, brawd Joab, oedd pennaeth y ‛Tri dewr‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd yn enwog fel y Tri.
I Ch WelBeibl 11:21  A dweud y gwir, roedd e'n fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e'i hun ddim yn un o'r ‛Tri‛.
I Ch WelBeibl 11:22  Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël, yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
I Ch WelBeibl 11:23  Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
I Ch WelBeibl 11:24  Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
I Ch WelBeibl 11:25  Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
I Ch WelBeibl 11:26  Dyma restr o'r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
I Ch WelBeibl 11:31  Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon,
I Ch WelBeibl 11:34  meibion Hashem o Gison, Jonathan fab Sage o Harar,
I Ch WelBeibl 11:39  Selec o Ammon, Nachrai o Beroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
I Ch WelBeibl 11:42  Adina fab Shisa, arweinydd llwyth Reuben, a'r tri deg o filwyr oedd gydag e,
I Ch WelBeibl 11:44  Wsïa o Ashtaroth, Shama a Jeiel, meibion Chotham o Aroer,
I Ch WelBeibl 11:46  Eliel y Machafiad, Ierifai a Ioshafeia, meibion Elnaäm, ac Ithma o Moab,