ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 14
Isai | WelBeibl | 14:1 | Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob, ac yn dewis Israel unwaith eto. Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain, a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw ac yn uniaethu gyda phobl Jacob. | |
Isai | WelBeibl | 14:2 | Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad. Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw, i'w drin gan eu gweision a'u morynion. Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw, ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw. | |
Isai | WelBeibl | 14:3 | Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas, | |
Isai | WelBeibl | 14:4 | byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon: “Ble mae'r gormeswr wedi diflannu? Mae ei falchder wedi dod i ben! | |
Isai | WelBeibl | 14:6 | Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a'u herlid yn ddi-baid. | |
Isai | WelBeibl | 14:8 | Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus, a'r coed cedrwydd yn Libanus yn canu: ‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr, dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’ | |
Isai | WelBeibl | 14:9 | Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di – bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau. | |
Isai | WelBeibl | 14:10 | Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau'n wan fel ni! | |
Isai | WelBeibl | 14:11 | Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi eu tynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti! | |
Isai | WelBeibl | 14:12 | Y fath gwymp! Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o'r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear – ti oedd yn sathru'r holl wledydd! | |
Isai | WelBeibl | 14:13 | Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun, “Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i'n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell. | |
Isai | WelBeibl | 14:16 | Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni: “Ai hwn ydy'r dyn wnaeth i'r ddaear grynu, a dychryn teyrnasoedd? | |
Isai | WelBeibl | 14:17 | Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd – heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’ | |
Isai | WelBeibl | 14:18 | Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd – pob un ohonyn nhw – yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain. | |
Isai | WelBeibl | 14:19 | Ond ti? – Cest ti dy adael heb dy gladdu, yn ffiaidd, fel ffetws wedi'i erthylu. Fel corff marw yn y dillad a wisgai pan gafodd ei drywanu â'r cleddyf. Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll, neu gorff yn cael ei sathru dan draed. | |
Isai | WelBeibl | 14:20 | Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill, am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun a lladd dy bobl dy hun. Boed i neb fyth eto gofio'r fath hil o bobl ddrwg! | |
Isai | WelBeibl | 14:21 | Paratowch floc i ddienyddio'i feibion o achos drygioni eu tad. Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tir a llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!” | |
Isai | WelBeibl | 14:22 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw. Bydda i'n dileu pob enw o Babilon, a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno, eu plant a'u disgynyddion i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 14:23 | Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogod a'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd. Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr.” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn. | |
Isai | WelBeibl | 14:24 | Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi tyngu llw: “Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i; bydd fy nghynlluniau'n dod yn wir. | |
Isai | WelBeibl | 14:25 | Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir, ac yn ei sathru ar fy mryniau. Bydd ei hiau yn cael ei thynnu oddi ar fy mhobl, a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau. | |
Isai | WelBeibl | 14:26 | Dyna'r cynllun sydd gen i ar gyfer y ddaear gyfan. Dyna pam mae fy llaw yn barod i ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.” | |
Isai | WelBeibl | 14:27 | Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus gynllun – pwy sy'n mynd i'w rwystro? Mae ei law yn barod i weithredu – pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl? | |
Isai | WelBeibl | 14:29 | Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd, am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi'i thorri. O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi, gwiber wibiog fydd ei ffrwyth. | |
Isai | WelBeibl | 14:30 | Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori, a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel. Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn, a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl. | |
Isai | WelBeibl | 14:31 | Udwch wrth y giatiau a sgrechian yn y ddinas; mae Philistia i gyd mewn dychryn! Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd, a does neb yn ei rengoedd yn llusgo'i draed. | |