Chapter 1
I Th | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus, At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni Duw a'i heddwch dwfn. | |
I Th | WelBeibl | 1:2 | Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi'n gyson. | |
I Th | WelBeibl | 1:3 | Bob tro dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a'n Tad, dŷn ni'n cofio am y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu; am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi, a'ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist. | |
I Th | WelBeibl | 1:4 | Dŷn ni'n gwybod, ffrindiau, fod Duw wedi'ch caru chi a'ch dewis chi yn bobl iddo'i hun. | |
I Th | WelBeibl | 1:5 | Pan ddaethon ni â'n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i'w weld, ac roedden ni'n hollol sicr fod ein neges ni'n wir. A dych chi'n gwybod hefyd sut roedden ni'n ymddwyn yn eich plith chi – roedden ni'n gwneud y cwbl er eich lles chi. | |
I Th | WelBeibl | 1:6 | A dyma chi'n derbyn y neges gyda'r brwdfrydedd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi, er eich bod chi wedi gorfod dioddef am wneud hynny. Roeddech chi'n dilyn ein hesiampl ni, a'r Arglwydd Iesu ei hun. | |
I Th | WelBeibl | 1:7 | A dyna sut daethoch chi'ch hunain i fod yn esiampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia. | |
I Th | WelBeibl | 1:8 | Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy'n byw'n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhobman wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth! | |
I Th | WelBeibl | 1:9 | Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw'n sôn amdanoch chi'n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu'r Duw byw ei hun – y Duw go iawn! | |
Chapter 2
I Th | WelBeibl | 2:1 | A ffrindiau, dych chi'ch hunain yn gwybod bod ein hymweliad ni ddim wedi bod yn wastraff amser. | |
I Th | WelBeibl | 2:2 | Er ein bod ni wedi dioddef a chael ein cam-drin yn Philipi, dyma Duw yn rhoi'r hyder i ni i fynd ymlaen i rannu ei newyddion da gyda chi, er gwaetha'r holl wrthwynebiad. | |
I Th | WelBeibl | 2:3 | Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio'ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio'ch tricio chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:4 | Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges am fod Duw wedi'n trystio ni gyda'r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni'n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e'n gwybod beth sy'n ein calonnau ni. | |
I Th | WelBeibl | 2:5 | Dych chi'n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio'ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith – mae Duw'n dyst i hynny! | |
I Th | WelBeibl | 2:7 | Gallen ni fod wedi gofyn i chi'n cynnal ni, gan ein bod ni'n gynrychiolwyr personol i'r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni'n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. | |
I Th | WelBeibl | 2:8 | Gan ein bod ni'n eich caru chi gymaint, roedden ni'n barod i roi'n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni. | |
I Th | WelBeibl | 2:9 | Dych chi'n siŵr o fod yn cofio mor galed y buon ni'n gweithio pan oedden ni acw. Buon ni wrthi'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni tra oedden ni'n pregethu newyddion da Duw i chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:10 | Dych chi'n dystion, ac mae Duw'n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. | |
I Th | WelBeibl | 2:12 | yn eich calonogi chi a'ch cysuro chi a'ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi'ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander. | |
I Th | WelBeibl | 2:13 | Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni'n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn – neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae'n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy'n credu. | |
I Th | WelBeibl | 2:14 | Ffrindiau, mae'r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy'n gwasanaethu'r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef. | |
I Th | WelBeibl | 2:15 | Nhw ydy'r bobl laddodd yr Arglwydd Iesu a'r proffwydi, a nhw sy'n ein herlid ni bellach. Maen nhw'n gwneud Duw yn ddig! Maen nhw'n elynion i'r ddynoliaeth gyfan | |
I Th | WelBeibl | 2:16 | am eu bod nhw'n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi'r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw'n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw'n mynd i'w dal nhw yn y diwedd. | |
I Th | WelBeibl | 2:17 | Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol – achos roeddech chi'n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni'n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni'n benderfynol o ddod yn ôl i'ch gweld chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:19 | Wedi'r cwbl, chi sy'n rhoi gobaith i ni! Chi sy'n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy'r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl! | |
Chapter 3
I Th | WelBeibl | 3:1 | Doeddwn i ddim yn gallu diodde'r disgwyl dim mwy. Dyma ni'n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen. | |
I Th | WelBeibl | 3:2 | Mae'n brawd Timotheus yn gweithio gyda ni i rannu'r newyddion da am y Meseia, a byddai e'n gallu cryfhau eich ffydd chi a'ch calonogi chi, | |
I Th | WelBeibl | 3:3 | rhag i'r treialon dych chi'n mynd drwyddyn nhw eich gwneud chi'n ansicr. Ac eto dych chi'n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy'n credu wynebu treialon o'r fath. | |
I Th | WelBeibl | 3:4 | Pan oedden ni gyda chi, roedden ni'n dweud dro ar ôl tro y bydden ni'n cael ein herlid. A dyna'n union sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi'n rhy dda! | |
I Th | WelBeibl | 3:5 | Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi'n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai'r temtiwr wedi llwyddo i'ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi'i wastraffu? | |
I Th | WelBeibl | 3:6 | Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl, ac wedi rhannu'r newyddion da am eich ffydd chi a'ch cariad chi! Mae'n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi. | |
I Th | WelBeibl | 3:7 | Felly, ffrindiau annwyl, yng nghanol ein holl drafferthion a'r holl erlid dŷn ni'n ei wynebu, dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr am fod eich ffydd chi'n dal yn gryf. | |
I Th | WelBeibl | 3:8 | Mae gwybod eich bod chi'n aros yn ffyddlon i'r Arglwydd wedi'n tanio ni â brwdfrydedd newydd. | |
I Th | WelBeibl | 3:9 | Sut allwn ni ddiolch digon i Dduw amdanoch chi? Dych chi wedi'n gwneud ni mor hapus! | |
I Th | WelBeibl | 3:10 | Ddydd a nos, dŷn ni'n gweddïo'n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i'ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae'r rhai sy'n credu i fyw. | |
I Th | WelBeibl | 3:11 | Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw ein Tad, a'n Harglwydd Iesu Grist, yn ei gwneud hi'n bosib i ni ddod atoch chi'n fuan. | |
I Th | WelBeibl | 3:12 | A bydded i'r Arglwydd wneud i'ch cariad chi at eich gilydd, ac at bawb arall, dyfu nes ei fod yn gorlifo! – yn union yr un fath â'n cariad ni atoch chi. | |
Chapter 4
I Th | WelBeibl | 4:1 | Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy. | |
I Th | WelBeibl | 4:2 | Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni'n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun: | |
I Th | WelBeibl | 4:3 | Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy'n anfoesol yn rhywiol. | |
I Th | WelBeibl | 4:4 | Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol – parchu eich corff a bod yn gyfrifol – | |
I Th | WelBeibl | 4:5 | yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt. | |
I Th | WelBeibl | 4:6 | Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol – dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen. | |
I Th | WelBeibl | 4:8 | Felly mae unrhyw un sy'n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy'n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy'r rhain! | |
I Th | WelBeibl | 4:9 | Ond does dim rhaid i mi ddweud unrhyw beth am y cariad mae Cristnogion i'w ddangos at ei gilydd. Mae'n amlwg fod Duw ei hun – neb llai – wedi'ch dysgu chi i wneud hynny. | |
I Th | WelBeibl | 4:10 | Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy. | |
I Th | WelBeibl | 4:11 | Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi. | |
I Th | WelBeibl | 4:12 | Wedyn bydd pobl sydd ddim yn credu yn parchu'r ffordd dych chi'n byw, a fydd dim rhaid i chi ddibynnu ar neb arall i'ch cynnal chi. | |
I Th | WelBeibl | 4:13 | A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru – does ganddyn nhw ddim gobaith. | |
I Th | WelBeibl | 4:14 | Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl. | |
I Th | WelBeibl | 4:15 | Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw. | |
I Th | WelBeibl | 4:16 | Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. | |
I Th | WelBeibl | 4:17 | Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth. | |
Chapter 5
I Th | WelBeibl | 5:1 | A does dim rhaid i ni ysgrifennu dim i ddweud pryd yn union fydd hyn i gyd yn digwydd. Dych chi'n gwybod yn iawn. | |
I Th | WelBeibl | 5:3 | Bydd pobl yn dweud, “Mae pethau'n mynd yn dda,” a “Dŷn ni'n saff,” ac yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â'r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi. Fydd dim dianc! | |
I Th | WelBeibl | 5:4 | Ond dych chi ddim yn y tywyllwch, ffrindiau, felly ddylai'r diwrnod hwnnw ddim dod yn annisgwyl fel lleidr yn eich profiad chi. | |
I Th | WelBeibl | 5:5 | Plant y goleuni ydych chi i gyd! Plant y dydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i'r nos a'r tywyllwch. | |
I Th | WelBeibl | 5:6 | Felly rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill. Gadewch i ni fod yn effro ac yn sobr. | |
I Th | WelBeibl | 5:8 | Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed. | |
I Th | WelBeibl | 5:9 | Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist. | |
I Th | WelBeibl | 5:10 | Buodd e farw yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag e am byth – ie, ni sy'n dal yn fyw a hefyd y rhai sydd wedi marw. | |
I Th | WelBeibl | 5:12 | Ffrindiau annwyl, dŷn ni am i chi werthfawrogi'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed yn eich plith chi. Maen nhw'n gofalu amdanoch chi ac yn eich dysgu chi sut i fyw yn ffyddlon i'r Arglwydd. | |
I Th | WelBeibl | 5:13 | Dylech chi wir eu parchu nhw a dangos cariad mawr tuag atyn nhw o achos y gwaith maen nhw'n ei wneud. Dylech fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd. | |
I Th | WelBeibl | 5:14 | A ffrindiau annwyl, dŷn ni'n apelio ar i chi rybuddio'r bobl hynny sy'n bod yn ddiog, annog y rhai sy'n ddihyder, helpu'r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb. | |
I Th | WelBeibl | 5:15 | Peidiwch gadael i bobl dalu'r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i'ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd. | |
I Th | WelBeibl | 5:18 | Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. | |
I Th | WelBeibl | 5:23 | Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. | |
I Th | WelBeibl | 5:27 | Dw i'n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y Cristnogion i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen. | |