Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
RUTH
Up
1 2 3 4
Toggle notes
Chapter 1
Ruth WelBeibl 1:1  Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e.
Ruth WelBeibl 1:2  Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno.
Ruth WelBeibl 1:3  Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab.
Ruth WelBeibl 1:4  Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd,
Ruth WelBeibl 1:5  dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.
Ruth WelBeibl 1:6  Tra oedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab.
Ruth WelBeibl 1:7  Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda.
Ruth WelBeibl 1:8  Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw.
Ruth WelBeibl 1:9  A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crio'n uchel.
Ruth WelBeibl 1:10  “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.”
Ruth WelBeibl 1:11  Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw.
Ruth WelBeibl 1:12  Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant,
Ruth WelBeibl 1:13  fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”
Ruth WelBeibl 1:14  Dyma nhw'n dechrau crio'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael.
Ruth WelBeibl 1:15  Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.”
Ruth WelBeibl 1:16  Ond atebodd Ruth, “Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di a throi cefn arnat ti. Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.
Ruth WelBeibl 1:17  Ble bynnag fyddi di'n marw, dyna lle fyddai i'n marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.”
Ruth WelBeibl 1:18  Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.
Ruth WelBeibl 1:19  A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?”
Ruth WelBeibl 1:20  A dyma hi'n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‛Naomi‛. Galwch fi'n ‛Mara‛. Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i'n chwerw iawn.
Ruth WelBeibl 1:21  Roedd fy mywyd i'n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi'n ‛Naomi‛ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a'r Un sy'n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
Ruth WelBeibl 1:22  Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab gyda'i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw'n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.
Chapter 2
Ruth WelBeibl 2:1  Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech.
Ruth WelBeibl 2:2  Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi.
Ruth WelBeibl 2:3  Felly aeth Ruth i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.
Ruth WelBeibl 2:4  A phwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
Ruth WelBeibl 2:5  Yna gofynnodd Boas i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?”
Ruth WelBeibl 2:6  “Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw.
Ruth WelBeibl 2:7  “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
Ruth WelBeibl 2:8  Dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi.
Ruth WelBeibl 2:9  Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A phan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi'u llenwi.”
Ruth WelBeibl 2:10  Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”
Ruth WelBeibl 2:11  “Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi'i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.
Ruth WelBeibl 2:12  Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.”
Ruth WelBeibl 2:13  Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er nad ydw i'n un o'r merched sy'n gweithio i ti.”
Ruth WelBeibl 2:14  Pan oedd hi'n amser bwyta, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi'i grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.
Ruth WelBeibl 2:15  Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a pheidiwch â'i dwrdio hi.
Ruth WelBeibl 2:16  Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.”
Ruth WelBeibl 2:17  Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi. Ar ôl iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi'i gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd!
Ruth WelBeibl 2:18  Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi'i gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd dros ben ers amser cinio iddi hefyd.
Ruth WelBeibl 2:19  Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.
Ruth WelBeibl 2:20  “Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.”
Ruth WelBeibl 2:21  Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”
Ruth WelBeibl 2:22  A dyma Naomi yn dweud, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel yna, fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”
Ruth WelBeibl 2:23  Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas. Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.
Chapter 3
Ruth WelBeibl 3:1  Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Fy merch, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di.
Ruth WelBeibl 3:2  Nawr, mae Boas, y dyn buost ti'n gweithio gyda'i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae'n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu.
Ruth WelBeibl 3:3  Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed.
Ruth WelBeibl 3:4  Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud.”
Ruth WelBeibl 3:6  ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.
Ruth WelBeibl 3:7  Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo'n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. A dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi'r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr.
Ruth WelBeibl 3:8  Yna ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed.
Ruth WelBeibl 3:9  “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy'r perthynas agosaf, yr un sy'n gyfrifol am y teulu.”
Ruth WelBeibl 3:10  “Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti'n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth rwyt ti'n wneud nawr yn well na'r hyn wyt wedi'i wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o'r dynion ifanc, boed hwnnw'n dlawd neu'n gyfoethog.
Ruth WelBeibl 3:11  Nawr te, merch i, paid poeni. Bydda i'n gwneud popeth rwyt ti wedi'i ofyn i mi. Mae'r dre i gyd yn gwybod dy fod ti'n ferch dda.
Ruth WelBeibl 3:12  Mae'n wir fy mod i'n berthynas agos i ti, ond mae yna un sy'n perthyn yn agosach.
Ruth WelBeibl 3:13  Aros yma heno. Yn y bore, os bydd e am weithredu fel y perthynas sydd i ofalu amdanat ti, iawn. Ond os fydd e'n dewis peidio dw i'n addo'n bendant i ti y bydda i'n dy briodi di. Cysga yma tan y bore.”
Ruth WelBeibl 3:14  Felly dyma Ruth yn cysgu wrth ymyl Boas tan y bore. Dyma hi'n deffro cyn iddi oleuo. Dwedodd Boas wrthi, “Does neb i gael gwybod fod merch wedi bod i'r llawr dyrnu.”
Ruth WelBeibl 3:15  Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti'n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi'n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre.
Ruth WelBeibl 3:16  Pan gyrhaeddodd adre dyma Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, yn gofyn iddi, “Sut aeth hi, merch i?” Dyma Ruth yn dweud am bopeth roedd y dyn wedi'i wneud iddi.
Ruth WelBeibl 3:17  Ac meddai, “Mae e wedi rhoi'r haidd yma i mi – mae yma tua 35 cilogram! Dwedodd wrtho i. ‘Paid mynd yn ôl at dy fam-yng-nghyfraith yn waglaw,’”
Ruth WelBeibl 3:18  Ac meddai Naomi, “Disgwyl di, merch i, i ni gael gweld sut fydd pethau yn troi allan. Fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes bydd e wedi setlo'r mater heddiw.”
Chapter 4
Ruth WelBeibl 4:1  Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd.
Ruth WelBeibl 4:2  Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e.
Ruth WelBeibl 4:3  Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni.
Ruth WelBeibl 4:4  Rôn i'n meddwl y dylwn i adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau'i brynu e, cymera fe, os nad wyt ti ei eisiau gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.” A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.”
Ruth WelBeibl 4:5  Ond wedyn dyma Boas yn dweud wrtho, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”
Ruth WelBeibl 4:6  “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”
Ruth WelBeibl 4:7  Y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl oedd: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd i gadarnhau cytundeb yn Israel.
Ruth WelBeibl 4:8  Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.
Ruth WelBeibl 4:9  A dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.
Ruth WelBeibl 4:10  Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, fel bod ei enw ddim yn diflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn i gyd, heddiw!”
Ruth WelBeibl 4:11  A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem.
Ruth WelBeibl 4:12  A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi'i rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fel teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”
Ruth WelBeibl 4:13  Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab.
Ruth WelBeibl 4:14  A dwedodd y gwragedd wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel.
Ruth WelBeibl 4:15  Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!”
Ruth WelBeibl 4:16  A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei gliniau a'i fagu.
Ruth WelBeibl 4:17  Rhoddodd y gwragedd lleol enw iddo, sef Obed, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!” Obed oedd tad Jesse a thaid y Brenin Dafydd.
Ruth WelBeibl 4:18  Dyma ddisgynyddion Perets: Perets oedd tad Hesron,
Ruth WelBeibl 4:20  Aminadab oedd tad Nachshon, Nachshon oedd tad Salmon,