Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
COLOSSIANS
Up
1 2 3 4
Chapter 1
Colo WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd,
Colo WelBeibl 1:2  At bobl Dduw yn Colosae sy'n ddilynwyr ffyddlon i'r Meseia: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni.
Colo WelBeibl 1:3  Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni'n gweddïo drosoch chi.
Colo WelBeibl 1:4  Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu.
Colo WelBeibl 1:5  Mae'r ffydd a'r cariad hwnnw'n tarddu o'r gobaith hyderus y byddwch chi'n derbyn y cwbl sydd wedi'i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o'r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da)
Colo WelBeibl 1:6  ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn.
Colo WelBeibl 1:7  Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu'r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni.
Colo WelBeibl 1:8  Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae'r Ysbryd wedi'i blannu ynoch chi.
Colo WelBeibl 1:9  Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol.
Colo WelBeibl 1:10  Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a'i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy'n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well.
Colo WelBeibl 1:11  Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio'r holl rym anhygoel sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi'n gallu dal ati yn amyneddgar,
Colo WelBeibl 1:12  a diolch yn llawen i'r Tad. Fe sydd wedi'ch gwneud chi'n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi'i gadw i'w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni.
Colo WelBeibl 1:13  Mae e wedi'n hachub ni o'r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae'n ei garu.
Colo WelBeibl 1:14  Ei Fab sydd wedi'n gollwng ni'n rhydd! Mae wedi maddau'n pechodau ni!
Colo WelBeibl 1:15  Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig – y ‛mab hynaf‛ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan.
Colo WelBeibl 1:16  Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i'w weld, a phopeth sy'n anweledig – y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i'w anrhydeddu e.
Colo WelBeibl 1:17  Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy'n dal y cwbl gyda'i gilydd.
Colo WelBeibl 1:18  Fe hefyd ydy'r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw. Felly mae e'n ben ar y cwbl i gyd.
Colo WelBeibl 1:19  Achos roedd Duw yn gyfan gwbl wedi dewis byw ynddo,
Colo WelBeibl 1:20  ac yn cymodi popeth ag e'i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes.
Colo WelBeibl 1:21  Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi'ch gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun
Colo WelBeibl 1:22  drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae'n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn.
Colo WelBeibl 1:23  Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi'i gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi'i gael i'w wneud.
Colo WelBeibl 1:24  Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl – sef ‛gofidiau'r Meseia‛ – a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys.
Colo WelBeibl 1:25  Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon.
Colo WelBeibl 1:26  Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi'i ddangos i bobl Dduw.
Colo WelBeibl 1:27  Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod!
Colo WelBeibl 1:28  Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges amdano, ac yn rhybuddio a dysgu pawb mor ddoeth ag y gallwn ni. Dŷn ni eisiau cyflwyno pawb i Dduw yn ddilynwyr aeddfed i'r Meseia.
Colo WelBeibl 1:29  Dyna pam dw i'n gweithio mor galed gyda'r holl egni mae e'n ei roi i mi.
Chapter 2
Colo WelBeibl 2:1  Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i'n gweithio drosoch chi a'r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i.
Colo WelBeibl 2:2  Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a'u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi'i gadw o'r golwg o'r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw!
Colo WelBeibl 2:3  Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi'u storio ynddo fe.
Colo WelBeibl 2:4  Dw i'n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i'ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy'n swnio'n glyfar ond sydd ddim yn wir.
Colo WelBeibl 2:5  Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia.
Colo WelBeibl 2:6  Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo –
Colo WelBeibl 2:7  Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi'i adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.
Colo WelBeibl 2:8  Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy'n dilyn traddodiadau dynol a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia.
Colo WelBeibl 2:9  Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn gyfan gwbl yn byw mewn person dynol.
Colo WelBeibl 2:10  A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i'r Meseia, sy'n ben ar bob grym ac awdurdod!
Colo WelBeibl 2:11  Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‛enwaedu‛ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‛enwaediad‛ ysbrydol mae'r Meseia yn ei gyflawni.)
Colo WelBeibl 2:12  Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a'ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Colo WelBeibl 2:13  Pobl baganaidd o'r cenhedloedd oeddech chi, yn farw'n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi'n fyw gyda'r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni,
Colo WelBeibl 2:14  ac wedi canslo'r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e'i hun y ddogfen honno a'i hoelio ar y groes.
Colo WelBeibl 2:15  Wedi iddo ddiarfogi'r pwerau a'r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi'u concro ganddo ar y groes.
Colo WelBeibl 2:16  Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy'n iawn i'w fwyta a'i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, gŵyl y lleuad newydd neu'r Saboth.
Colo WelBeibl 2:17  Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod – dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i'r peth go iawn.
Colo WelBeibl 2:18  Peidiwch gadael i unrhyw un sy'n cael boddhad o ddisgyblu'r hunan eich condemnio chi. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy'n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi'i weld. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw.
Colo WelBeibl 2:19  Dŷn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.
Colo WelBeibl 2:20  Buoch farw gyda'r Meseia, a dych chi wedi'ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma. Felly pam dych chi'n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi'n dal i ddilyn ffordd y byd?
Colo WelBeibl 2:21  – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!”
Colo WelBeibl 2:22  (Mân-reolau wedi'u dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi'i fwyta!)
Colo WelBeibl 2:23  Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym – ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.
Chapter 3
Colo WelBeibl 3:1  Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda'r Meseia, ceisiwch beth sy'n y nefoedd, lle mae'r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.
Colo WelBeibl 3:2  Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol.
Colo WelBeibl 3:3  Buoch farw, ac mae'r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi'i guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw.
Colo WelBeibl 3:4  Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e.
Colo WelBeibl 3:5  Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!
Colo WelBeibl 3:6  Pethau felly sy'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.
Colo WelBeibl 3:8  Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus.
Colo WelBeibl 3:9  Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd
Colo WelBeibl 3:10  ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn.
Colo WelBeibl 3:11  Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu.
Colo WelBeibl 3:12  Mae Duw wedi'ch dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.
Colo WelBeibl 3:13  Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi.
Colo WelBeibl 3:14  A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu'r cwbl yn berffaith gyda'i gilydd.
Colo WelBeibl 3:15  Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.
Colo WelBeibl 3:16  Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.
Colo WelBeibl 3:17  Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw.
Colo WelBeibl 3:18  Rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr – dyna'r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud.
Colo WelBeibl 3:19  Rhaid i chi'r gwŷr garu'ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw.
Colo WelBeibl 3:20  Rhaid i chi'r plant fod yn ufudd i'ch rhieni bob amser, am fod hynny'n plesio'r Arglwydd.
Colo WelBeibl 3:21  Rhaid i chi'r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw'n digalonni.
Colo WelBeibl 3:22  Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.
Colo WelBeibl 3:23  Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol.
Colo WelBeibl 3:24  Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn.
Colo WelBeibl 3:25  Ond bydd y rhai sy'n gwneud beth sydd o'i le yn cael beth maen nhw'n ei haeddu – does gan Dduw ddim ffefrynnau.
Chapter 4
Colo WelBeibl 4:1  Rhaid i chi'r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd!
Colo WelBeibl 4:2  Daliwch ati i weddïo drwy'r adeg, gan gadw'ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar.
Colo WelBeibl 4:3  A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu'r neges am y Meseia, ac esbonio'r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar.
Colo WelBeibl 4:4  Gweddïwch y bydda i'n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i.
Colo WelBeibl 4:5  Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi'n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw.
Colo WelBeibl 4:6  Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.
Colo WelBeibl 4:7  Cewch wybod fy hanes i gan Tychicus. Mae e'n frawd annwyl iawn, ac yn weithiwr ffyddlon sy'n gwasanaethu'r Arglwydd gyda mi.
Colo WelBeibl 4:8  Dw i'n ei anfon e atoch chi yn unswydd i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi.
Colo WelBeibl 4:9  A dw i wedi anfon Onesimws gydag e, brawd ffyddlon ac annwyl arall sy'n un ohonoch chi. Byddan nhw'n dweud wrthoch chi am y cwbl sy'n digwydd yma.
Colo WelBeibl 4:10  Mae Aristarchus, sydd yn y carchar gyda mi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Hefyd Marc, cefnder Barnabas. (Mae hyn wedi'i ddweud o'r blaen – os daw Marc atoch, rhowch groeso iddo.)
Colo WelBeibl 4:11  Mae Iesu (yr un sy'n cael ei alw'n Jwstus) yn anfon ei gyfarchion hefyd. Nhw ydy'r unig Gristnogion Iddewig sy'n gweithio gyda mi. Maen nhw'n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi.
Colo WelBeibl 4:12  Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion – un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau.
Colo WelBeibl 4:13  Dw i'n dyst ei fod e'n gweithio'n galed drosoch chi a'r Cristnogion sydd yn Laodicea a Hierapolis.
Colo WelBeibl 4:14  Mae ein ffrind annwyl, doctor Luc, a Demas hefyd, yn anfon eu cyfarchion.
Colo WelBeibl 4:15  Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi.
Colo WelBeibl 4:16  Ar ôl i'r llythyr yma gael ei ddarllen i chi, anfonwch e ymlaen i Laodicea i'w ddarllen i'r gynulleidfa yno. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y llythyr anfonais i yno.
Colo WelBeibl 4:17  Dwedwch hyn wrth Archipus: “Gwna'n siŵr dy fod yn gorffen y gwaith mae'r Arglwydd wedi'i roi i ti.”
Colo WelBeibl 4:18  Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun: PAUL. Cofiwch fy mod i yn y carchar. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!