Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next
Chapter 27
Matt WelBeibl 27:1  Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth.
Matt WelBeibl 27:2  Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.
Matt WelBeibl 27:3  Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr.
Matt WelBeibl 27:4  “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”
Matt WelBeibl 27:5  Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.
Matt WelBeibl 27:6  Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.”
Matt WelBeibl 27:7  Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon.
Matt WelBeibl 27:8  A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw.
Matt WelBeibl 27:9  A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),
Matt WelBeibl 27:10  a phrynu maes y crochenydd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.”
Matt WelBeibl 27:11  Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Matt WelBeibl 27:12  Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb.
Matt WelBeibl 27:13  A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?”
Matt WelBeibl 27:14  Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad. Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr.
Matt WelBeibl 27:15  Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa'n ei ddewis.
Matt WelBeibl 27:16  Ar y pryd, roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o'r enw Barabbas.
Matt WelBeibl 27:17  Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas? neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?”
Matt WelBeibl 27:18  (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)
Matt WelBeibl 27:19  Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.”
Matt WelBeibl 27:20  Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio.
Matt WelBeibl 27:21  Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!”
Matt WelBeibl 27:22  “Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!”
Matt WelBeibl 27:23  “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi'i wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
Matt WelBeibl 27:24  Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!”
Matt WelBeibl 27:25  Dyma'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a'n plant!”
Matt WelBeibl 27:26  Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.
Matt WelBeibl 27:27  Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas.
Matt WelBeibl 27:28  Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano,
Matt WelBeibl 27:29  plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw.
Matt WelBeibl 27:30  Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen.
Matt WelBeibl 27:31  Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Matt WelBeibl 27:32  Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
Matt WelBeibl 27:33  Ar ôl cyrraedd y lle sy'n cael ei alw yn Golgotha (sef ‛Lle y Benglog‛),
Matt WelBeibl 27:34  dyma nhw'n cynnig diod o win wedi'i gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed.
Matt WelBeibl 27:35  Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Matt WelBeibl 27:36  Wedyn dyma nhw'n eistedd i lawr i gadw golwg arno.
Matt WelBeibl 27:37  Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON.
Matt WelBeibl 27:38  Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo.
Matt WelBeibl 27:39  Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato,
Matt WelBeibl 27:40  “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!”
Matt WelBeibl 27:41  Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd.
Matt WelBeibl 27:42  “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am iddo ddod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn!
Matt WelBeibl 27:43  Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?”
Matt WelBeibl 27:44  Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio.
Matt WelBeibl 27:45  O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.
Matt WelBeibl 27:46  Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eli! Eli! L'ma shfachtâni?” – sy'n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”
Matt WelBeibl 27:47  Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
Matt WelBeibl 27:48  Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu ei yfed.
Matt WelBeibl 27:49  Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”
Matt WelBeibl 27:50  Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.
Matt WelBeibl 27:51  Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
Matt WelBeibl 27:52  a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol
Matt WelBeibl 27:53  allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd lot fawr o bobl nhw.)
Matt WelBeibl 27:54  Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'r milwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu, ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!”
Matt WelBeibl 27:55  Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen.
Matt WelBeibl 27:56  Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago ac Ioan (sef gwraig Sebedeus) hefyd.
Matt WelBeibl 27:57  Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat.
Matt WelBeibl 27:58  Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo.
Matt WelBeibl 27:59  Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân.
Matt WelBeibl 27:60  Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi'i naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd.
Matt WelBeibl 27:61  Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno'n eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl.
Matt WelBeibl 27:62  Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn mynd i weld Peilat.
Matt WelBeibl 27:63  “Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd.’
Matt WelBeibl 27:64  Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!”
Matt WelBeibl 27:65  “Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.”
Matt WelBeibl 27:66  Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod.