PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 18
Psal | WelBeibl | 18:2 | Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani, yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. | |
Psal | WelBeibl | 18:3 | Galwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion. | |
Psal | WelBeibl | 18:6 | Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw. | |
Psal | WelBeibl | 18:7 | Yna, dyma'r ddaear yn symud a chrynu. Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynu ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio. | |
Psal | WelBeibl | 18:8 | Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono. | |
Psal | WelBeibl | 18:11 | Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto – cymylau duon stormus, a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas. | |
Psal | WelBeibl | 18:12 | Roedd golau disglair o'i flaen; saethodd mellt o'r cymylau, cenllysg a marwor tanllyd. | |
Psal | WelBeibl | 18:15 | Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i ti ruo, O ARGLWYDD, a chwythu anadl o dy ffroenau. | |
Psal | WelBeibl | 18:17 | Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig, a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi. | |
Psal | WelBeibl | 18:20 | Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. | |
Psal | WelBeibl | 18:21 | Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. | |
Psal | WelBeibl | 18:24 | Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân. | |
Psal | WelBeibl | 18:26 | Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest. | |
Psal | WelBeibl | 18:28 | Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o ARGLWYDD; fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch. | |
Psal | WelBeibl | 18:29 | Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! | |
Psal | WelBeibl | 18:30 | Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato. | |
Psal | WelBeibl | 18:35 | Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian; mae dy law gref yn fy nghynnal. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo. | |
Psal | WelBeibl | 18:37 | Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod. | |
Psal | WelBeibl | 18:38 | Dyma fi'n eu taro nhw i lawr, nes eu bod yn methu codi; roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed. | |
Psal | WelBeibl | 18:40 | Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr. | |
Psal | WelBeibl | 18:41 | Roedden nhw'n galw am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb. | |
Psal | WelBeibl | 18:42 | Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt; a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd. | |
Psal | WelBeibl | 18:43 | Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod. | |
Psal | WelBeibl | 18:45 | Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau. | |
Psal | WelBeibl | 18:46 | Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! | |
Psal | WelBeibl | 18:48 | Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. | |
Psal | WelBeibl | 18:49 | Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw: | |