Chapter 1
| I Pe | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Pedr, cynrychiolydd personol Iesu Grist. Atoch chi sydd wedi'ch dewis gan Dduw i fod yn bobl iddo'i hun. Chi sy'n byw ar wasgar drwy daleithiau Rhufeinig Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia, er mai dim dyna'ch cartref go iawn chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:2 | Cawsoch eich dewis ymlaen llaw gan Dduw y Tad, a'ch cysegru gan yr Ysbryd Glân i fod yn bobl ufudd i Iesu Grist, wedi'ch glanhau drwy ei waed. Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:3 | Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae'n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni'n edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:4 | Mae gan Dduw etifeddiaeth i'w rhannu gyda'i blant – un fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae'n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd! | |
| I Pe | WelBeibl | 1:5 | Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi'n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi'n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny'n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a'r byd yn dod i ben. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:6 | Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau'n anodd ar hyn o bryd, a'ch bod chi'n gorfod dioddef pob math o dreialon. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:7 | Mae'r pethau yma'n digwydd er mwyn dangos eich bod chi'n credu go iawn. Mae'r un fath â'r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:8 | Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi'n ei garu e. Dych chi'n credu ynddo er eich bod chi ddim yn ei weld ar hyn o bryd. A dych chi wedi'ch llenwi â rhyw lawenydd cwbl wefreiddiol sy'n amhosib i'w ddisgrifio. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:9 | Canlyniad credu ynddo yn y pen draw ydy y byddwch chi'n cael eich achub yn derfynol! | |
| I Pe | WelBeibl | 1:10 | Roedd y proffwydi'n sôn am yr achubiaeth oedd i'w rhoi yn rhodd i chi. Buon nhw'n edrych yn fanwl i'r cwbl, ond heb ddeall popeth. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:11 | Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai'r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai'n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia'n cyfeirio ato? Pryd fyddai'r cwbl yn digwydd? | |
| I Pe | WelBeibl | 1:12 | Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae'r cwbl wedi'i rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â'r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o'r nefoedd. Mae'r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:13 | Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi'n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy'n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:14 | Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i'w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:15 | Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi'ch galw chi ato'i hun yn berffaith lân. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:16 | Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” | |
| I Pe | WelBeibl | 1:17 | Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi'i wneud, Felly os dych chi'n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo'r parch mae'n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:18 | Talodd Duw bris uchel i'ch gollwng chi'n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy'n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu'r pris hwnnw, | |
| I Pe | WelBeibl | 1:19 | ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr – gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:20 | Roedd Duw wedi'i apwyntio cyn i'r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i'r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:21 | Drwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi'i godi yn ôl yn fyw a'i anrhydeddu, dych chi'n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi'ch gobaith ynddo. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:22 | Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:23 | Wedi'r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o'r newydd! Mae'r bywyd dych chi wedi'i dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy'n darfod, ond mae'r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi'i phlannu ynoch chi, ac mae hi'n neges sy'n rhoi bywyd ac sy'n aros am byth. | |
| I Pe | WelBeibl | 1:24 | Achos, “Mae pobl feidrol fel glaswellt, a'u holl harddwch fel blodyn gwyllt – mae'r glaswellt yn gwywo a'r blodyn yn syrthio, | |
Chapter 2
| I Pe | WelBeibl | 2:1 | Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau – pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:2 | Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:3 | Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:4 | Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi'i dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd | |
| I Pe | WelBeibl | 2:5 | dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:6 | Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi'i dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.” | |
| I Pe | WelBeibl | 2:7 | Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,” | |
| I Pe | WelBeibl | 2:8 | Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi'i drefnu ar eu cyfer nhw. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:9 | Ond dych chi'n bobl sydd wedi'ch dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:10 | Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:11 | Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:12 | Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:13 | Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl, | |
| I Pe | WelBeibl | 2:14 | a'r llywodraethwyr sydd wedi'u penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:16 | Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, | |
| I Pe | WelBeibl | 2:17 | ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:18 | Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri – nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:19 | Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:20 | Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:21 | Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: | |
| I Pe | WelBeibl | 2:23 | Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg. | |
| I Pe | WelBeibl | 2:24 | Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi'i glwyfo! | |
Chapter 3
| I Pe | WelBeibl | 3:1 | Dyna'n union sut dylech chi'r gwragedd priod ymostwng i'ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy'n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi'n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:3 | Dim y colur ar y tu allan sy'n eich gwneud chi'n ddeniadol, na phethau fel steil gwallt, tlysau aur a dillad ffasiynol. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:4 | Beth sy'n bwysig ydy'r hyn ydych chi'r tu mewn – y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy'n werthfawr yng ngolwg Duw. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:5 | Dyna sut roedd gwragedd duwiol y gorffennol yn gwneud eu hunain yn hardd. Roedd eu gobaith nhw yn Nuw ac roedden nhw'n ymostwng i'w gwŷr. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:6 | Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw'n ‛meistr‛). Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a pheidiwch bod ofn dim byd. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:7 | Agwedd felly ddylai fod gynnoch chi wŷr hefyd. Dylech feddwl bob amser am les eich gwragedd, a'u parchu nhw a gofalu amdanyn nhw. Y wraig ydy'r partner gwannaf yn gorfforol, ond mae'n rhaid cofio eich bod chi'ch dau yn rhannu'r bywyd mae Duw wedi'i roi mor hael. Os na wnewch chi hyn fydd Duw ddim yn gwrando ar eich gweddïau chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:8 | Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda'ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:9 | Peidiwch talu'r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi'ch enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:10 | Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli'ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:11 | Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:12 | Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.” | |
| I Pe | WelBeibl | 3:14 | Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy'n iawn, cewch eich bendithio'n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a pheidiwch poeni.” | |
| I Pe | WelBeibl | 3:15 | Addolwch y Meseia â'ch holl galon, a'i gydnabod e'n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:16 | Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy'n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi'n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:17 | Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae'n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:18 | Roedd y Meseia wedi dioddef drwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o'i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:19 | Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i'r ysbrydion yn eu cyrchfan. | |
| I Pe | WelBeibl | 3:20 | Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu'r llong fawr, sef yr arch. A chriw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir). | |
| I Pe | WelBeibl | 3:21 | Ac mae bedydd, sy'n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi'i godi yn ôl yn fyw. | |
Chapter 4
| I Pe | WelBeibl | 4:1 | Felly, am fod y Meseia wedi dioddef yn gorfforol, byddwch chithau'n barod i wneud yr un peth. Mae'r rhai hynny sy'n barod i ddioddef yn gorfforol wedi troi cefn ar bechod. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:2 | Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:3 | Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae'r paganiaid yn mwynhau ei wneud – byw'n anfoesol yn rhywiol a gadael i'r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy'n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:4 | Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda'r llif i'r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw'n eich rhegi a'ch enllibio chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:5 | Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy'n mynd i farnu pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:6 | (Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i'r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi'u cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw'n cael byw gyda Duw drwy'r Ysbryd!) | |
| I Pe | WelBeibl | 4:7 | Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:8 | Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:10 | Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:11 | Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a'i addoli drwy'r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau'r anrhydedd i gyd, a'r grym hefyd, a hynny am byth! Amen! | |
| I Pe | WelBeibl | 4:12 | Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd drwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:13 | Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e'n dod i'r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:14 | Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:15 | Ddylai neb ohonoch chi ddioddef am fod yn llofrudd neu'n lleidr neu am gyflawni rhyw drosedd arall – na hyd yn oed am fusnesa. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:16 | Ond peidiwch bod â chywilydd os ydych chi'n dioddef am fod yn Gristion – dylech ganmol Duw am i chi gael y fraint o'i gynrychioli. | |
| I Pe | WelBeibl | 4:17 | Mae'n bryd i'r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy'r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni'n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i'r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw? | |
| I Pe | WelBeibl | 4:18 | Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os mai o drwch blewyn mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dianc beth ddaw o bobl annuwiol sy'n anufudd i Dduw?” | |
Chapter 5
| I Pe | WelBeibl | 5:1 | Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!): | |
| I Pe | WelBeibl | 5:2 | Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:3 | Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain drwy fod yn esiampl dda iddyn nhw. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:4 | Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:5 | Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.” | |
| I Pe | WelBeibl | 5:6 | Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:7 | Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:8 | Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:9 | Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:10 | Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:12 | Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn. | |
| I Pe | WelBeibl | 5:13 | Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi'u dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd. | |