Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 22
II S WelBeibl 22:1  Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul:
II S WelBeibl 22:2  Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr.
II S WelBeibl 22:3  Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani; yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Mae'n fy achub i rhag trais.
II S WelBeibl 22:4  Galwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
II S WelBeibl 22:5  Rôn i'n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
II S WelBeibl 22:6  Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas, a maglau marwolaeth o'm blaen.
II S WelBeibl 22:7  Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw.
II S WelBeibl 22:8  Yna dyma'r ddaear yn symud a chrynu. Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynu ac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
II S WelBeibl 22:9  Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono.
II S WelBeibl 22:10  Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
II S WelBeibl 22:11  Marchogai ar gerwbiaid yn hedfan; a chodi ar adenydd y gwynt.
II S WelBeibl 22:12  Gwisgodd dywyllwch drosto – cymylau duon stormus; a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas.
II S WelBeibl 22:13  Roedd golau disglair o'i flaen a'r mellt fel marwor tanllyd.
II S WelBeibl 22:14  Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr – sŵn llais y Goruchaf yn galw.
II S WelBeibl 22:15  Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
II S WelBeibl 22:16  Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i'r ARGLWYDD ruo, a chwythu anadl o'i ffroenau.
II S WelBeibl 22:17  Estynnodd i lawr o'r uchelder a gafael ynof; tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
II S WelBeibl 22:18  Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig – y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
II S WelBeibl 22:19  Dyma nhw'n ymosod pan oeddwn mewn helbul, ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
II S WelBeibl 22:20  Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
II S WelBeibl 22:21  Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân, ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
II S WelBeibl 22:22  Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
II S WelBeibl 22:23  Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
II S WelBeibl 22:24  Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
II S WelBeibl 22:25  Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
II S WelBeibl 22:26  Rwyt ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon, ac yn deg â'r rhai di-euog.
II S WelBeibl 22:27  Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
II S WelBeibl 22:28  Ti'n achub pobl sy'n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch.
II S WelBeibl 22:29  Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD, ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
II S WelBeibl 22:30  Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
II S WelBeibl 22:31  Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
II S WelBeibl 22:32  Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
II S WelBeibl 22:33  Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth – mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
II S WelBeibl 22:34  Mae'n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
II S WelBeibl 22:35  Dysgodd fi sut i ymladd – dw i'n gallu plygu bwa o bres!
II S WelBeibl 22:36  Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
II S WelBeibl 22:37  Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu.
II S WelBeibl 22:38  Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
II S WelBeibl 22:39  Bydda i'n eu dinistrio a'u taro, nes byddan nhw'n methu codi; bydda i'n eu sathru nhw dan draed.
II S WelBeibl 22:40  Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
II S WelBeibl 22:41  Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
II S WelBeibl 22:42  Roedden nhw'n edrych am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb.
II S WelBeibl 22:43  Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr; a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.
II S WelBeibl 22:44  Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod.
II S WelBeibl 22:45  Mae estroniaid yn crynu o'm blaen. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!
II S WelBeibl 22:46  Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
II S WelBeibl 22:47  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
II S WelBeibl 22:48  Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
II S WelBeibl 22:49  Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
II S WelBeibl 22:50  Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw:
II S WelBeibl 22:51  Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin – un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog – i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.