Chapter 1
Mica | WelBeibl | 1:1 | Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem. | |
Mica | WelBeibl | 1:2 | Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd! Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd. | |
Mica | WelBeibl | 1:4 | Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed, a'r dyffrynnoedd yn hollti. Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân, ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau. | |
Mica | WelBeibl | 1:5 | Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela, a phobl Israel wedi pechu. Sut mae Jacob wedi gwrthryfela? Samaria ydy'r drwg! Ble mae allorau paganaidd Jwda? Yn Jerwsalem! | |
Mica | WelBeibl | 1:6 | “Dw i'n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored – bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn a gadael dim ond sylfeini'n y golwg. | |
Mica | WelBeibl | 1:7 | Bydd ei delwau'n cael eu dryllio, ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân, a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap! Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio, a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.” | |
Mica | WelBeibl | 1:8 | Dyna pam dw i'n galaru a nadu, a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau; yn udo'n uchel fel siacaliaid, a sgrechian cwyno fel cywion estrys. | |
Mica | WelBeibl | 1:9 | Fydd salwch Samaria ddim yn gwella! Mae wedi lledu i Jwda – mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl yn Jerwsalem wedi dal y clefyd! | |
Mica | WelBeibl | 1:10 | ‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛ Peidiwch crio rhag iddyn nhw'ch clywed chi! Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch. | |
Mica | WelBeibl | 1:11 | Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio yn noeth ac mewn cywilydd. Bydd pobl Saänan yn methu symud, a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru – fydd hi ddim yn dy helpu eto. | |
Mica | WelBeibl | 1:12 | Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi'i anfon, ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem. | |
Mica | WelBeibl | 1:13 | Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu! | |
Mica | WelBeibl | 1:14 | Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél wrth Moresheth-gath, a bydd tai Achsib yn siomi – bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel. | |
Mica | WelBeibl | 1:15 | Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref, a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto. | |
Chapter 2
Mica | WelBeibl | 2:1 | Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg – maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau. | |
Mica | WelBeibl | 2:2 | Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw'n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill. | |
Mica | WelBeibl | 2:3 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! – mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg! | |
Mica | WelBeibl | 2:4 | Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd – ‘Mae ar ben arnon ni! Mae ein tir yn cael ei werthu! Mae Duw wedi cymryd y cwbl, a rhoi'n tir i fradwyr!’” | |
Mica | WelBeibl | 2:6 | “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.” | |
Mica | WelBeibl | 2:7 | Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? – “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer. Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!” “Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd i'r rhai sy'n byw yn iawn. | |
Mica | WelBeibl | 2:8 | Ond yn ddiweddar mae fy mhobl wedi codi yn fy erbyn fel gelyn. Dych chi'n dwyn y gôt a'r crys oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio fel milwyr yn dod adre o ryfel. | |
Mica | WelBeibl | 2:9 | Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd, a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth. | |
Mica | WelBeibl | 2:10 | Felly symudwch! I ffwrdd â chi! Does dim lle i chi orffwys yma! Dych chi wedi llygru'r lle, ac wedi'i ddifetha'n llwyr! | |
Mica | WelBeibl | 2:11 | Petai rhywun yn dod heibio yn malu awyr a thwyllo, ‘Dw i'n addo y cewch chi joio digonedd o win a chwrw!’ – byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw! | |
Mica | WelBeibl | 2:12 | Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob. Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel at ei gilydd fel defaid mewn corlan. Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl. | |
Chapter 3
Mica | WelBeibl | 3:1 | Yna dwedais, “Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel. Dylech wybod beth ydy cyfiawnder! | |
Mica | WelBeibl | 3:2 | Ond dych chi'n casáu'r da ac yn caru'r drwg! Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw, ac yn ymddwyn fel canibaliaid! | |
Mica | WelBeibl | 3:3 | Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl, yn eu blingo nhw'n fyw a malu eu hesgyrn. Torri eu cyrff yn ddarnau fel cig i'w daflu i'r crochan.” | |
Mica | WelBeibl | 3:4 | Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help, ond fydd e ddim yn ateb. Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg. | |
Mica | WelBeibl | 3:5 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi: “Dych chi'n camarwain fy mhobl! Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd, ond os na gewch chi'ch talu dych chi'n bygwth rhyfel! | |
Mica | WelBeibl | 3:6 | Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth – byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim. Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi, a'ch dydd wedi dod i ben! | |
Mica | WelBeibl | 3:7 | Bydd cywilydd ar y proffwydi, a bydd y dewiniaid wedi drysu. Fyddan nhw'n dweud dim, am fod Duw ddim yn ateb.” | |
Mica | WelBeibl | 3:8 | Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD ac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder. Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel, ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod. | |
Mica | WelBeibl | 3:9 | Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel – chi sy'n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi'r gwir. | |
Mica | WelBeibl | 3:11 | Mae'r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a'r proffwydi'n dehongli am dâl – tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!” | |
Chapter 4
Mica | WelBeibl | 4:1 | Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a'i godi'n uwch na'r bryniau. | |
Mica | WelBeibl | 4:2 | Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. | |
Mica | WelBeibl | 4:3 | Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. | |
Mica | WelBeibl | 4:4 | Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo'r peth! | |
Mica | WelBeibl | 4:5 | Tra mae'r gwledydd o'n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd! | |
Mica | WelBeibl | 4:6 | “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n galw'r rhai cloff, ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl, a'r rhai wnes i eu hanafu. | |
Mica | WelBeibl | 4:7 | Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!” | |
Mica | WelBeibl | 4:8 | A byddi di – y tŵr i wylio'r praidd, sef dinas gaerog pobl Seion – yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl. Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem. | |
Mica | WelBeibl | 4:9 | Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian? Oes gen ti ddim brenin i dy helpu? Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw? Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi? | |
Mica | WelBeibl | 4:10 | Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn. | |
Mica | WelBeibl | 4:11 | Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer wedi casglu i ymladd yn dy erbyn. “Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw. “Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!” | |
Mica | WelBeibl | 4:12 | Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD! Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e – i'w casglu nhw fel gwenith i'r llawr dyrnu! | |
Chapter 5
Mica | WelBeibl | 5:1 | Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyll ti ddinas dan ymosodiad! Mae'r gelyn yn gwarchae arnon ni! Maen nhw'n taro arweinydd Israel ar y foch gyda theyrnwialen. | |
Mica | WelBeibl | 5:2 | Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti'n un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel – Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl i'r dechrau yn y gorffennol pell. | |
Mica | WelBeibl | 5:3 | Felly bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pobl Israel i'r gelyn, hyd nes bydd yr un sy'n cael y babi wedi geni'r plentyn. Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre at blant Israel. | |
Mica | WelBeibl | 5:4 | Bydd yn codi i arwain ei bobl fel bugail yn gofalu am ei braidd. Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw. Byddan nhw yno i aros, achos bydd e'n cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw'r byd. | |
Mica | WelBeibl | 5:5 | Bydd e'n dod â heddwch i ni. “Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tir ac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai, bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro! | |
Mica | WelBeibl | 5:6 | Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf; gwlad Nimrod gyda llafnau parod! Bydd ein brenin yn ein hachub pan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad, ac yn ceisio croesi ein ffiniau.” | |
Mica | WelBeibl | 5:7 | Bydd pobl Jacob sydd ar ôl ar wasgar yng nghanol y bobloedd, fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon, neu gawodydd o law ar laswellt – sydd ddim yn dibynnu ar bobl na disgwyl am eu caniatâd cyn dod. | |
Mica | WelBeibl | 5:8 | Bydd pobl Jacob sydd ar ôl yn byw yn y gwledydd, ar wasgar yng nghanol y bobloedd. Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwyllt, neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid – yn rhydd i ladd a rhwygo heb neb i'w stopio. | |
Mica | WelBeibl | 5:10 | “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd – y ceffylau a'r cerbydau rhyfel. | |
Mica | WelBeibl | 5:13 | Bydda i'n dinistrio'ch delwau cerfiedig a'ch colofnau cysegredig. Fyddwch chi byth eto yn plygu i addoli gwaith eich dwylo eich hunain. | |
Chapter 6
Mica | WelBeibl | 6:1 | Gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Codwch i amddiffyn eich hunain o flaen y bryniau a'r mynyddoedd! | |
Mica | WelBeibl | 6:2 | Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaear gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.” (Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl. Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.) | |
Mica | WelBeibl | 6:4 | Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i'ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e. | |
Mica | WelBeibl | 6:5 | Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud, a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb. Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal – i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi'ch trin yn deg.” | |
Mica | WelBeibl | 6:6 | Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD? Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygu i addoli y Duw mawr? Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon? Y lloi gorau i'w llosgi'n llwyr? Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio, neu afonydd diddiwedd o olew olewydd? | |
Mica | WelBeibl | 6:7 | Ddylwn i aberthu fy mab hynaf yn dâl am wrthryfela? – rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod? | |
Mica | WelBeibl | 6:8 | Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw. | |
Mica | WelBeibl | 6:9 | “Gwrandwch!” Mae'r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem – (Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.) “Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas! | |
Mica | WelBeibl | 6:10 | Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch drwy dwyll, a'r mesur prin, sy'n felltith? | |
Mica | WelBeibl | 6:12 | Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd, a'r bobl i gyd yn dweud celwydd – twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw! | |
Mica | WelBeibl | 6:14 | Byddwch yn bwyta, ond byth yn cael digon. Bydd eich plentyn yn marw'n y groth, cyn cael ei eni; a bydda i'n gadael i'r cleddyf ladd y rhai sy'n cael eu geni! | |
Mica | WelBeibl | 6:15 | Byddwch yn plannu cnydau ond byth yn medi'r cynhaeaf. Byddwch yn gwasgu'r olewydd ond gewch chi ddim defnyddio'r olew. Byddwch yn sathru'r grawnwin, ond gewch chi ddim yfed y gwin. | |
Chapter 7
Mica | WelBeibl | 7:1 | Dw i mor ddigalon! Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwyth ar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu. Does dim un swp o rawnwin ar ôl, na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw. | |
Mica | WelBeibl | 7:2 | Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad! Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd. Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall; maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd. | |
Mica | WelBeibl | 7:3 | Maen nhw'n rai da am wneud drwg! – mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib; does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau a byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni. | |
Mica | WelBeibl | 7:4 | Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain, a'r mwya gonest fel llwyn o fieri. Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio; mae dydd y farn yn dod ar frys – mae anhrefn llwyr ar ei ffordd! | |
Mica | WelBeibl | 7:5 | Peidiwch trystio neb! Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau, na hyd yn oed eich gwraig – peidiwch dweud gair wrthi hi! | |
Mica | WelBeibl | 7:6 | Fydd mab ddim yn parchu ei dad, a bydd merch yn herio'i mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith – eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf! | |
Mica | WelBeibl | 7:7 | Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help. Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub. Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i. | |
Mica | WelBeibl | 7:8 | “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion! Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto. Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd, bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi. | |
Mica | WelBeibl | 7:9 | Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD am fy mod wedi pechu yn ei erbyn. Ond yna bydd e'n ochri gyda mi ac yn ennill yr achos ar fy rhan. Bydd yn fy arwain i allan i'r golau; bydda i'n cael fy achub ganddo. | |
Mica | WelBeibl | 7:10 | Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw'n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.” | |
Mica | WelBeibl | 7:11 | Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! – diwrnod i ailadeiladu dy waliau; diwrnod i ehangu dy ffiniau! | |
Mica | WelBeibl | 7:12 | Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat yr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft, o'r Aifft i afon Ewffrates, o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf. | |
Mica | WelBeibl | 7:14 | ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl, dy braidd arbennig dy hun; y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysni tra mae porfa fras o'u cwmpas. Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, fel roedden nhw'n gwneud ers talwm. | |
Mica | WelBeibl | 7:15 | Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau, fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft! | |
Mica | WelBeibl | 7:16 | Bydd y gwledydd yn gweld hyn, a bydd eu grym yn troi'n gywilydd. Byddan nhw'n sefyll yn syn, ac fel petaen nhw'n clywed dim! | |
Mica | WelBeibl | 7:17 | Byddan nhw'n llyfu'r llwch fel nadroedd neu bryfed yn llusgo ar y llawr. Byddan nhw'n ofni am eu bywydau, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw. | |
Mica | WelBeibl | 7:18 | Oes duw tebyg i ti? – Na! Ti'n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel y rhai sydd ar ôl o dy bobl. Ti ddim yn digio am byth; ti wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael. | |
Mica | WelBeibl | 7:19 | Byddi'n tosturio wrthon ni eto. Byddi'n delio gyda'n drygioni, ac yn taflu'n pechodau i waelod y môr. | |