Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LAMENTATIONS
1 2 3 4 5
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
Lame WelBeibl 3:1  Y proffwyd: Dw i'n ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i.
Lame WelBeibl 3:2  Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd i fyw yng nghanol tywyllwch dudew.
Lame WelBeibl 3:3  Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro, yn ddi-stop.
Lame WelBeibl 3:4  Mae wedi curo fy nghorff yn ddim, ac wedi torri fy esgyrn.
Lame WelBeibl 3:5  Mae fel byddin wedi fy amgylchynu, yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw.
Lame WelBeibl 3:6  Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
Lame WelBeibl 3:7  Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trwm.
Lame WelBeibl 3:8  Dw i'n gweiddi'n daer am help, ond dydy e'n cymryd dim sylw.
Lame WelBeibl 3:9  Mae wedi blocio pob ffordd allan; mae pob llwybr fel drysfa!
Lame WelBeibl 3:11  Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau. Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun.
Lame WelBeibl 3:13  Gollyngodd ei saethau a'm trywanu yn fy mherfedd.
Lame WelBeibl 3:14  Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort, ac yn fy ngwawdio i ar gân.
Lame WelBeibl 3:15  Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod.
Lame WelBeibl 3:16  Mae wedi gwneud i mi gnoi graean, ac wedi rhwbio fy wyneb yn y baw.
Lame WelBeibl 3:17  Does gen i ddim tawelwch meddwl; dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus.
Lame WelBeibl 3:18  Dwedais, “Alla i ddim cario mlaen. Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.”
Lame WelBeibl 3:19  Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartref yn brofiad chwerw!
Lame WelBeibl 3:20  Mae ar fy meddwl drwy'r amser, ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd.
Lame WelBeibl 3:21  Ond wedyn dw i'n cofio hyn, a dyma sy'n rhoi gobaith i mi:
Lame WelBeibl 3:22  Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a'i garedigrwydd e'n para am byth.
Lame WelBeibl 3:23  Maen nhw'n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!”
Lame WelBeibl 3:24  “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i'n gobeithio.”
Lame WelBeibl 3:25  Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio, ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help.
Lame WelBeibl 3:26  Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i'r ARGLWYDD ddod i'n hachub ni.
Lame WelBeibl 3:27  Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae'n dal yn ifanc.
Lame WelBeibl 3:28  Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.
Lame WelBeibl 3:29  Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd.
Lame WelBeibl 3:30  Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio.
Lame WelBeibl 3:32  Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr.
Lame WelBeibl 3:33  Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl.
Lame WelBeibl 3:35  a hawliau dynol yn cael eu diystyru, a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun;
Lame WelBeibl 3:36  os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys – ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl?
Lame WelBeibl 3:37  Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei ganiatáu?
Lame WelBeibl 3:38  Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd – p'run ai dinistr neu fendith?
Lame WelBeibl 3:39  Pa hawl sydd gan rywun i gwyno pan mae'n cael ei gosbi am ei bechod?
Lame WelBeibl 3:40  Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD.
Lame WelBeibl 3:41  Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwylo at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu,
Lame WelBeibl 3:42  “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol, a ti ddim wedi maddau i ni.
Lame WelBeibl 3:43  Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd.
Lame WelBeibl 3:44  Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd.
Lame WelBeibl 3:45  Ti wedi'n gwneud ni fel sbwriel a baw yng ngolwg y bobloedd.
Lame WelBeibl 3:46  Mae ein gelynion i gyd yn gwneud hwyl am ein pennau.
Lame WelBeibl 3:47  Mae panig a'r pydew wedi'n dal ni, difrod a dinistr.”
Lame WelBeibl 3:48  Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio.
Lame WelBeibl 3:49  Mae'r dagrau'n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio
Lame WelBeibl 3:50  nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd ac yn ein gweld ni.
Lame WelBeibl 3:51  Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist.
Lame WelBeibl 3:52  Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn, heb reswm da i wneud hynny.
Lame WelBeibl 3:53  Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew ac yna ei gau gyda charreg.
Lame WelBeibl 3:54  Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen; rôn i'n meddwl mod i'n mynd i foddi.
Lame WelBeibl 3:55  Ond dyma fi'n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD, o waelod y pydew.
Lame WelBeibl 3:56  Dyma ti'n fy nghlywed i'n pledio, “Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!”
Lame WelBeibl 3:57  A dyma ti'n dod ata i pan o'n i'n galw, a dweud, “Paid bod ag ofn!”
Lame WelBeibl 3:58  Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos; rwyt wedi dod i'm hachub.
Lame WelBeibl 3:59  Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD, felly wnei di farnu o'm plaid i?
Lame WelBeibl 3:60  Ti wedi gweld eu malais nhw, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
Lame WelBeibl 3:61  Ti wedi'u clywed nhw'n gwawdio, O ARGLWYDD, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i.
Lame WelBeibl 3:62  Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwd ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser.
Lame WelBeibl 3:63  Edrycha arnyn nhw! – O fore gwyn tan nos maen nhw'n fy ngwawdio i ar gân.
Lame WelBeibl 3:64  Tala nôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD; rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.
Lame WelBeibl 3:66  Dos ar eu holau yn dy lid, a'u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD.