Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 23
Ezek WelBeibl 23:2  “Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam.
Ezek WelBeibl 23:3  Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff.
Ezek WelBeibl 23:4  Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Rôn i wedi'u priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.)
Ezek WelBeibl 23:5  “Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria
Ezek WelBeibl 23:6  yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri.
Ezek WelBeibl 23:7  Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 23:8  Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
Ezek WelBeibl 23:9  Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau.
Ezek WelBeibl 23:10  Dyma nhw'n rhwygo'i dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu.
Ezek WelBeibl 23:11  “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau!
Ezek WelBeibl 23:12  Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd.
Ezek WelBeibl 23:13  Rôn i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer.
Ezek WelBeibl 23:14  “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi'u cerfio'n goch llachar ar waliau.
Ezek WelBeibl 23:15  Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a thwrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea.
Ezek WelBeibl 23:16  Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati.
Ezek WelBeibl 23:17  Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati.
Ezek WelBeibl 23:18  “A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Rôn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer.
Ezek WelBeibl 23:19  Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc!
Ezek WelBeibl 23:20  Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni.
Ezek WelBeibl 23:21  Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau.
Ezek WelBeibl 23:22  “Felly, Oholiba, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad –
Ezek WelBeibl 23:23  y Babiloniaid a phobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri.
Ezek WelBeibl 23:24  Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu'u hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'u tarianau bach a mawr, ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw ddelio gyda ti yn ôl eu harferion eu hunain.
Ezek WelBeibl 23:25  “Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw.
Ezek WelBeibl 23:26  Byddan nhw'n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd.
Ezek WelBeibl 23:27  Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto!
Ezek WelBeibl 23:28  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw.
Ezek WelBeibl 23:29  Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan oeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio.
Ezek WelBeibl 23:30  Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw.
Ezek WelBeibl 23:31  Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti.
Ezek WelBeibl 23:32  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer – cwpan fawr, ddofn, yn llawn i'r ymylon (a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben).
Ezek WelBeibl 23:33  Byddi'n hollol feddw ac yn y felan: Mae cwpan dy chwaer, Samaria, yn gwpan dychryn a dinistr.
Ezek WelBeibl 23:34  Byddi'n yfed pob diferyn yna'i malu'n ddarnau a rhwygo dy fronnau. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
Ezek WelBeibl 23:35  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a throi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.”
Ezek WelBeibl 23:36  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dwed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod!
Ezek WelBeibl 23:37  Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth.
Ezek WelBeibl 23:38  Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 23:39  Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i!
Ezek WelBeibl 23:40  “Ac wedyn roedden nhw'n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau.
Ezek WelBeibl 23:41  Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o'i blaen gydag arogldarth ac olew arno – fy rhai i!
Ezek WelBeibl 23:42  Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bobman, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau.
Ezek WelBeibl 23:43  “A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’
Ezek WelBeibl 23:44  A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol!
Ezek WelBeibl 23:45  Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud.
Ezek WelBeibl 23:46  “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw!
Ezek WelBeibl 23:47  Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig, a'u taro i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant ac yn llosgi eu tai!
Ezek WelBeibl 23:48  Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a pheidio gwneud yr un peth.
Ezek WelBeibl 23:49  Byddan nhw'n talu'n ôl i ti am y ffordd rwyt ti wedi ymddwyn. Byddi'n cael dy gosbi am bechu gyda dy eilun-dduwiau. A byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.”