NEHEMIAH
Chapter 7
Nehe | WelBeibl | 7:1 | Roedd y wal wedi'i gorffen, drysau'r giatiau wedi'u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi'u penodi. | |
Nehe | WelBeibl | 7:2 | A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl. | |
Nehe | WelBeibl | 7:3 | Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.” | |
Nehe | WelBeibl | 7:4 | Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi'u hadeiladu ynddi bryd hynny. | |
Nehe | WelBeibl | 7:5 | A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi'i gofnodi: | |
Nehe | WelBeibl | 7:6 | Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. | |
Nehe | WelBeibl | 7:7 | Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl: | |
Nehe | WelBeibl | 7:61 | Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol): | |
Nehe | WelBeibl | 7:63 | Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw). | |
Nehe | WelBeibl | 7:64 | Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. | |
Nehe | WelBeibl | 7:65 | Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim. | |
Nehe | WelBeibl | 7:67 | (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). | |
Nehe | WelBeibl | 7:70 | Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith. Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid. | |
Nehe | WelBeibl | 7:72 | Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid. | |