Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 24
Gene WelBeibl 24:1  Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i fendithio ym mhob ffordd.
Gene WelBeibl 24:2  Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw,
Gene WelBeibl 24:3  ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na fyddi di'n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i'm mab i.
Gene WelBeibl 24:4  Dw i eisiau i ti fynd i'm gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.”
Gene WelBeibl 24:5  Meddai'r gwas, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i'r wlad honno?”
Gene WelBeibl 24:6  “Na,” meddai Abraham, “gwna di'n siŵr na fyddi byth yn mynd a'm mab i yn ôl yno.
Gene WelBeibl 24:7  Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno.
Gene WelBeibl 24:8  Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di'n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â'm mab i yn ôl yno.”
Gene WelBeibl 24:9  Felly dyma'r gwas yn addo ar lw y byddai'n gwneud yn union fel roedd ei feistr wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 24:10  Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi'u llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia.
Gene WelBeibl 24:11  Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.)
Gene WelBeibl 24:12  Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr.
Gene WelBeibl 24:13  Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr.
Gene WelBeibl 24:14  Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi'i dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”
Gene WelBeibl 24:15  Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham).
Gene WelBeibl 24:16  Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny.
Gene WelBeibl 24:17  Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”
Gene WelBeibl 24:18  “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.
Gene WelBeibl 24:19  Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”
Gene WelBeibl 24:20  Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.
Gene WelBeibl 24:21  Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld a oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus iddo ai peidio.
Gene WelBeibl 24:22  Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.
Gene WelBeibl 24:23  Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”
Gene WelBeibl 24:24  Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor.
Gene WelBeibl 24:25  Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.”
Gene WelBeibl 24:26  Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 24:27  “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”
Gene WelBeibl 24:28  Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 24:29  Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew.
Gene WelBeibl 24:30  Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi'i ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna lle roedd y dyn, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.
Gene WelBeibl 24:31  Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam wyt ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.”
Gene WelBeibl 24:32  Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed.
Gene WelBeibl 24:33  Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.”
Gene WelBeibl 24:35  “Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
Gene WelBeibl 24:36  Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab.
Gene WelBeibl 24:37  Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i.
Gene WelBeibl 24:38  Dw i am i ti fynd yn ôl i gartref fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’
Gene WelBeibl 24:39  Dwedais wrth fy meistr, ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’
Gene WelBeibl 24:40  Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartref fy nhad.
Gene WelBeibl 24:41  Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’
Gene WelBeibl 24:42  “Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd:
Gene WelBeibl 24:43  Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?”
Gene WelBeibl 24:44  Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi'i dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’
Gene WelBeibl 24:45  Rôn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’
Gene WelBeibl 24:46  Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Ces i yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd.
Gene WelBeibl 24:47  Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Atebodd hithau, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Yna dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi,
Gene WelBeibl 24:48  a plygu i addoli'r ARGLWYDD. Rôn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
Gene WelBeibl 24:49  Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
Gene WelBeibl 24:50  Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.
Gene WelBeibl 24:51  Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”
Gene WelBeibl 24:52  Pan glywodd gwas Abraham hyn, plygodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 24:53  Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.
Gene WelBeibl 24:54  Ar ôl gwneud hynny, dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos. Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.”
Gene WelBeibl 24:55  Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.”
Gene WelBeibl 24:56  Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.”
Gene WelBeibl 24:57  “Beth am ei galw hi draw a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw.
Gene WelBeibl 24:58  A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.”
Gene WelBeibl 24:59  Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi'i magu, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e.
Gene WelBeibl 24:60  Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi, “Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau! Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”
Gene WelBeibl 24:61  Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.
Gene WelBeibl 24:62  Un noson roedd Isaac yn dod o gyfeiriad Beër-lachai-roi. (Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.)
Gene WelBeibl 24:63  Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad.
Gene WelBeibl 24:64  Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel
Gene WelBeibl 24:65  a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.
Gene WelBeibl 24:66  Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 24:67  Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam.