Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 33
Numb WelBeibl 33:1  Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron.
Numb WelBeibl 33:2  Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw:
Numb WelBeibl 33:3  Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd.
Numb WelBeibl 33:4  Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi'u lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw'n dda i ddim.
Numb WelBeibl 33:5  Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
Numb WelBeibl 33:6  Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.
Numb WelBeibl 33:7  Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.
Numb WelBeibl 33:8  Gadael Pi-hachiroth, a mynd drwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.
Numb WelBeibl 33:9  Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.
Numb WelBeibl 33:14  Gadael Alwsh a gwersylla yn Reffidim, lle doedd dim dŵr i bobl ei yfed.
Numb WelBeibl 33:16  Gadael anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaäfa.
Numb WelBeibl 33:17  Yna gadael Cibroth-hattaäfa a gwersylla yn Chatseroth.
Numb WelBeibl 33:23  Gadael Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Sheffer.
Numb WelBeibl 33:32  Gadael Benei-iaacân a gwersylla yn Chor-haggidgad.
Numb WelBeibl 33:36  Gadael Etsion-geber a gwersylla yn Cadesh yn anialwch Sin.
Numb WelBeibl 33:37  Gadael Cadesh a gwersylla wrth Fynydd Hor sydd ar ffin gwlad Edom.
Numb WelBeibl 33:38  Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
Numb WelBeibl 33:40  Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.
Numb WelBeibl 33:41  Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.
Numb WelBeibl 33:44  Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.
Numb WelBeibl 33:46  Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaîm.
Numb WelBeibl 33:47  Gadael Almon-diblathaîm a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.
Numb WelBeibl 33:48  Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Numb WelBeibl 33:49  (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)
Numb WelBeibl 33:50  Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
Numb WelBeibl 33:51  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan,
Numb WelBeibl 33:52  dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi'u cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.
Numb WelBeibl 33:53  Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.
Numb WelBeibl 33:54  “‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan – pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar le mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid.
Numb WelBeibl 33:55  Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi – fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr.
Numb WelBeibl 33:56  A bydda i'n gwneud i chi beth roeddwn i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”