Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOEL
Up
1 2 3
Toggle notes
Chapter 1
Joel WelBeibl 1:2  Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr; a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw! Ydych chi wedi gweld y fath beth? Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?
Joel WelBeibl 1:3  Dwedwch wrth eich plant am y peth. Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw, a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.
Joel WelBeibl 1:4  Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall wedi dinistrio'r cnydau i gyd! Beth bynnag oedd wedi'i adael ar ôl gan un haid roedd yr haid nesaf yn ei fwyta!
Joel WelBeibl 1:5  Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crio! Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo! Does dim ar ôl! Mae'r gwin melys wedi'i gymryd oddi arnoch.
Joel WelBeibl 1:6  Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad – gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Mae ganddyn nhw ddannedd fel llew neu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth.
Joel WelBeibl 1:7  Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd, a does dim ar ôl o'r coed ffigys. Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd, a gadael y canghennau'n wynion.
Joel WelBeibl 1:8  Wylwch! Udo'n uchel fel merch ifanc yn galaru mewn sachliain am fod y dyn roedd hi ar fin ei briodi wedi marw.
Joel WelBeibl 1:9  Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r deml nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDD yn galaru.
Joel WelBeibl 1:10  Mae'r caeau'n wag. Does dim byd yn tyfu ar y tir. Does dim cnydau ŷd na haidd, dim grawnwin i roi ei sudd, a dim olew o'r olewydd.
Joel WelBeibl 1:11  Mae'r ffermwyr wedi anobeithio, a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crio. Does dim ŷd na haidd yn tyfu; mae'r cnydau i gyd wedi methu.
Joel WelBeibl 1:12  Mae'r gwinwydd wedi crino, ac mae'r coed olewydd wedi gwywo. Does dim pomgranadau, dim datys, a dim afalau. Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino; Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!
Joel WelBeibl 1:13  Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru. Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor. Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain, am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml. Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.
Joel WelBeibl 1:14  Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw. Dewch â'r arweinwyr a phawb arall at ei gilydd i deml yr ARGLWYDD eich Duw; dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD.
Joel WelBeibl 1:15  O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni! Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!
Joel WelBeibl 1:16  Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau, a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw!
Joel WelBeibl 1:17  Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear. Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio. Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!
Joel WelBeibl 1:18  Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer. Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch, am fod dim porfa iddyn nhw. Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef.
Joel WelBeibl 1:19  ARGLWYDD, dw i'n galw arnat ti am help. Mae'r tir pori fel petai tân wedi'i losgi; a fflamau wedi difetha'r coed i gyd.
Joel WelBeibl 1:20  Mae'r anifeiliaid gwyllt yn brefu arnat ti am fod pob ffynnon a nant wedi sychu, a thir pori'r anialwch wedi'i losgi gan dân.
Chapter 2
Joel WelBeibl 2:1  Chwythwch y corn hwrdd yn Seion; Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig! Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn, am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod. Ydy, mae'n agos!
Joel WelBeibl 2:2  Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol. Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau. Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.
Joel WelBeibl 2:3  Mae fflamau tân o'u cwmpas, yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd. Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden, ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith. Does dim posib dianc!
Joel WelBeibl 2:4  Maen nhw'n edrych fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
Joel WelBeibl 2:5  Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfel yn rhuthro dros y bryniau; fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt, neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.
Joel WelBeibl 2:6  Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau; mae wynebau pawb yn troi'n welw gan ofn.
Joel WelBeibl 2:7  Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsio ac yn dringo i fyny'r waliau. Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledig does dim un yn gadael y rhengoedd.
Joel WelBeibl 2:8  Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd; mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen. Dydy saethau a gwaywffyn ddim yn gallu eu stopio.
Joel WelBeibl 2:9  Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas, yn dringo dros y waliau, ac i mewn i'r tai. Maen nhw'n dringo i mewn fel lladron drwy'r ffenestri.
Joel WelBeibl 2:10  Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau, a'r awyr yn chwyrlïo. Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu, a'r sêr yn diflannu.
Joel WelBeibl 2:11  Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu wrth iddo arwain ei fyddin. Mae eu niferoedd yn enfawr! Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn. Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?
Joel WelBeibl 2:12  Ond dyma neges yr ARGLWYDD: “Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad.
Joel WelBeibl 2:13  Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo'ch dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi.
Joel WelBeibl 2:14  Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl. Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen! Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!
Joel WelBeibl 2:15  Chwythwch y corn hwrdd yn Seion! Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.
Joel WelBeibl 2:16  Casglwch y bobl i gyd, a pharatoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli. Dewch â'r arweinwyr at ei gilydd. Dewch â'r plant yno, a'r babis bach. Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod – does neb i gadw draw!
Joel WelBeibl 2:17  Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, wylo o'r cyntedd i'r allor, a gweddïo fel hyn: “ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl? Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort. Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni! Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud, ‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”
Joel WelBeibl 2:18  Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl.
Joel WelBeibl 2:19  Dyma fe'n dweud wrth ei bobl: “Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto! Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi, a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd. Bydd gynnoch chi fwy na digon! Fyddwch chi ddim yn destun sbort i'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
Joel WelBeibl 2:20  Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd, ac yn ei wthio i dir sych a diffaith. Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain, a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Yno y byddan nhw'n pydru, a bydd eu drewdod yn codi.” Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!
Joel WelBeibl 2:21  Ti ddaear, paid bod ag ofn! Gelli ddathlu a bod yn llawen, am fod yr ARGLWYDD yn gwneud pethau mor wych!
Joel WelBeibl 2:22  Anifeiliaid gwyllt, peidiwch bod ag ofn! Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori, ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed. Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.
Joel WelBeibl 2:23  Dathlwch chithau, bobl Seion! Mwynhewch beth mae Duw wedi'i wneud! Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn – rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref, a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.
Joel WelBeibl 2:24  “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd, a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.
Joel WelBeibl 2:25  Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta; y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.
Joel WelBeibl 2:26  Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta. Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw, sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi. Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.
Joel WelBeibl 2:27  Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti, ac mai fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw – yr unig Dduw sy'n bod. Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.”
Joel WelBeibl 2:28  “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.
Joel WelBeibl 2:29  Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a'r morynion.
Joel WelBeibl 2:30  Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac ar y ddaear – gwaed a thân a cholofnau o fwg.
Joel WelBeibl 2:31  Bydd yr haul yn troi'n dywyll, a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod, sef dydd barn yr ARGLWYDD.”
Joel WelBeibl 2:32  Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub. Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo: “ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” Bydd rhai o'r bobl yn goroesi – pobl wedi'u galw gan yr ARGLWYDD.
Chapter 3
Joel WelBeibl 3:1  Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.
Joel WelBeibl 3:2  Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Yno bydda i'n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, rhannu y tir rois i iddyn nhw
Joel WelBeibl 3:3  a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion. Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain, a merch fach am win i'w yfed.
Joel WelBeibl 3:4  Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!
Joel WelBeibl 3:5  Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi.
Joel WelBeibl 3:6  Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain.
Joel WelBeibl 3:7  Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!
Joel WelBeibl 3:8  Bydda i'n rhoi'ch meibion a'ch merched chi i bobl Jwda i'w gwerthu. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!
Joel WelBeibl 3:9  Cyhoedda wrth y cenhedloedd: Paratowch eich hunain i fynd i ryfel. Galwch eich milwyr gorau! Dewch yn eich blaen i ymosod!
Joel WelBeibl 3:10  Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau, a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
Joel WelBeibl 3:11  Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd. Dewch at eich gilydd yno! (“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)
Joel WelBeibl 3:12  Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd, i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Yno bydda i'n eistedd i lawr i farnu'r cenhedloedd i gyd.
Joel WelBeibl 3:13  Mae'r cynhaeaf yn barod i'w fedi gyda'r cryman! Mae'r winwasg yn llawn grawnwin sy'n barod i'w sathru! Bydd y cafnau yn gorlifo! Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
Joel WelBeibl 3:14  Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!
Joel WelBeibl 3:15  Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu, a'r sêr wedi diflannu.
Joel WelBeibl 3:16  Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu. Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo, mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.
Joel WelBeibl 3:17  Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig. Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig, a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.
Joel WelBeibl 3:18  Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd, a llaeth yn llifo o'r bryniau; fydd nentydd Jwda byth yn sychu. Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo allan o deml yr ARGLWYDD, i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia.
Joel WelBeibl 3:19  Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda, a lladd pobl ddiniwed yno, bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag ac Edom yn anialwch llwm.
Joel WelBeibl 3:20  Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser, ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.
Joel WelBeibl 3:21  Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw? Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw. Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!