Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I JOHN
Up
1 2 3 4 5
Toggle notes
Chapter 1
I Jo WelBeibl 1:1  Yr un sydd wedi bodoli o'r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi'i glywed e a'i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â'n llygaid ein hunain, a'i gyffwrdd â'n dwylo! Gair y bywyd!
I Jo WelBeibl 1:2  Daeth y bywyd ei hun i'r golwg, a dŷn ni wedi'i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni'n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda'r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni.
I Jo WelBeibl 1:3  Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi'i weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.
I Jo WelBeibl 1:4  Dŷn ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
I Jo WelBeibl 1:5  Dyma'r neges mae e wedi'i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.
I Jo WelBeibl 1:6  Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir.
I Jo WelBeibl 1:7  Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
I Jo WelBeibl 1:8  Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni.
I Jo WelBeibl 1:9  Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.
I Jo WelBeibl 1:10  Os ydyn ni'n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni'n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae'n amlwg bod ei neges e'n cael dim lle yn ein bywydau ni.
Chapter 2
I Jo WelBeibl 2:1  Fy mhlant annwyl, dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda'r Tad sy'n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy'n berffaith gyfiawn a da.
I Jo WelBeibl 2:2  Fe ydy'r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau'r byd i gyd.
I Jo WelBeibl 2:3  Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n ei nabod e ac yn perthyn iddo – drwy fod yn ufudd iddo.
I Jo WelBeibl 2:4  Mae'r bobl hynny sy'n dweud, “Dw i'n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e'n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i'r gwir.
I Jo WelBeibl 2:5  Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw'n ddweud, mae'n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn iddo:
I Jo WelBeibl 2:6  rhaid i bwy bynnag sy'n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu'n byw.
I Jo WelBeibl 2:7  Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae'n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o'r dechrau cyntaf. Dyma'r hen orchymyn glywoch chi o'r dechrau.
I Jo WelBeibl 2:8  Ac eto mewn ffordd mae beth dw i'n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i'w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae'r tywyllwch yn diflannu ac mae'r golau go iawn wedi dechrau disgleirio.
I Jo WelBeibl 2:9  Mae'r rhai sy'n dweud eu bod nhw'n credu'r gwir ond sy'n bod yn gas at frawd neu chwaer yn dal yn y tywyllwch go iawn.
I Jo WelBeibl 2:10  Y rhai sy'n caru eu cyd-Gristnogion sy'n aros yn y golau, a does dim byd fydd yn gwneud iddyn nhw faglu.
I Jo WelBeibl 2:11  Ond mae'r rheiny sy'n gas at Gristion arall yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw ar goll yn llwyr yn y tywyllwch. Does ganddyn nhw ddim syniad ble maen nhw'n mynd, am fod y tywyllwch yn eu gwneud nhw'n gwbl ddall.
I Jo WelBeibl 2:12  Dw i'n ysgrifennu atoch chi, fy mhlant annwyl am fod eich pechodau chi wedi cael eu maddau o achos beth wnaeth Iesu.
I Jo WelBeibl 2:13  Dw i'n ysgrifennu atoch chi'r rhai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr Un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i'n ysgrifennu atoch chi sy'n ifanc am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr Un drwg. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi blant, am eich bod chi wedi dod i nabod y Tad.
I Jo WelBeibl 2:14  Dw i wedi ysgrifennu atoch chi rai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi'r rhai ifanc am eich bod chi'n gryf, am fod neges Duw wedi dod i fyw o'ch mewn chi, ac am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr un drwg.
I Jo WelBeibl 2:15  Peidiwch caru'r byd a'i bethau. Os dych chi'n caru'r byd, allwch chi ddim bod yn caru'r Tad hefyd.
I Jo WelBeibl 2:16  Y cwbl mae'r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi'i gyflawni. O'r byd mae pethau felly'n dod, ddim oddi wrth y Tad.
I Jo WelBeibl 2:17  Mae'r byd hwn a'i chwantau yn dod i ben, ond mae'r sawl sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.
I Jo WelBeibl 2:18  Blant annwyl, mae'r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy'n elynion i'r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni'n gwybod fod yr awr olaf wedi dod.
I Jo WelBeibl 2:19  Mae'r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi'n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl.
I Jo WelBeibl 2:20  Ond dych chi'n wahanol – mae'r Un Sanctaidd wedi'ch eneinio chi, a dych chi'n gwybod beth sy'n wir.
I Jo WelBeibl 2:21  Dw i ddim yn ysgrifennu atoch chi am eich bod chi ddim yn gwybod beth sy'n wir, ond am eich bod chi yn gwybod, ac yn deall fod gan gelwydd ddim byd i'w wneud â'r gwir.
I Jo WelBeibl 2:22  A phwy sy'n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! – unrhyw un sy'n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy'r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly – pobl sy'n gwrthod y Tad yn ogystal â'r Mab!
I Jo WelBeibl 2:23  Os ydy rhywun yn gwrthod y Mab, dydy'r Tad ddim ganddo chwaith. Ond pwy bynnag sy'n derbyn y Mab, mae'r Tad ganddo hefyd.
I Jo WelBeibl 2:24  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i lynu wrth beth dych chi wedi'i glywed o'r dechrau cyntaf. Wedyn, bydd eich perthynas chi gyda'r Mab a'r Tad yn sicr.
I Jo WelBeibl 2:25  A dyna'n union mae e wedi'i addo i ni! – bywyd tragwyddol!
I Jo WelBeibl 2:26  Dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn i chi fod yn ymwybodol o'r bobl hynny sydd am eich camarwain chi.
I Jo WelBeibl 2:27  Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio – ac mae'r Ysbryd a'ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi – does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae'r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â'r peth! Felly gwnewch beth mae'n ei ddweud – glynwch wrth Iesu.
I Jo WelBeibl 2:28  Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i'r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd.
I Jo WelBeibl 2:29  Dych chi'n gwybod ei fod e'n hollol gyfiawn, felly dylech wybod hefyd fod pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn blant iddo.
Chapter 3
I Jo WelBeibl 3:1  Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi'i ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw! Ac mae'n berffaith wir! Y rheswm pam dydy'r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith.
I Jo WelBeibl 3:2  Ffrindiau annwyl, dŷn ni'n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni'n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu'n dod yn ôl i'r golwg byddwn ni'n debyg iddo. Cawn ei weld e yn ei holl ysblander!
I Jo WelBeibl 3:3  Mae pawb sydd â'r gobaith hwn ganddyn nhw yn eu cadw eu hunain yn lân, fel mae'r Meseia ei hun yn berffaith lân.
I Jo WelBeibl 3:4  Mae pawb sy'n pechu yn torri'r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy'n groes i Gyfraith Duw ydy pechod.
I Jo WelBeibl 3:5  Ond dych chi'n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe,
I Jo WelBeibl 3:6  felly does neb sy'n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy'r rhai sy'n dal ati i bechu ddim wedi'i ddeall na'i nabod e.
I Jo WelBeibl 3:7  Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn.
I Jo WelBeibl 3:8  Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi'i wneud o'r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.
I Jo WelBeibl 3:9  Dydy'r rhai sydd wedi'u geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi'i blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw.
I Jo WelBeibl 3:10  Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd.
I Jo WelBeibl 3:11  Dyma'r neges dych chi wedi'i chlywed o'r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu'n gilydd.
I Jo WelBeibl 3:12  Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn.
I Jo WelBeibl 3:13  Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy'r byd yn eich casáu chi!
I Jo WelBeibl 3:14  Dŷn ni'n caru'n gilydd, ac felly'n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw'n ysbrydol i fod yn fyw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw'n ysbrydol.
I Jo WelBeibl 3:15  Mae unrhyw un sy'n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol.
I Jo WelBeibl 3:16  Dyma sut dŷn ni'n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth droson ni. Felly dylen ni aberthu'n hunain dros ein cyd-Gristnogion.
I Jo WelBeibl 3:17  Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto'n dewis gwneud dim byd i'w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly?
I Jo WelBeibl 3:18  Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!
I Jo WelBeibl 3:19  Dim ond felly mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn i'r gwir. Dyna'r unig ffordd i gael tawelwch meddwl pan fyddwn ni'n sefyll o flaen Duw,
I Jo WelBeibl 3:20  hyd yn oed os ydyn ni'n teimlo'n euog a'r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e'n gwybod am bob dim.
I Jo WelBeibl 3:21  Ffrindiau annwyl, os ydy'r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw.
I Jo WelBeibl 3:22  Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy'n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano.
I Jo WelBeibl 3:23  A dyma'i orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu'n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni.
I Jo WelBeibl 3:24  Mae'r rhai sy'n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni'n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi'r Ysbryd i ni.
Chapter 4
I Jo WelBeibl 4:1  Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy'n dweud eu bod nhw'n siarad drwy'r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw'n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas.
I Jo WelBeibl 4:2  Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy'n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw.
I Jo WelBeibl 4:3  Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Mae'r ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith.
I Jo WelBeibl 4:4  Ond blant annwyl, dych chi'n perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na'r un sydd yn y byd.
I Jo WelBeibl 4:5  I'r byd annuwiol maen nhw'n perthyn, ac maen nhw'n siarad iaith y byd hwnnw, ac mae pobl y byd yn gwrando arnyn nhw.
I Jo WelBeibl 4:6  Ond dŷn ni'n perthyn i Dduw, felly'r rhai sy'n nabod Duw sy'n gwrando arnon ni. Dydy'r rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun.
I Jo WelBeibl 4:7  Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy'n caru fel hyn wedi'i eni'n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw.
I Jo WelBeibl 4:8  Os ydy'r cariad hwn ddim gan rywun, dydy'r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw.
I Jo WelBeibl 4:9  Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i'r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo.
I Jo WelBeibl 4:10  Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.
I Jo WelBeibl 4:11  Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi'n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu'n gilydd.
I Jo WelBeibl 4:12  Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni'n caru'n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.
I Jo WelBeibl 4:13  Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni.
I Jo WelBeibl 4:14  A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i achub y byd.
I Jo WelBeibl 4:15  Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw.
I Jo WelBeibl 4:16  Dŷn ni'n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni'n dibynnu'n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae'r rhai sy'n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw.
I Jo WelBeibl 4:17  Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni'n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni'n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw.
I Jo WelBeibl 4:18  Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw.
I Jo WelBeibl 4:19  Dŷn ni'n caru'n gilydd am ei fod e wedi'n caru ni gyntaf.
I Jo WelBeibl 4:20  Pwy bynnag sy'n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae'n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae'n ei weld, sut mae e'n gallu caru'r Duw dydy e erioed wedi'i weld?
I Jo WelBeibl 4:21  Dyma'r gorchymyn mae Duw wedi'i roi i ni: Rhaid i'r sawl sy'n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.
Chapter 5
I Jo WelBeibl 5:1  Mae pawb sy'n credu mai Iesu ydy'r Meseia wedi cael eu geni'n blant i Dduw, ac mae pawb sy'n caru'r Tad yn caru ei blentyn hefyd.
I Jo WelBeibl 5:2  Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
I Jo WelBeibl 5:3  Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd,
I Jo WelBeibl 5:4  am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy'n rhoi'r fuddugoliaeth yna i ni!
I Jo WelBeibl 5:5  Pwy sy'n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy'n credu mai Iesu ydy Mab Duw.
I Jo WelBeibl 5:6  Iesu Grist – daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a'r gwaed. Ac mae'r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai'r Ysbryd ydy'r gwir.
I Jo WelBeibl 5:8  yr Ysbryd, dŵr y bedydd a'r gwaed ar y groes; ac mae'r tri yn cytuno â'i gilydd.
I Jo WelBeibl 5:9  Dŷn ni'n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma'r dystiolaeth mae Duw wedi'i roi am ei Fab!
I Jo WelBeibl 5:10  Mae pawb sy'n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi'i dystio am ei Fab.
I Jo WelBeibl 5:11  A dyma'r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae'r bywyd hwn i'w gael yn ei Fab.
I Jo WelBeibl 5:12  Felly os ydy'r Mab gan rywun, mae'r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy'r Mab ddim ganddyn nhw.
I Jo WelBeibl 5:13  Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol.
I Jo WelBeibl 5:14  Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e'n gwrando arnon ni os byddwn ni'n gofyn am unrhyw beth sy'n gyson â'i fwriad e.
I Jo WelBeibl 5:15  Ac os ydyn ni'n gwybod ei fod e'n gwrando arnon ni, dŷn ni'n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni'n gofyn amdano.
I Jo WelBeibl 5:16  Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy'n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae'r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw.
I Jo WelBeibl 5:17  Mae gwneud unrhyw beth o'i le yn bechod, ond dydy pob pechod ddim yn bechod marwol.
I Jo WelBeibl 5:18  Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi'u geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw.
I Jo WelBeibl 5:19  Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n blant i Dduw, ond mae'r byd o'n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.
I Jo WelBeibl 5:20  Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi'n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi'n huno â'r gwir Dduw am ein bod ni wedi'n huno â'i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy'r unig wir Dduw, a fe ydy'r bywyd tragwyddol.
I Jo WelBeibl 5:21  Blant annwyl, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sy'n cymryd lle Duw yn eich bywydau chi.