Chapter 1
II T | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi'i addo i'r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia, | |
II T | WelBeibl | 1:2 | At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni. | |
II T | WelBeibl | 1:3 | Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i'n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. | |
II T | WelBeibl | 1:4 | Dw i'n cofio dy ddagrau di pan oeddwn i'n dy adael, a dw i'n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny'n fy ngwneud i'n wirioneddol hapus. | |
II T | WelBeibl | 1:5 | Dw i'n cofio fel rwyt ti'n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath. | |
II T | WelBeibl | 1:6 | Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith. | |
II T | WelBeibl | 1:7 | Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i'n gwneud ni'n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol. | |
II T | WelBeibl | 1:8 | Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A phaid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da. | |
II T | WelBeibl | 1:9 | Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau, | |
II T | WelBeibl | 1:10 | a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da. | |
II T | WelBeibl | 1:11 | Dyma'r newyddion da dw i wedi cael fy newis i'w gyhoeddi a'i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu. | |
II T | WelBeibl | 1:12 | Dyna pam dw i'n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i'n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i'n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi'i roi yn ei ofal yn saff, nes daw'r diwrnod pan fydd e'n dod yn ôl. | |
II T | WelBeibl | 1:13 | Cofia beth wnes i ei ddweud, a'i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i'r Meseia Iesu. | |
II T | WelBeibl | 1:14 | Gyda help yr Ysbryd Glân sy'n byw ynon ni, cadw'r trysor sydd wedi'i roi yn dy ofal yn saff. | |
II T | WelBeibl | 1:15 | Fel rwyt ti'n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. | |
II T | WelBeibl | 1:16 | Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn ei dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. | |
II T | WelBeibl | 1:17 | Yn hollol fel arall! – pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhobman nes llwyddo i ddod o hyd i mi. | |
Chapter 2
II T | WelBeibl | 2:2 | Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. | |
II T | WelBeibl | 2:4 | Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio'i gapten. | |
II T | WelBeibl | 2:5 | Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. | |
II T | WelBeibl | 2:7 | Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. | |
II T | WelBeibl | 2:8 | Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi'i godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi. | |
II T | WelBeibl | 2:9 | A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! | |
II T | WelBeibl | 2:10 | Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi'u dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. | |
II T | WelBeibl | 2:11 | Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda'r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; | |
II T | WelBeibl | 2:12 | os byddwn ni'n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; | |
II T | WelBeibl | 2:13 | Os ydyn ni'n anffyddlon, bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. | |
II T | WelBeibl | 2:14 | Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando. | |
II T | WelBeibl | 2:15 | Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn. | |
II T | WelBeibl | 2:16 | Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. | |
II T | WelBeibl | 2:17 | Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus | |
II T | WelBeibl | 2:18 | – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! | |
II T | WelBeibl | 2:19 | Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi'u cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.” | |
II T | WelBeibl | 2:20 | Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi'u gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. | |
II T | WelBeibl | 2:21 | Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da. | |
II T | WelBeibl | 2:22 | Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn. | |
II T | WelBeibl | 2:23 | Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro. | |
II T | WelBeibl | 2:24 | Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. | |
II T | WelBeibl | 2:25 | Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir; | |
Chapter 3
II T | WelBeibl | 3:1 | Ond dw i eisiau i ti ddeall hyn: Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. | |
II T | WelBeibl | 3:2 | Bydd pobl yn byw i'w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw'n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. | |
II T | WelBeibl | 3:3 | Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. | |
II T | WelBeibl | 3:4 | Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw'u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw. | |
II T | WelBeibl | 3:5 | Maen nhw'n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw'n gwrthod y nerth sy'n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Paid cael dim i'w wneud â phobl felly. | |
II T | WelBeibl | 3:6 | Nhw ydy'r math o bobl sy'n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy'n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae'r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw'n cael y gorau arnyn nhw. | |
II T | WelBeibl | 3:7 | Gwragedd sy'n cael eu ‛dysgu‛ drwy'r adeg, ond yn methu'n lân a chael gafael yn y gwir. | |
II T | WelBeibl | 3:8 | Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu. | |
II T | WelBeibl | 3:9 | Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres. | |
II T | WelBeibl | 3:10 | Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati. | |
II T | WelBeibl | 3:11 | Rwyt ti'n gwybod am yr erledigaeth a'r cwbl dw i wedi'i ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae'r Arglwydd wedi fy achub i o'r cwbl! | |
II T | WelBeibl | 3:12 | Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. | |
II T | WelBeibl | 3:13 | Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi'u twyllo'u hunain yr un pryd. | |
II T | WelBeibl | 3:14 | Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi'i ddysgu. Rwyt ti'n gwybod yn iawn mai dyna ydy'r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. | |
II T | WelBeibl | 3:15 | Roeddet ti'n gyfarwydd â'r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Drwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. | |
II T | WelBeibl | 3:16 | Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw'n dysgu beth sy'n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni'n ei wneud o'i le, a'n dysgu ni i fyw yn iawn. | |
Chapter 4
II T | WelBeibl | 4:1 | Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw a'r rhai sydd wedi marw). Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i'n dy siarsio di | |
II T | WelBeibl | 4:2 | i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i'r gwir. | |
II T | WelBeibl | 4:3 | Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. | |
II T | WelBeibl | 4:5 | Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi'i roi i ti. | |
II T | WelBeibl | 4:6 | Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi'i dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod. | |
II T | WelBeibl | 4:7 | Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. | |
II T | WelBeibl | 4:8 | Bellach mae'r wobr wedi'i chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl. | |
II T | WelBeibl | 4:10 | Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia. | |
II T | WelBeibl | 4:11 | Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith. | |
II T | WelBeibl | 4:13 | A phan ddoi di, tyrd â'r gôt adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau. | |
II T | WelBeibl | 4:14 | Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu. | |
II T | WelBeibl | 4:15 | Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni. | |
II T | WelBeibl | 4:16 | Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi'u cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. | |
II T | WelBeibl | 4:17 | Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro! | |
II T | WelBeibl | 4:18 | A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! | |
II T | WelBeibl | 4:20 | Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus. | |
II T | WelBeibl | 4:21 | Plîs, gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti. | |