Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 107
Psal WelBeibl 107:1  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Psal WelBeibl 107:2  Gadewch i'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi'u gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi'u rhyddhau o afael y gelyn.
Psal WelBeibl 107:3  Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill, o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
Psal WelBeibl 107:4  Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt, ac yn methu dod o hyd i dre lle gallen nhw fyw.
Psal WelBeibl 107:5  Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli pob egni.
Psal WelBeibl 107:6  Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,
Psal WelBeibl 107:7  ac yn eu harwain nhw'n syth i le y gallen nhw setlo i lawr ynddo.
Psal WelBeibl 107:8  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:9  Mae wedi rhoi diod i'r sychedig, a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.
Psal WelBeibl 107:10  Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew, ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,
Psal WelBeibl 107:11  am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw, a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.
Psal WelBeibl 107:12  Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde. Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.
Psal WelBeibl 107:13  Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:14  Daeth â nhw allan o'r tywyllwch, a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo.
Psal WelBeibl 107:15  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:16  Mae wedi dryllio'r drysau pres, a thorri'r barrau haearn.
Psal WelBeibl 107:17  Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddiodde am bechu a chamfihafio.
Psal WelBeibl 107:18  Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr, ac roedden nhw'n agos at farw.
Psal WelBeibl 107:19  Ond dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:20  Dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu, ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth.
Psal WelBeibl 107:21  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:22  Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo, a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi'i wneud!
Psal WelBeibl 107:23  Aeth rhai eraill ar longau i'r môr, i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.
Psal WelBeibl 107:24  Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud, y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.
Psal WelBeibl 107:25  Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi, ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.
Psal WelBeibl 107:26  I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw! Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
Psal WelBeibl 107:27  Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi, a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.
Psal WelBeibl 107:28  Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:29  Gwnaeth i'r storm dawelu; roedd y tonnau'n llonydd.
Psal WelBeibl 107:30  Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu, ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.
Psal WelBeibl 107:31  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:32  Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa, a'i foli o flaen yr arweinwyr.
Psal WelBeibl 107:33  Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch, a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,
Psal WelBeibl 107:34  tir ffrwythlon yn dir diffaith am fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.
Psal WelBeibl 107:35  Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau!
Psal WelBeibl 107:36  Yna rhoi pobl newynog i fyw yno, ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi.
Psal WelBeibl 107:37  Maen nhw'n hau hadau yn y caeau ac yn plannu coed gwinwydd, ac yn cael cynhaeaf mawr.
Psal WelBeibl 107:38  Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw, a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid.
Psal WelBeibl 107:39  Bydd y rhai sy'n gorthrymu yn colli eu pobl, yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch.
Psal WelBeibl 107:40  Mae Duw yn dwyn anfri ar dywysogion, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau.
Psal WelBeibl 107:41  Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff, rhag iddyn nhw ddiodde, ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau.
Psal WelBeibl 107:42  Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu – ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi.
Psal WelBeibl 107:43  Dylai'r rhai sy'n ddoeth gymryd sylw o'r pethau hyn, a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD.