Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JAMES
Up
1 2 3 4 5
Chapter 1
Jame WelBeibl 1:1  Llythyr gan Iago, gwas i Dduw a'r Arglwydd Iesu Grist. At Gristnogion Iddewig sydd wedi'u gwasgaru drwy'r holl wledydd. Cyfarchion!
Jame WelBeibl 1:2  Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi'n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny'n rheswm i fod yn llawen.
Jame WelBeibl 1:3  Achos pan mae'ch ffydd chi'n cael ei brofi mae hynny'n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi'r gorau iddi.
Jame WelBeibl 1:4  Ac mae dal ati drwy'r cwbl yn eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth!
Jame WelBeibl 1:5  Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw.
Jame WelBeibl 1:6  Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy'n amau yn debyg i donnau'r môr yn cael eu taflu a'u chwipio i bobman gan y gwynt.
Jame WelBeibl 1:7  Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd!
Jame WelBeibl 1:8  Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw'n byw mewn ansicrwydd.
Jame WelBeibl 1:9  Dylai'r Cristion sy'n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi'i anrhydeddu,
Jame WelBeibl 1:10  ond dylai'r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e'n diflannu fel blodyn gwyllt.
Jame WelBeibl 1:11  Wrth i'r haul tanbaid grino'r glaswellt mae'r blodyn yn syrthio a'i harddwch yn diflannu. Dyna'n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog – marw yng nghanol eu busnes!
Jame WelBeibl 1:12  Mae'r rhai sy'n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy'r prawf byddan nhw'n cael eu coroni â'r bywyd mae Duw wedi'i addo i'r rhai sy'n ei garu.
Jame WelBeibl 1:13  A ddylai neb ddweud pan mae'n cael ei brofi, “Duw sy'n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.
Jame WelBeibl 1:14  Eu chwantau drwg eu hunain sy'n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd.
Jame WelBeibl 1:15  Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
Jame WelBeibl 1:16  Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl.
Jame WelBeibl 1:17  Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll.
Jame WelBeibl 1:18  Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi'n dewis ni'n arbennig iddo'i hun o blith y cwbl mae wedi'i greu.
Jame WelBeibl 1:19  Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.
Jame WelBeibl 1:20  Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw.
Jame WelBeibl 1:21  Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi'i phlannu yn eich calonnau chi – dyna'r neges sy'n eich achub chi.
Jame WelBeibl 1:22  Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!
Jame WelBeibl 1:23  Mae rhywun sy'n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych.
Jame WelBeibl 1:24  Mae'n edrych arno'i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno!
Jame WelBeibl 1:25  Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi'i glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud!
Jame WelBeibl 1:26  Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae'n twyllo'i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim.
Jame WelBeibl 1:27  Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy'r grefydd sy'n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy'n dioddef, ac sy'n gwrthod dylanwad y byd.
Chapter 2
Jame WelBeibl 2:1  Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy'n dweud eu bod nhw'n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist.
Jame WelBeibl 2:2  Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd.
Jame WelBeibl 2:3  Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”,
Jame WelBeibl 2:4  fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir?
Jame WelBeibl 2:5  Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi'u dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi'i haddo i'r rhai sy'n ei garu.
Jame WelBeibl 2:6  Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd?
Jame WelBeibl 2:7  Onid nhw sy'n cablu enw da yr un dych chi'n perthyn iddo?
Jame WelBeibl 2:8  Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi.
Jame WelBeibl 2:9  Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr.
Jame WelBeibl 2:10  Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd.
Jame WelBeibl 2:11  Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”. Felly os wyt ti'n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri'r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu.
Jame WelBeibl 2:12  Dylech chi siarad a byw fel pobl sy'n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‛y gyfraith sy'n eich rhyddhau chi‛.
Jame WelBeibl 2:13  Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.
Jame WelBeibl 2:14  Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun?
Jame WelBeibl 2:15  Er enghraifft, os ydych chi'n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd,
Jame WelBeibl 2:16  ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo?
Jame WelBeibl 2:17  Mae ‛credu‛ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy'r ‛credu‛ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae'n farw gelain.
Jame WelBeibl 2:18  Ond wedyn mae rhywun yn dadlau, “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!”
Jame WelBeibl 2:19  Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!
Jame WelBeibl 2:20  Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‛credu‛ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim?
Jame WelBeibl 2:21  Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn?
Jame WelBeibl 2:22  Roedd ei ffydd i'w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu.
Jame WelBeibl 2:23  Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw'n ffrind Duw!
Jame WelBeibl 2:24  Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy'n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu.
Jame WelBeibl 2:25  I roi enghraifft hollol wahanol, meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol.
Jame WelBeibl 2:26  Yn union fel mae corff yn farw os does dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!
Chapter 3
Jame WelBeibl 3:1  Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy'n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy'n dysgu eraill yn cael ein barnu'n fwy llym.
Jame WelBeibl 3:2  Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr.
Jame WelBeibl 3:3  Dŷn ni'n rhoi ffrwyn ar geffyl i'w wneud yn ufudd i ni, a'i droi i'r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd.
Jame WelBeibl 3:4  A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd.
Jame WelBeibl 3:5  Dyna i chi'r tafod! Mae'n rhan bach iawn o'r corff, ond mae'n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân.
Jame WelBeibl 3:6  A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi'i thanio gan uffern!
Jame WelBeibl 3:7  Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod,
Jame WelBeibl 3:8  ond does neb byw sy'n gallu dofi'r tafod. Mae'n ddrwg cwbl afreolus; mae'n llawn gwenwyn marwol!
Jame WelBeibl 3:9  Gallwn addoli ein Harglwydd a'n Tad nefol un funud, ac yna'r funud nesa dŷn ni'n melltithio pobl sydd wedi'u creu ar ddelw Duw!
Jame WelBeibl 3:10  Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd!
Jame WelBeibl 3:11  Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon?
Jame WelBeibl 3:12  Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!
Jame WelBeibl 3:13  Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth.
Jame WelBeibl 3:14  Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd.
Jame WelBeibl 3:15  Dim dyna'r math o ‛ddoethineb‛ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! – mae ‛doethineb‛ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun!
Jame WelBeibl 3:16  Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.
Jame WelBeibl 3:17  Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith.
Jame WelBeibl 3:18  Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.
Chapter 4
Jame WelBeibl 4:1  Beth sy'n gyfrifol am yr holl frwydro a'r gwrthdaro sy'n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni'r hunan ydy'r drwg?
Jame WelBeibl 4:2  Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae'r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi'n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw.
Jame WelBeibl 4:3  A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi'n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser.
Jame WelBeibl 4:4  Dych chi fel gwragedd sy'n anffyddlon i'w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau'r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy'n dewis bod yn gyfaill i'r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw.
Jame WelBeibl 4:5  Ydych chi'n meddwl fod beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen?
Jame WelBeibl 4:6  Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”
Jame WelBeibl 4:7  Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi.
Jame WelBeibl 4:8  Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr.
Jame WelBeibl 4:9  Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch.
Jame WelBeibl 4:10  Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e'n eich anrhydeddu chi.
Jame WelBeibl 4:11  Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith.
Jame WelBeibl 4:12  A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?
Jame WelBeibl 4:13  Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.”
Jame WelBeibl 4:14  Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!
Jame WelBeibl 4:15  Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.”
Jame WelBeibl 4:16  Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn.
Jame WelBeibl 4:17  Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu.
Chapter 5
Jame WelBeibl 5:1  A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crio ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o'ch blaenau.
Jame WelBeibl 5:2  Mae'ch cyfoeth chi'n pydru a'ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod.
Jame WelBeibl 5:3  Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben.
Jame WelBeibl 5:4  Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi.
Jame WelBeibl 5:5  Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy!
Jame WelBeibl 5:6  Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu'ch gwrthwynebu chi wedi'u hecsbloetio a'u condemnio i farwolaeth gynnoch chi.
Jame WelBeibl 5:7  Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu.
Jame WelBeibl 5:8  Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan.
Jame WelBeibl 5:9  Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws!
Jame WelBeibl 5:10  Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint!
Jame WelBeibl 5:11  Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!
Jame WelBeibl 5:12  Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw – ddim i'r nefoedd nac i'r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo'ch cosbi.
Jame WelBeibl 5:13  Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw.
Jame WelBeibl 5:14  Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a'i eneinio ag olew ar ran yr Arglwydd.
Jame WelBeibl 5:15  Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant.
Jame WelBeibl 5:16  Felly cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.
Jame WelBeibl 5:17  Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner!
Jame WelBeibl 5:18  Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi'n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto.
Jame WelBeibl 5:19  Frodyr a chwiorydd, os bydd un o'ch plith chi'n troi i ffwrdd oddi wrth y gwirionedd, a rhywun arall yn ei arwain yn ôl,
Jame WelBeibl 5:20  gallwch fod yn siŵr o hyn: bydd y person sy'n ei droi yn ôl o'i ffyrdd ffôl yn achub y pechadur rhag marwolaeth dragwyddol ac yn maddau lot fawr o bechodau.