Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ESTHER
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Chapter 1
Esth WelBeibl 1:1  Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (yr Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica.)
Esth WelBeibl 1:3  Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys.
Esth WelBeibl 1:4  Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol. Parodd y dathliadau am amser hir – chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir.
Esth WelBeibl 1:5  Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol.
Esth WelBeibl 1:6  Roedd pobman wedi'i addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi'i wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau drwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill.
Esth WelBeibl 1:7  Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl.
Esth WelBeibl 1:8  Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau.
Esth WelBeibl 1:9  Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fashti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus.
Esth WelBeibl 1:10  Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn i'w saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Charbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas)
Esth WelBeibl 1:11  ddod â'r frenhines Fashti o'i flaen, yn gwisgo'i choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi – roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol.
Esth WelBeibl 1:12  Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân – roedd yn gynddeiriog!
Esth WelBeibl 1:13  Dyma fe'n galw'i gynghorwyr ato – dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.)
Esth WelBeibl 1:14  Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd.
Esth WelBeibl 1:15  Dyma'r brenin yn gofyn iddyn nhw, “Beth ddylai ddigwydd i'r Frenhines Fashti? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud pan mae brenhines yn gwrthod gwneud beth mae'r brenin yn ei orchymyn?”
Esth WelBeibl 1:16  Dyma Memwchan yn ymateb, “Nid dim ond y brenin sydd wedi'i sarhau gan y frenhines Fashti. Mae hi wedi pechu yn erbyn y swyddogion a'r bobl i gyd o'r taleithiau sy'n cael eu rheoli gan y Brenin Ahasferus.
Esth WelBeibl 1:17  Bydd gwragedd ym mhobman yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fashti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y Brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’
Esth WelBeibl 1:18  Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo!
Esth WelBeibl 1:19  Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fashti ddim cael gweld y Brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i un arall fyddai'n frenhines well na hi.
Esth WelBeibl 1:20  Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.”
Esth WelBeibl 1:21  Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e.
Esth WelBeibl 1:22  Anfonodd lythyrau allan i'r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi'i ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith ei hun yn y cartref.
Chapter 2
Esth WelBeibl 2:1  Beth amser wedyn pan oedd y Brenin Ahasferus wedi dod dros y cwbl, roedd yn meddwl am Fashti a beth wnaeth hi, ac am y gosb gafodd hi.
Esth WelBeibl 2:2  A dyma swyddogion y brenin yn dweud, “Dylid chwilio am ferched ifanc hardd i'ch mawrhydi.
Esth WelBeibl 2:3  Gellid penodi swyddogion drwy'r taleithiau i gyd i gasglu'r holl ferched ifanc hardd yn y deyrnas at ei gilydd i Shwshan. Wedyn gallai Hegai, yr eunuch sy'n gyfrifol am yr harîm, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaethau harddwch a choluron.
Esth WelBeibl 2:4  Ar ôl hynny, gall y brenin ddewis y ferch sy'n ei blesio fwya i fod yn frenhines yn lle Fashti.” Roedd y brenin yn hoffi'r syniad, felly dyna wnaeth e.
Esth WelBeibl 2:5  Roedd yna Iddew o'r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish,
Esth WelBeibl 2:6  oedd yn un o'r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda).
Esth WelBeibl 2:7  Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi'i mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol.
Esth WelBeibl 2:8  Pan roddodd y Brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a'r merched eraill eu cymryd i'r palas brenhinol, a'u rhoi dan ofal Hegai.
Esth WelBeibl 2:9  Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o'r dechrau. Roedd e'n ei hoffi'n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi'u dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety'r harîm iddi hi a'i morynion.
Esth WelBeibl 2:10  Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a'i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio.
Esth WelBeibl 2:11  Roedd yn awyddus iawn i wybod sut roedd hi'n dod yn ei blaen, a beth oedd yn digwydd iddi. Felly bob dydd byddai Mordecai'n cerdded yn ôl ac ymlaen wrth ymyl iard y tŷ lle roedd y merched yn byw.
Esth WelBeibl 2:12  Aeth blwyddyn gyfan heibio pan oedd y merched yn cael eu paratoi, cyn i'w tro nhw ddod i fynd at y Brenin Ahasferus. Roedd pob un ohonyn nhw yn gorfod mynd drwy driniaethau harddwch gyntaf – chwe mis pan oedd eu croen yn cael ei drin gydag olew olewydd a myrr, a chwe mis pan oedden nhw'n cael persawrau a choluron.
Esth WelBeibl 2:13  Dim ond wedyn y byddai merch yn barod i fynd at y brenin, a byddai'n cael gwisgo pa ddillad bynnag fyddai hi'n ei ddewis o lety'r harîm.
Esth WelBeibl 2:14  Byddai'n mynd ato gyda'r nos, ac yna'r bore wedyn yn mynd i ran arall o lety'r harîm, lle roedd cariadon y brenin yn aros, a Shaasgas, un o ystafellyddion y brenin yn gofalu amdanyn nhw. Fyddai'r merched yma ddim yn mynd yn ôl at y brenin oni bai fod y brenin wedi'i blesio'n fawr gan un ohonyn nhw ac yn gofyn yn benodol amdani.
Esth WelBeibl 2:15  Pan ddaeth tro Esther i fynd at y brenin, aeth hi a dim gyda hi ond beth oedd Hegai, oedd yn gofalu am y merched, wedi'i awgrymu iddi. Roedd pawb welodd hi yn meddwl ei bod hi'n hynod o hardd.
Esth WelBeibl 2:16  Felly dyma Esther yn mynd at y Brenin Ahasferus yn ei balas, yn y degfed mis (sef Tebeth) o'i seithfed flwyddyn fel brenin.
Esth WelBeibl 2:17  Roedd y brenin yn hoffi Esther fwy na'r merched eraill i gyd. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, a'i choroni yn frenhines yn lle Fashti.
Esth WelBeibl 2:18  A dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd – gwledd Esther. Trefnodd wyliau cyhoeddus drwy'r taleithiau i gyd, a rhannu rhoddion i bawb ar ei gost ei hun.
Esth WelBeibl 2:19  Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi'i benodi'n swyddog yn y llys brenhinol.
Esth WelBeibl 2:20  Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi'i chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi.
Esth WelBeibl 2:21  Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y Brenin Ahasferus.
Esth WelBeibl 2:22  Pan glywodd Mordecai am y cynllwyn, dwedodd am y peth wrth y Frenhines Esther, ac aeth Esther i ddweud wrth y brenin ar ei ran.
Esth WelBeibl 2:23  Dyma'r brenin yn cael ei swyddogion i ymchwilio i'r mater, a darganfod ei fod yn wir. Felly cafodd y ddau eu crogi. A dyma bopeth oedd wedi digwydd yn cael ei ysgrifennu o flaen y brenin yn sgrôl Cofnodion yr Ymerodraeth.
Chapter 3
Esth WelBeibl 3:1  Rywbryd wedyn, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi dyrchafiad i ddyn o'r enw Haman fab Hammedatha, oedd yn dod o dras Agag. Cafodd ei benodi i swydd uwch na'r swyddogion eraill i gyd.
Esth WelBeibl 3:2  Roedd y brenin wedi gorchymyn fod swyddogion eraill y llys brenhinol i fod i ymgrymu i Haman a dangos parch ato. Ond doedd Mordecai ddim am wneud hynny.
Esth WelBeibl 3:3  Dyma rai o swyddogion eraill y brenin yn gofyn i Mordecai pam roedd e'n gwrthod ufuddhau i orchymyn y brenin.
Esth WelBeibl 3:4  Er eu bod nhw wedi siarad ag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e'n Iddew. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai'n cael ei ganiatáu.
Esth WelBeibl 3:5  Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig.
Esth WelBeibl 3:6  Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.
Esth WelBeibl 3:7  Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd drwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).
Esth WelBeibl 3:8  Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.
Esth WelBeibl 3:9  Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”
Esth WelBeibl 3:10  Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon.
Esth WelBeibl 3:11  A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”
Esth WelBeibl 3:12  Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A chafodd popeth wnaeth Haman ei orchymyn ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi'u selio gyda'i sêl-fodrwy e.
Esth WelBeibl 3:13  Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'u lladd nhw i gyd – pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Adar).
Esth WelBeibl 3:14  Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth, er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Esth WelBeibl 3:15  Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi'i gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Tra oedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân.
Chapter 4
Esth WelBeibl 4:1  Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe'n rhwygo'i ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe'n mynd drwy'r ddinas yn gweiddi'n uchel mewn llais chwerw.
Esth WelBeibl 4:2  Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd drwy'r giât honno yn gwisgo sachliain.
Esth WelBeibl 4:3  Drwy'r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn udo wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.
Esth WelBeibl 4:4  Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio'n ofnadwy. Dyma hi'n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd.
Esth WelBeibl 4:5  Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi'i benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.
Esth WelBeibl 4:6  Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.
Esth WelBeibl 4:7  A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.
Esth WelBeibl 4:8  A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi'i ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.
Esth WelBeibl 4:9  Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi'i wneud.
Esth WelBeibl 4:10  Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,
Esth WelBeibl 4:11  “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”
Esth WelBeibl 4:12  Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud,
Esth WelBeibl 4:13  dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas.
Esth WelBeibl 4:14  Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”
Esth WelBeibl 4:15  Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai:
Esth WelBeibl 4:16  “Wnei di gasglu'r Iddewon sy'n byw yn Shwshan at ei gilydd a'u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a'r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny'n golygu torri'r gyfraith. Dw i'n barod i farw os oes rhaid.”
Esth WelBeibl 4:17  Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.
Chapter 5
Esth WelBeibl 5:1  Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo'i dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws.
Esth WelBeibl 5:2  Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen.
Esth WelBeibl 5:3  A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti i? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!”
Esth WelBeibl 5:4  Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi'i pharatoi.”
Esth WelBeibl 5:5  A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi'i pharatoi.
Esth WelBeibl 5:6  Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
Esth WelBeibl 5:7  A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi:
Esth WelBeibl 5:8  Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi'i pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”
Esth WelBeibl 5:9  Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi!
Esth WelBeibl 5:10  Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre. Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw'i ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh.
Esth WelBeibl 5:11  A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi'i anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd.
Esth WelBeibl 5:12  Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi'i pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory.
Esth WelBeibl 5:13  Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.”
Esth WelBeibl 5:14  Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu.
Chapter 6
Esth WelBeibl 6:1  Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a chafodd ei darllen iddo.
Esth WelBeibl 6:2  A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y Brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh.
Esth WelBeibl 6:3  Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.”
Esth WelBeibl 6:4  Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi'i adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”
Esth WelBeibl 6:5  “Haman sydd yna,” meddai'r gweision. A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.”
Esth WelBeibl 6:6  Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau'i anrhydeddu,
Esth WelBeibl 6:7  felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun,
Esth WelBeibl 6:8  dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi'i farchogaeth – un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen.
Esth WelBeibl 6:9  Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’”
Esth WelBeibl 6:10  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.”
Esth WelBeibl 6:11  Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!”
Esth WelBeibl 6:12  Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i'r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio'i ben mewn cywilydd.
Esth WelBeibl 6:13  Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!”
Esth WelBeibl 6:14  Tra oedden nhw'n dal i siarad ag e, dyma weision y brenin yn cyrraedd ac yn mynd â Haman ar frys i'r wledd roedd Esther wedi'i pharatoi.
Chapter 7
Esth WelBeibl 7:1  Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther
Esth WelBeibl 7:2  am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
Esth WelBeibl 7:3  A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau.
Esth WelBeibl 7:4  Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.”
Esth WelBeibl 7:5  A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?”
Esth WelBeibl 7:6  A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg sy'n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!” Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines.
Esth WelBeibl 7:7  Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gweld fod y brenin yn mynd i drefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon.
Esth WelBeibl 7:8  Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!” Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman.
Esth WelBeibl 7:9  A dyma Charbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.” “Crogwch Haman arno!” meddai'r brenin.
Esth WelBeibl 7:10  Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi'i fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.
Chapter 8
Esth WelBeibl 8:1  Y diwrnod hwnnw, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin. (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw'n perthyn.)
Esth WelBeibl 8:2  A dyma'r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a'i rhoi hi i Mordecai. Wedyn, dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman.
Esth WelBeibl 8:3  Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crio, a chrefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
Esth WelBeibl 8:4  A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen
Esth WelBeibl 8:5  a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu?
Esth WelBeibl 8:6  Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?”
Esth WelBeibl 8:7  A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon.
Esth WelBeibl 8:8  A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi'i hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi'i selio gyda'i sêl-fodrwy e.”
Esth WelBeibl 8:9  Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw.
Esth WelBeibl 8:10  Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a chafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.
Esth WelBeibl 8:11  Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a chymryd eu heiddo oddi arnyn nhw.
Esth WelBeibl 8:12  Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar).
Esth WelBeibl 8:13  Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.
Esth WelBeibl 8:14  Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.
Esth WelBeibl 8:15  Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi'i arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu,
Esth WelBeibl 8:16  ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb.
Esth WelBeibl 8:17  Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi'i gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.
Chapter 9
Esth WelBeibl 9:1  Roedd gorchymyn y brenin i gael ei weithredu ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Adar). Dyna'r diwrnod roedd gelynion yr Iddewon wedi tybio eu bod nhw'n mynd i gael eu trechu nhw. Ond y gwrthwyneb ddigwyddodd – cafodd yr Iddewon drechu eu gelynion.
Esth WelBeibl 9:2  Dyma'r Iddewon yn casglu at ei gilydd yn y trefi drwy'r holl daleithiau roedd y Brenin Ahasferus yn eu rheoli. Roedden nhw'n barod i ymosod ar unrhyw un oedd yn bwriadu gwneud drwg iddyn nhw. Ond roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobl i gyd, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw.
Esth WelBeibl 9:3  Roedd swyddogion y taleithiau, y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a phawb oedd yn gwasanaethu'r brenin, yn helpu'r Iddewon am fod ganddyn nhw i gyd ofn Mordecai.
Esth WelBeibl 9:4  Roedd Mordecai yn ddyn pwysig iawn yn y palas, ac roedd pawb drwy'r taleithiau i gyd wedi clywed amdano wrth iddo fynd yn fwy a mwy dylanwadol.
Esth WelBeibl 9:5  Dyma'r Iddewon yn taro'u gelynion i gyd, eu lladd a'u dinistrio. Roedden nhw'n gwneud fel y mynnan nhw.
Esth WelBeibl 9:6  Cafodd pum cant o bobl eu lladd yn y gaer ddinesig yn Shwshan.
Esth WelBeibl 9:7  Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalïa, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisata. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.
Esth WelBeibl 9:8  Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalïa, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisata. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.
Esth WelBeibl 9:9  Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalïa, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisata. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.
Esth WelBeibl 9:10  Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalïa, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisata. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.
Esth WelBeibl 9:11  Yr un diwrnod, dyma rywun yn dweud wrth y brenin faint o bobl oedd wedi cael eu lladd yn Shwshan.
Esth WelBeibl 9:12  A dyma'r brenin yn dweud wrth Esther, “Mae'r Iddewon wedi lladd pum cant o bobl yn y gaer yma yn Shwshan yn unig, a deg mab Haman hefyd. Beth maen nhw wedi'i wneud yn y taleithiau eraill, tybed? Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud? Dyna gei di!”
Esth WelBeibl 9:13  A dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, rho ganiatâd i'r Iddewon yn Shwshan wneud yr un peth yfory ag a wnaethon nhw heddiw; a gad i gyrff deg mab Haman gael eu hongian ar y crocbren.”
Esth WelBeibl 9:14  Felly dyma'r brenin yn gorchymyn i hynny gael ei wneud. Cafodd cyfraith ei phasio ar gyfer tref Shwshan, a chafodd cyrff meibion Haman eu hongian yn gyhoeddus.
Esth WelBeibl 9:15  Dyma'r Iddewon yn Shwshan yn casglu at ei gilydd ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, a dyma nhw'n lladd tri chant arall. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw.
Esth WelBeibl 9:16  Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a chawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon.
Esth WelBeibl 9:17  Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a chawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon.
Esth WelBeibl 9:18  Ond roedd Iddewon yn Shwshan wedi dod at ei gilydd i ymladd ar y trydydd ar ddeg a'r pedwerydd ar ddeg, felly dyma nhw'n gorffwys ar y pymthegfed, a gwneud hwnnw yn ddydd Gŵyl i ddathlu a chynnal partïon.
Esth WelBeibl 9:19  (A dyna pam mae'r Iddewon sy'n byw yng nghefn gwlad ac mewn pentrefi gwledig yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar fel diwrnod sbesial i fwynhau'u hunain a phartïo, i gael gwyliau a rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd.)
Esth WelBeibl 9:20  Ysgrifennodd Mordecai hanes popeth oedd wedi digwydd. Wedyn anfonodd lythyrau at yr Iddewon ym mhobman, drwy'r holl daleithiau oedd o dan reolaeth y Brenin Ahasferus,
Esth WelBeibl 9:21  yn cadarnhau eu bod nhw i gymryd gwyliau bob blwyddyn ar y pedwerydd ar ddeg a'r pymthegfed o fis Adar.
Esth WelBeibl 9:22  Ar y dyddiadau yna y cawson nhw lonydd gan eu gelynion – pan drodd eu trafferthion yn llawenydd a'u galar yn ddathlu. Roedden nhw i fod yn ddyddiau o bartïo a chael hwyl, rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd, a rhannu gyda phobl dlawd oedd mewn angen.
Esth WelBeibl 9:23  Felly dyma'r Iddewon yn ymrwymo i wneud yr un peth bob blwyddyn, a chadw'r Ŵyl fel roedd Mordecai wedi dweud yn ei lythyr.
Esth WelBeibl 9:24  Roedd gelyn pob Iddew, sef Haman fab Hammedatha o dras Agag, wedi cynllwynio yn erbyn yr Iddewon i'w lladd nhw. Roedd wedi mynd drwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis) gyda'r bwriad o'u dinistrio a'u lladd nhw.
Esth WelBeibl 9:25  Ond pan glywodd y brenin am y cynllwyn, dyma fe'n gorchymyn mewn ysgrifen fod y pethau drwg roedd Haman wedi'u bwriadu yn erbyn yr Iddewon i ddigwydd i Haman ei hun. A dyma fe a chyrff ei feibion yn cael eu crogi.
Esth WelBeibl 9:26  A'r rheswm pam mae'r Ŵyl yn cael ei galw yn Pwrim, ydy ar ôl y gair pŵr. O achos yr hyn oedd wedi'i ysgrifennu yn y llythyr, a'r cwbl roedden nhw wedi mynd drwyddo,
Esth WelBeibl 9:27  dyma'r Iddewon yn ymrwymo y bydden nhw a'u disgynyddion, a phawb arall oedd eisiau ymuno gyda nhw, yn cadw'r ddau ddiwrnod yma yn wyliau bob blwyddyn.
Esth WelBeibl 9:28  Roedd y dyddiau yma i'w cofio a'u dathlu bob blwyddyn gan bob teulu ym mhob cenhedlaeth drwy'r taleithiau a'r trefi i gyd. Roedd yr Iddewon i wneud yn siŵr eu bod nhw a'u disgynyddion yn cadw gwyliau'r Pwrim bob amser.
Esth WelBeibl 9:29  A dyma'r Frenhines Esther ferch Afichaïl, gyda help Mordecai yr Iddew, yn ysgrifennu llythyr i gadarnhau beth oedd yn yr ail lythyr am Ŵyl Pwrim.
Esth WelBeibl 9:30  Cafodd llythyrau eu hanfon i'r Iddewon yn y cant dau ddeg saith talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, yn galw am heddwch a sefydlogrwydd.
Esth WelBeibl 9:31  Roedd y llythyrau yma yn dweud pryd yn union roedd Gŵyl Pwrim i gael ei chynnal. Roedd Mordecai yr Iddew wedi rhoi'r gorchymyn, a'r Frenhines Esther wedi cadarnhau y mater. A dyma'r bobl yn ymrwymo ar eu rhan eu hunain a'i disgynyddion i'w cadw, yn union fel roedden nhw wedi ymrwymo i gadw'r dyddiau i ymprydio a galaru.
Esth WelBeibl 9:32  Felly roedd gorchymyn Esther wedi cadarnhau trefniadau'r Pwrim, a chafodd y cwbl ei ysgrifennu i lawr.
Chapter 10
Esth WelBeibl 10:1  Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol – yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas.
Esth WelBeibl 10:2  Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi'u cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia.
Esth WelBeibl 10:3  Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.