Chapter 1
I Ti | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu – wedi fy anfon gan y Duw sy'n ein hachub ni, a'r Meseia, yr un mae'n gobaith ni ynddo. | |
I Ti | WelBeibl | 1:2 | Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni. | |
I Ti | WelBeibl | 1:3 | Fel y gwnes i pan oeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir, | |
I Ti | WelBeibl | 1:4 | yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dŷn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu. | |
I Ti | WelBeibl | 1:5 | Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn. | |
I Ti | WelBeibl | 1:6 | Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens! | |
I Ti | WelBeibl | 1:7 | Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol! | |
I Ti | WelBeibl | 1:9 | Dŷn ni'n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy'n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion, | |
I Ti | WelBeibl | 1:10 | pobl sy'n pechu'n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy'n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir. | |
I Ti | WelBeibl | 1:11 | Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â'r newyddion da sy'n dweud wrthon ni mor wych ydy'r Duw bendigedig! Dyma'r newyddion da mae e wedi rhoi'r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi. | |
I Ti | WelBeibl | 1:12 | Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy'n rhoi'r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. | |
I Ti | WelBeibl | 1:13 | Cyn dod yn Gristion roeddwn i'n arfer cablu ei enw; roeddwn i'n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i – doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i'n ei wneud. | |
I Ti | WelBeibl | 1:14 | Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â'r cariad sy'n dod oddi wrth y Meseia Iesu. | |
I Ti | WelBeibl | 1:15 | Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i'r byd i achub pechaduriaid – a fi ydy'r gwaetha ohonyn nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 1:16 | Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i'n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. | |
I Ti | WelBeibl | 1:17 | Mae e'n haeddu ei anrhydeddu a'i foli am byth bythoedd! Fe ydy'r Brenin am byth! Fe ydy'r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy'r unig Dduw sy'n bod! Amen! | |
I Ti | WelBeibl | 1:18 | Timotheus, fy mab, dw i'n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi'i broffwydo amdanat ti): Mae'n bwysig dy fod ti'n ymladd yn dda yn y frwydr. | |
I Ti | WelBeibl | 1:19 | Dal dy afael yn beth rwyt ti'n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi'i dryllio. | |
Chapter 2
I Ti | WelBeibl | 2:1 | O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 2:2 | Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. | |
I Ti | WelBeibl | 2:5 | Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn. | |
I Ti | WelBeibl | 2:6 | Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. | |
I Ti | WelBeibl | 2:7 | A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd! | |
I Ti | WelBeibl | 2:8 | Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau. | |
I Ti | WelBeibl | 2:9 | A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig, | |
I Ti | WelBeibl | 2:10 | ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol. | |
I Ti | WelBeibl | 2:11 | Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr. | |
I Ti | WelBeibl | 2:12 | Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. | |
Chapter 3
I Ti | WelBeibl | 3:1 | Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. | |
I Ti | WelBeibl | 3:2 | Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Rhaid iddo fod yn ŵr sy'n ffyddlon i'w wraig, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn berson croesawgar, yn gallu dysgu eraill, | |
I Ti | WelBeibl | 3:3 | ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn deg, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar. | |
I Ti | WelBeibl | 3:4 | Dylai allu cadw trefn ar ei deulu ei hun, a'i blant yn atebol iddo ac yn ei barchu. | |
I Ti | WelBeibl | 3:5 | (Os ydy rhywun ddim yn gallu cadw trefn ar ei deulu ei hun, sut mae disgwyl iddo ofalu am eglwys Dduw?) | |
I Ti | WelBeibl | 3:6 | Dylai e ddim bod yn rhywun sydd ddim ond newydd ddod yn Gristion, rhag iddo ddechrau meddwl ei hun a chael ei farnu fel cafodd y diafol ei farnu. | |
I Ti | WelBeibl | 3:7 | Rhaid iddo hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i'r eglwys, rhag iddo gael ei ddal ym magl y diafol a chael ei gywilyddio. | |
I Ti | WelBeibl | 3:8 | A'r rhai sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy'n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill. | |
I Ti | WelBeibl | 3:9 | Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi'i ddangos sy'n wir, a byw gyda chydwybod lân. | |
I Ti | WelBeibl | 3:10 | Dylai'r dynion hyn dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw'n gallu cael eu penodi os does dim rheswm i beidio gwneud hynny. | |
I Ti | WelBeibl | 3:11 | A'r un fath gyda'r gwragedd hynny sy'n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy'n cael eu parchu; ddim yn rhai sy'n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni'n gallu dibynnu'n llwyr arnyn nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 3:12 | Dylai unrhyw ddyn sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i'w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref. | |
I Ti | WelBeibl | 3:13 | Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu'n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu. | |
I Ti | WelBeibl | 3:14 | Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan. Ond dw i'n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro, | |
I Ti | WelBeibl | 3:15 | er mwyn i ti wybod sut dylai'r bobl sy'n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy'n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda'i gilydd. | |
I Ti | WelBeibl | 3:16 | Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi'i ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol: Daeth i'r golwg fel person o gig a gwaed; Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn. Cafodd ei weld yn fyw gan angylion; Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i'r cenhedloedd, a chredodd llawer o bobl y byd ynddo. Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd. | |
Chapter 4
I Ti | WelBeibl | 4:1 | Ond mae'r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw'n gwrando ar ysbrydion sy'n twyllo ac yn credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu. | |
I Ti | WelBeibl | 4:2 | Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy'n dysgu pethau felly. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi'i serio gyda haearn poeth. | |
I Ti | WelBeibl | 4:3 | Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir. | |
I Ti | WelBeibl | 4:4 | Ac mae popeth mae Duw wedi'i greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. | |
I Ti | WelBeibl | 4:5 | Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi. | |
I Ti | WelBeibl | 4:6 | Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi'i derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia. | |
I Ti | WelBeibl | 4:7 | Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. | |
I Ti | WelBeibl | 4:8 | Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae'n dda i ti'n y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod. | |
I Ti | WelBeibl | 4:10 | Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu. | |
I Ti | WelBeibl | 4:12 | Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân. | |
I Ti | WelBeibl | 4:13 | Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a'u dysgu nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 4:14 | Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith. | |
I Ti | WelBeibl | 4:15 | Gwna'r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i'w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen. | |
Chapter 5
I Ti | WelBeibl | 5:1 | Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy'n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai'n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr, | |
I Ti | WelBeibl | 5:2 | y gwragedd hŷn fel mamau, a'r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw). | |
I Ti | WelBeibl | 5:4 | Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw. | |
I Ti | WelBeibl | 5:5 | Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help. | |
I Ti | WelBeibl | 5:7 | Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb. | |
I Ti | WelBeibl | 5:8 | Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu. | |
I Ti | WelBeibl | 5:9 | Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr, | |
I Ti | WelBeibl | 5:10 | ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser. | |
I Ti | WelBeibl | 5:11 | Paid rhoi enwau'r gweddwon iau ar y rhestr. Pan fydd eu teimladau rhywiol yn gryfach na'u hymroddiad i'r Meseia, byddan nhw eisiau priodi. | |
I Ti | WelBeibl | 5:12 | Byddai hynny yn golygu eu bod nhw'n euog o fod wedi torri'r addewid blaenorol wnaethon nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 5:13 | Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, siarad nonsens, defnyddio swynion a dweud pethau ddylen nhw ddim. | |
I Ti | WelBeibl | 5:14 | Dw i am i'r gweddwon iau i briodi eto a chael plant, a gofalu am y cartref. Wedyn fydd y gelyn ddim yn gallu bwrw sen arnon ni. | |
I Ti | WelBeibl | 5:16 | Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen. | |
I Ti | WelBeibl | 5:17 | Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu. | |
I Ti | WelBeibl | 5:18 | Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ych sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.” | |
I Ti | WelBeibl | 5:19 | Paid gwrando ar gyhuddiad yn erbyn arweinydd yn yr eglwys oni bai fod dau neu dri tyst. | |
I Ti | WelBeibl | 5:20 | Ond dylai'r rhai sydd yn dal ati i bechu gael eu ceryddu o flaen pawb, er mwyn i'r lleill wylio eu hunain. | |
I Ti | WelBeibl | 5:21 | O flaen Duw a'r Meseia Iesu a'r angylion mae wedi'u dewis, dw i'n rhoi siars i ti wneud y pethau yma heb ragfarn na chymryd ochrau. Paid byth â dangos ffafriaeth! | |
I Ti | WelBeibl | 5:22 | Gwylia rhag bod yn fyrbwyll wrth gomisiynu pobl yn arweinwyr yn yr eglwys. Does gen ti ddim eisiau bod yn gyfrifol am bechodau pobl eraill. Cadw dy hun yn bur. | |
I Ti | WelBeibl | 5:23 | O hyn ymlaen stopia yfed dim byd ond dŵr. Cymer ychydig win i wella dy stumog. Rwyt ti'n dioddef salwch yn rhy aml. | |
I Ti | WelBeibl | 5:24 | Mae pechodau rhai pobl yn gwbl amlwg, a does dim amheuaeth eu bod nhw'n euog. Ond dydy pechodau pobl eraill ddim ond yn dod i'r amlwg yn nes ymlaen. | |
Chapter 6
I Ti | WelBeibl | 6:1 | Dylai Cristnogion sy'n gaethweision barchu eu meistri, fel bod pobl ddim yn dweud pethau drwg am Dduw a beth dŷn ni'n ei ddysgu. | |
I Ti | WelBeibl | 6:2 | A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy'n Gristnogion am eu bod nhw'n frodyr. Fel arall yn hollol – dylid gweithio'n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy'n elwa o'u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw. Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd. | |
I Ti | WelBeibl | 6:3 | Mae rhai'n dysgu pethau sydd ddim yn wir, ac sy'n hollol groes i beth ddysgodd ein Harglwydd Iesu Grist – sut mae byw fel mae Duw am i ni fyw. | |
I Ti | WelBeibl | 6:4 | Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd. | |
I Ti | WelBeibl | 6:5 | Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi'u llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw. | |
I Ti | WelBeibl | 6:6 | Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol. | |
I Ti | WelBeibl | 6:7 | Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. | |
I Ti | WelBeibl | 6:9 | Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio'u bywydau. | |
I Ti | WelBeibl | 6:10 | Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw'u hunain. | |
I Ti | WelBeibl | 6:11 | Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw – yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn. | |
I Ti | WelBeibl | 6:12 | Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion. | |
I Ti | WelBeibl | 6:13 | Dw i'n rhoi'r siars yma i ti – a hynny o flaen Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat. | |
I Ti | WelBeibl | 6:14 | Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i'w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. | |
I Ti | WelBeibl | 6:15 | Bydd hynny'n digwydd pan mae Duw'n dweud – sef y Duw bendigedig, yr un sy'n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! | |
I Ti | WelBeibl | 6:16 | Fe ydy'r unig un sy'n anfarwol yn ei hanfod. Mae'n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi'i weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen! | |
I Ti | WelBeibl | 6:17 | Dwed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy'r un i ymddiried ynddo. Mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau. | |
I Ti | WelBeibl | 6:18 | Dwed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser. | |
I Ti | WelBeibl | 6:19 | Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw'u hunain – sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn. | |
I Ti | WelBeibl | 6:20 | Timotheus, cadw'n saff bopeth mae Duw wedi'i roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a'r math nonsens dwl sy'n cael ei alw ar gam yn ‛wybodaeth‛. | |