GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 31
Gene | WelBeibl | 31:1 | Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar dad. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw. | |
Gene | WelBeibl | 31:3 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.” | |
Gene | WelBeibl | 31:4 | Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i gefn gwlad lle roedd y preiddiau. | |
Gene | WelBeibl | 31:5 | Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi. | |
Gene | WelBeibl | 31:7 | Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi. | |
Gene | WelBeibl | 31:8 | Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith. | |
Gene | WelBeibl | 31:10 | “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion. | |
Gene | WelBeibl | 31:12 | ‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di. | |
Gene | WelBeibl | 31:13 | Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! Dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’” | |
Gene | WelBeibl | 31:14 | A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad. | |
Gene | WelBeibl | 31:15 | Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e! | |
Gene | WelBeibl | 31:16 | Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi'i ddweud wrthot ti.” | |
Gene | WelBeibl | 31:17 | Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod. | |
Gene | WelBeibl | 31:18 | Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan. | |
Gene | WelBeibl | 31:19 | Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol. | |
Gene | WelBeibl | 31:20 | Roedd Jacob hefyd wedi twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho. | |
Gene | WelBeibl | 31:21 | Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead. | |
Gene | WelBeibl | 31:23 | Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead. | |
Gene | WelBeibl | 31:24 | Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd yn erbyn Jacob.” | |
Gene | WelBeibl | 31:25 | Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd. | |
Gene | WelBeibl | 31:26 | “Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel! | |
Gene | WelBeibl | 31:27 | Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth. | |
Gene | WelBeibl | 31:28 | Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan i ffarwelio â'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion. | |
Gene | WelBeibl | 31:29 | Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd yn erbyn Jacob.’ | |
Gene | WelBeibl | 31:30 | Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?” | |
Gene | WelBeibl | 31:31 | A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Rôn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i. | |
Gene | WelBeibl | 31:32 | Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd biau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi'u dwyn nhw.) | |
Gene | WelBeibl | 31:33 | Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel. | |
Gene | WelBeibl | 31:34 | (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 31:35 | A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu. | |
Gene | WelBeibl | 31:36 | Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi'i wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma? | |
Gene | WelBeibl | 31:37 | Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni. | |
Gene | WelBeibl | 31:38 | Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta. | |
Gene | WelBeibl | 31:39 | Os oedd rhai wedi'u lladd gan anifeiliaid gwyllt, wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos. | |
Gene | WelBeibl | 31:40 | Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg. | |
Gene | WelBeibl | 31:41 | Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro. | |
Gene | WelBeibl | 31:42 | Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.” | |
Gene | WelBeibl | 31:43 | Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant? | |
Gene | WelBeibl | 31:44 | Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb â'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.” | |
Gene | WelBeibl | 31:46 | Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno. | |
Gene | WelBeibl | 31:48 | “Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd. | |
Gene | WelBeibl | 31:49 | Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd. | |
Gene | WelBeibl | 31:50 | Os gwnei di gam-drin fy merched i neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.” | |
Gene | WelBeibl | 31:52 | Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi. | |
Gene | WelBeibl | 31:53 | Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli. | |
Gene | WelBeibl | 31:54 | A dyma fe'n cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos. | |