Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 14
Levi WelBeibl 14:2  “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen: “Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad.
Levi WelBeibl 14:3  Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella,
Levi WelBeibl 14:4  bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.
Levi WelBeibl 14:5  Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
Levi WelBeibl 14:6  Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd.
Levi WelBeibl 14:7  Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
Levi WelBeibl 14:8  “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio'i gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 14:9  Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.
Levi WelBeibl 14:10  “Y diwrnod wedyn, mae i fynd â dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed, sydd â dim byd o'i le arnyn nhw, at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd.
Levi WelBeibl 14:11  Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhau yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 14:12  Yno, bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd ac yn eu codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:13  Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd biau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 14:14  “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
Levi WelBeibl 14:15  Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun.
Levi WelBeibl 14:16  Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:17  Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Levi WelBeibl 14:18  Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw:
Levi WelBeibl 14:19  bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan roedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi.
Levi WelBeibl 14:20  Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw, a bydd e'n lân.
Levi WelBeibl 14:21  “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw. Hefyd, un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn.
Levi WelBeibl 14:22  Hefyd, dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi.
Levi WelBeibl 14:23  Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod i gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:24  “Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:25  Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
Levi WelBeibl 14:26  Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.
Levi WelBeibl 14:27  Yna gyda bys ei law dde, mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:28  Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Levi WelBeibl 14:29  Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw.
Levi WelBeibl 14:30  “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio).
Levi WelBeibl 14:31  Mae un i'w gyflwyno'n offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw.
Levi WelBeibl 14:32  Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”
Levi WelBeibl 14:34  “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, dyma beth sydd rhaid ei wneud os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai:
Levi WelBeibl 14:35  Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’
Levi WelBeibl 14:36  Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ.
Levi WelBeibl 14:37  Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb,
Levi WelBeibl 14:38  mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 14:39  Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ,
Levi WelBeibl 14:40  mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:41  Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:42  Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ailblastro.
Levi WelBeibl 14:43  “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ailblastro'r tŷ,
Levi WelBeibl 14:44  mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu, mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
Levi WelBeibl 14:45  Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael eu taflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:46  Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi'i gau, yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 14:47  A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.
Levi WelBeibl 14:48  “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ailblastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd.
Levi WelBeibl 14:49  Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cymryd dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop.
Levi WelBeibl 14:50  Bydd yn lladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
Levi WelBeibl 14:51  Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e.
Levi WelBeibl 14:52  Dyna sut y bydd e'n glanhau'r tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch.
Levi WelBeibl 14:53  Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto.
Levi WelBeibl 14:54  “Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws,
Levi WelBeibl 14:55  llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ,
Levi WelBeibl 14:57  Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.”