Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PHILIPPIANS
Up
1 2 3 4
Chapter 1
Phil WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i'r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy'n bobl i Dduw ac yn perthyn i'r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn yr eglwys:
Phil WelBeibl 1:2  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Phil WelBeibl 1:3  Bob tro dw i'n meddwl amdanoch chi dw i'n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi.
Phil WelBeibl 1:4  Dw i'n gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny,
Phil WelBeibl 1:5  am eich bod chi o'r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu'r newyddion da.
Phil WelBeibl 1:6  Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
Phil WelBeibl 1:7  Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi'i roi i mi – sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia.
Phil WelBeibl 1:8  Dim ond Duw sy'n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi – dw i'n eich caru chi fel mae'r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi!
Phil WelBeibl 1:9  Yr hyn dw i'n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi'n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi'n tyfu yn eich dealltwriaeth o'r gwirionedd a'ch gallu i benderfynu beth sy'n iawn.
Phil WelBeibl 1:10  Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i'w wneud bob amser, a byw yn gwbl onest a di-fai nes i'r Meseia ddod yn ôl.
Phil WelBeibl 1:11  Bydd hynny'n dangos eich bod chi wedi'ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a'i foli.
Phil WelBeibl 1:12  Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi'n gyfle newydd i rannu'r newyddion da.
Phil WelBeibl 1:13  Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod mod i yn y carchar am fy mod i'n gweithio i'r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny!
Phil WelBeibl 1:14  Ac mae'r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu'r rhai sy'n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw.
Phil WelBeibl 1:15  Mae'n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy'n ysgogi rhai i gyhoeddi'r neges am y Meseia, ond mae eraill sy'n gwneud hynny am y rhesymau iawn.
Phil WelBeibl 1:16  Cariad sy'n eu hysgogi nhw, ac maen nhw'n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da.
Phil WelBeibl 1:17  Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar.
Phil WelBeibl 1:18  Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus. A hapus fydda i hefyd!
Phil WelBeibl 1:19  Dych chi wrthi'n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i'n gwybod y bydda i'n cael fy rhyddhau yn y diwedd.
Phil WelBeibl 1:20  Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
Phil WelBeibl 1:21  I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i'n ennill hyd yn oed os bydda i'n cael fy lladd!
Phil WelBeibl 1:22  Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i'n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i'n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod!
Phil WelBeibl 1:23  Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth – dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
Phil WelBeibl 1:24  Ond mae'n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw.
Phil WelBeibl 1:25  O feddwl am y peth, dw i'n reit siŵr y bydda i'n aros, i'ch helpu chi i dyfu a phrofi'r llawenydd sydd i'w gael o gredu yn y Meseia.
Phil WelBeibl 1:26  Felly pan fydda i'n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu.
Phil WelBeibl 1:27  Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i'n dod i'ch gweld chi neu beidio, byddwch chi'n sefyll yn gadarn ac yn brwydro'n galed gyda'ch gilydd dros y newyddion da.
Phil WelBeibl 1:28  Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy'n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw'n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub – a hynny gan Dduw.
Phil WelBeibl 1:29  Eich braint chi ydy dim yn unig credu yn y Meseia, ond hefyd cael dioddef drosto.
Phil WelBeibl 1:30  Dych chi'n wynebu yn union yr un frwydr weloch chi fi'n ei hymladd! A dw i'n dal yn ei chanol hi fel dych chi'n gweld.
Chapter 2
Phil WelBeibl 2:1  Os ydy perthyn i'r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy'r Ysbryd yn eich clymu chi'n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig
Phil WelBeibl 2:2  – yna gwnewch fi'n wirioneddol hapus drwy rannu'r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas.
Phil WelBeibl 2:3  Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.
Phil WelBeibl 2:4  Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi'ch hunain.
Phil WelBeibl 2:5  Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu:
Phil WelBeibl 2:6  Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw;
Phil WelBeibl 2:7  ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
Phil WelBeibl 2:8  Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes.
Phil WelBeibl 2:9  Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i'r safle uchaf; a rhoi'r enw pwysica un iddo!
Phil WelBeibl 2:10  Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu – pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear;
Phil WelBeibl 2:11  a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy'r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
Phil WelBeibl 2:12  Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned.
Phil WelBeibl 2:13  Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe.
Phil WelBeibl 2:15  er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr
Phil WelBeibl 2:16  wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i'n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser.
Phil WelBeibl 2:17  Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi.
Phil WelBeibl 2:18  A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.
Phil WelBeibl 2:19  Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i.
Phil WelBeibl 2:20  Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae'n teimlo'n union fel dw i'n teimlo – mae ganddo'r fath gonsýrn drosoch chi.
Phil WelBeibl 2:21  Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy'n bwysig i Iesu Grist.
Phil WelBeibl 2:22  Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.
Phil WelBeibl 2:23  Felly dw i'n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd i mi.
Phil WelBeibl 2:24  Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan!
Phil WelBeibl 2:25  Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan oeddwn i angen help.
Phil WelBeibl 2:26  Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni'n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl.
Phil WelBeibl 2:27  Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch.
Phil WelBeibl 2:28  Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint.
Phil WelBeibl 2:29  Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo,
Phil WelBeibl 2:30  achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu'r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi'n methu ei wneud eich hunain.
Chapter 3
Phil WelBeibl 3:1  Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi.
Phil WelBeibl 3:2  Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy'n dweud fod rhaid torri'r cnawd â chyllell i gael eich achub!
Phil WelBeibl 3:3  Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi'i wneud i'r corff.
Phil WelBeibl 3:4  Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!
Phil WelBeibl 3:5  Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i'n dod o dras Iddewig pur; dw i'n aelod o lwyth Benjamin; dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl;
Phil WelBeibl 3:6  roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.
Phil WelBeibl 3:7  Rôn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.
Phil WelBeibl 3:8  Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael
Phil WelBeibl 3:9  perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!
Phil WelBeibl 3:10  Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!
Phil WelBeibl 3:11  Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.
Phil WelBeibl 3:12  Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi'i fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn.
Phil WelBeibl 3:13  Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i.
Phil WelBeibl 3:14  Fel taswn i mewn ras, dw i'n rhedeg at y llinell derfyn gyda'r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.
Phil WelBeibl 3:15  Felly gadewch i bob un ohonon ni sy'n ‛berffaith‛ fod â'r un agwedd. Os dych chi'n gweld pethau'n wahanol, dw i'n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi.
Phil WelBeibl 3:16  Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir.
Phil WelBeibl 3:17  Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi.
Phil WelBeibl 3:18  Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes.
Phil WelBeibl 3:19  Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta – dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw.
Phil WelBeibl 3:20  Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd.
Phil WelBeibl 3:21  Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.
Chapter 4
Phil WelBeibl 4:1  Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd.
Phil WelBeibl 4:2  Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd.
Phil WelBeibl 4:3  A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
Phil WelBeibl 4:4  Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen!
Phil WelBeibl 4:5  Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan.
Phil WelBeibl 4:6  Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.
Phil WelBeibl 4:7  Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Phil WelBeibl 4:8  Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu – am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol.
Phil WelBeibl 4:9  Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi'u dysgu a'u gweld a'u clywed gen i. A bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi.
Phil WelBeibl 4:10  Rôn i mor llawen, ac yn diolch i'r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i'n gwybod mai felly roeddech chi'n teimlo drwy'r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny.
Phil WelBeibl 4:11  Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi.
Phil WelBeibl 4:12  Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.
Phil WelBeibl 4:13  Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny.
Phil WelBeibl 4:14  Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd.
Phil WelBeibl 4:15  Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi'n gwybod hynny'n iawn.
Phil WelBeibl 4:16  Hyd yn oed pan oeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro.
Phil WelBeibl 4:17  A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i.
Phil WelBeibl 4:18  Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.
Phil WelBeibl 4:19  Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
Phil WelBeibl 4:20  Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!
Phil WelBeibl 4:21  Cofiwch fi at bob un o'r Cristnogion acw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion.
Phil WelBeibl 4:22  Ac mae'r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd – yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym mhalas Cesar.
Phil WelBeibl 4:23  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.