Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
SONG OF SOLOMON
Up
1 2 3 4 5 6 7 8
Chapter 1
Song WelBeibl 1:2  Y ferch wrth ei chariad: Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
Song WelBeibl 1:3  ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau – does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di.
Song WelBeibl 1:4  Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae'n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di.
Song WelBeibl 1:5  Y ferch wrth ferched Jerwsalem: Ferched Jerwsalem, mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd – yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon.
Song WelBeibl 1:6  Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun.
Song WelBeibl 1:7  Y ferch wrth ei chariad: Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd? Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
Song WelBeibl 1:8  Merched Jerwsalem wrth y ferch: O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
Song WelBeibl 1:9  Y cariad wrth y ferch: F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy'n tynnu cerbydau'r Pharo.
Song WelBeibl 1:10  Mae tlysau ar dy fochau hardd, a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
Song WelBeibl 1:11  Dw i am roi tlysau aur i ti, wedi'u haddurno ag arian.
Song WelBeibl 1:12  Y ferch ifanc: Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely, roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.
Song WelBeibl 1:13  Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd yn gorwedd drwy'r nos rhwng fy mronnau.
Song WelBeibl 1:14  Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna o winllannoedd ffrwythlon En-gedi.
Song WelBeibl 1:15  Y cariad wrth y ferch ifanc: O, rwyt mor hardd, f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod.
Song WelBeibl 1:16  Y ferch wrth ei chariad: O, rwyt mor olygus, fy nghariad – ac mor hyfryd! Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas yn gorchuddio'n gwely.
Song WelBeibl 1:17  Mae canghennau'r coed cedrwydd fel trawstiau yn y to uwch ein pen; a'r coed pinwydd fel paneli.
Chapter 2
Song WelBeibl 2:1  Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.
Song WelBeibl 2:2  Y cariad wrth y ferch: F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.
Song WelBeibl 2:3  Y ferch wrth ei chariad: Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill rwyt ti fel coeden afalau yng nghanol y goedwig. Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod, ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.
Song WelBeibl 2:4  Y ferch: Aeth â fi i mewn i'r gwindy a'm gorchuddio â'i gariad.
Song WelBeibl 2:5  Helpwch fi! Adfywiwch fi gyda ffrwythau melys ac afalau – dw i'n glaf o gariad.
Song WelBeibl 2:6  Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu.
Song WelBeibl 2:7  Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod.
Song WelBeibl 2:8  Y ferch: Ust! Fy nghariad sydd yna! Edrychwch! Dyma fe'n dod, yn llamu dros y mynyddoedd ac yn neidio dros y bryniau
Song WelBeibl 2:9  fel gasél neu garw ifanc. Mae yma! Yr ochr arall i'r wal! Mae'n edrych drwy'r ffenest ac yn sbecian drwy'r dellt.
Song WelBeibl 2:10  Mae'n galw arna i: “F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.
Song WelBeibl 2:11  Edrych! Mae'r gaeaf drosodd; mae'r glaw trwm wedi hen fynd.
Song WelBeibl 2:12  Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman, y tymor pan mae'r cread yn canu a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.
Song WelBeibl 2:13  Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd. F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.”
Song WelBeibl 2:14  Y cariad: Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd o'r golwg yn holltau'r graig a'r ogofâu ar y clogwyni! Gad i mi dy weld a chlywed dy lais; mae sŵn dy lais mor swynol, a'th olwg mor ddeniadol.
Song WelBeibl 2:15  Y ferch: Daliwch lwynogod, y llwynogod bach sydd am ddifetha gwinllannoedd – a'n gwinllannoedd yn blodeuo.
Song WelBeibl 2:16  Fi piau nghariad, a fe piau fi; mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
Song WelBeibl 2:17  Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu – bydd fel gasél neu garw ifanc yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.
Chapter 3
Song WelBeibl 3:1  Wrth orwedd ar fy ngwely yn y nos byddai gen i hiraeth am fy nghariad; dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
Song WelBeibl 3:2  “Dw i'n mynd i godi i edrych amdano yn y dre – crwydro'r strydoedd a'r sgwariau yn chwilio am fy nghariad.” Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
Song WelBeibl 3:3  Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”
Song WelBeibl 3:4  Prin rôn i wedi'u pasio pan ddes i o hyd i'm cariad! Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwng nes mynd ag e i dŷ fy mam, i'w hystafell wely.
Song WelBeibl 3:5  Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod.
Song WelBeibl 3:6  Y ferch Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch, yn codi llwch fel colofnau o fwg? Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor – myrr a thus a phob powdr persawrus sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.
Song WelBeibl 3:7  Edrychwch! Soffa gludo Solomon ydy hi! Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas – arwyr dewr Israel.
Song WelBeibl 3:8  Mae gan bob un ei gleddyf yn barod, ac maen nhw wedi'u hyfforddi i ryfela. Mae cleddyf pob un ar ei glun i'w amddiffyn rhag peryglon y nos.
Song WelBeibl 3:9  Mae gan Solomon gadair gludo wedi'i gwneud o goed o Libanus.
Song WelBeibl 3:10  Mae ei pholion o arian a'i ffrâm o aur; ei sedd o ddefnydd porffor a'r tu mewn wedi'i addurno â chariad.
Song WelBeibl 3:11  Ferched Jerwsalem, dewch allan! Dewch, ferched Seion i syllu ar Solomon yn gwisgo'r goron gafodd gan ei fam ar ddiwrnod ei briodas – diwrnod hapusaf ei fywyd!
Chapter 4
Song WelBeibl 4:1  O, rwyt mor hardd, f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod y tu ôl i'r fêl. Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead.
Song WelBeibl 4:2  Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll.
Song WelBeibl 4:3  Mae dy wefusau fel edau goch, a'th geg mor siapus. Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau.
Song WelBeibl 4:4  Mae dy wddf fel tŵr Dafydd a'r rhesi o gerrig o'i gwmpas; mil o darianau yn hongian arno, fel arfau milwyr arwrol.
Song WelBeibl 4:5  Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid yn pori ymysg y lilïau.
Song WelBeibl 4:6  Rhaid i mi fynd a dringo mynydd myrr a bryn thus, ac aros yno hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu.
Song WelBeibl 4:7  Mae popeth amdanat mor hardd, f'anwylyd! Ti'n berffaith!
Song WelBeibl 4:8  Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad, tyrd gyda mi o fryniau Libanus. Tyrd i lawr o gopa Amana, o ben Senir, sef copa Hermon. Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod a lloches y llewpard.
Song WelBeibl 4:9  Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad. Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad, un em yn dy gadwyn.
Song WelBeibl 4:10  Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad. Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin, ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.
Song WelBeibl 4:11  Mae dy gusan yn felys, fy nghariad, yn diferu fel diliau mêl. Mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.
Song WelBeibl 4:12  Fy merch annwyl, fy nghariad – rwyt fel gardd breifat dan glo, yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.
Song WelBeibl 4:13  Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwyth gorau. Gardd bersawrus hudolus o henna hyfryd,
Song WelBeibl 4:14  nard a saffrwn, sbeisiau pêr a sinamon, thus o wahanol fathau, myrr ac aloes – pob un o'r perlysiau drutaf.
Song WelBeibl 4:15  Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd – ffynnon o ddŵr glân gloyw yn llifo i lawr bryniau Libanus.
Song WelBeibl 4:16  Y ferch: Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de! Chwytha ar fy ngardd i ledu sawr ei pherlysiau. Tyrd i mewn i dy ardd, fy nghariad, a gwledda ar ei ffrwyth gorau.
Chapter 5
Song WelBeibl 5:1  Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad – i gasglu fy myrr a'm perlysiau, i flasu'r diliau a'r mêl, ac i yfed y gwin a'r llaeth. Y gwesteion: Mwynhewch y wledd, gariadon! Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
Song WelBeibl 5:2  Y ferch: Rôn i'n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro. Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo – Y cariad: “Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd, fy nghariad, fy ngholomen berffaith. Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith, a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”
Song WelBeibl 5:3  Y ferch: “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i. Ti am i mi wisgo eto, wyt ti? A dw i wedi golchi fy nhraed. Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
Song WelBeibl 5:4  Yna gwthiodd ei law i agor y drws, a theimlais wefr yn mynd drwyddo i.
Song WelBeibl 5:5  Codais i'w adael i mewn; roedd fy nwylo'n diferu o fyrr – roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd pan afaelais yn yr handlen.
Song WelBeibl 5:6  Agorais y drws i'm cariad, ond roedd e wedi troi a mynd! Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth. Chwiliais amdano, ond methu ei gael; galwais arno, ond doedd dim ateb.
Song WelBeibl 5:7  Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i – y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas!
Song WelBeibl 5:8  Ferched Jerwsalem, gwrandwch – os dewch chi o hyd i'm cariad, dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad.
Song WelBeibl 5:9  Y merched wrth y ferch: O'r harddaf o ferched, beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill? Beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill, i ti grefu mor daer â hyn?
Song WelBeibl 5:10  Y ferch: Mae nghariad yn ffit ac yn iach; mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.
Song WelBeibl 5:11  Mae ei wyneb a'i wedd fel aur pur, a'i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.
Song WelBeibl 5:12  Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr, yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.
Song WelBeibl 5:13  Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau, a chusan ei wefusau fel y lili yn diferu o fyrr.
Song WelBeibl 5:14  Mae ei freichiau cyhyrog fel aur wedi'u haddurno â meini gwerthfawr; a'i gorff lluniaidd fel ifori llyfn wedi'i orchuddio â meini saffir.
Song WelBeibl 5:15  Mae ei goesau fel pileri o farmor wedi'u gosod ar sylfaen o aur pur. Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanus a'u coed cedrwydd urddasol.
Song WelBeibl 5:16  Mae ei gusan mor felys; mae popeth amdano'n ddeniadol! Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar, ferched Jerwsalem.
Chapter 6
Song WelBeibl 6:1  Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched? Ble'r aeth e? Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.
Song WelBeibl 6:2  Y ferch: Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd – i'w welyau o berlysiau. Mae wedi mynd i bori yn y gerddi, a chasglu'r lilïau.
Song WelBeibl 6:3  Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad; mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
Song WelBeibl 6:4  Y cariad: F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa, ac mor hyfryd â Jerwsalem. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!
Song WelBeibl 6:5  Paid edrych arna i – mae dy lygaid yn fy aflonyddu! Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead.
Song WelBeibl 6:6  Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll.
Song WelBeibl 6:7  Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau.
Song WelBeibl 6:8  Gallwn gael chwe deg brenhines, wyth deg o bartneriaid, a merched ifanc di-rif!
Song WelBeibl 6:9  Ond mae hi'n unigryw, fy ngholomen berffaith. Merch arbennig ei mam; hoff un yr un â'i cenhedlodd. Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld yn ei hedmygu. Mae pob brenhines a chariad yn canu am ei harddwch:
Song WelBeibl 6:10  “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr? Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn, mor bur â phelydrau'r haul. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
Song WelBeibl 6:11  Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau, i weld y tyfiant yn y dyffryn; i weld a oedd y winwydden wedi blaguro, a'r pomgranadau'n blodeuo.
Song WelBeibl 6:12  Rôn i wedi cynhyrfu'n lân. Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi, o ferch fy mhobl fonheddig.
Song WelBeibl 6:13  Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith! Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti. Y ferch: Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith, fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?
Chapter 7
Song WelBeibl 7:1  Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd, o ferch fonheddig. Mae dy gluniau mor siapus – fel gemwaith gan grefftwr medrus.
Song WelBeibl 7:2  Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron yn llawn o'r gwin cymysg gorau. Mae dy fol fel pentwr o wenith a chylch o lilïau o'i gwmpas.
Song WelBeibl 7:3  Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
Song WelBeibl 7:4  Mae dy wddf fel tŵr o ifori, a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbon ger mynedfa Bath-rabbîm. Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus sy'n wynebu dinas Damascus.
Song WelBeibl 7:5  Ti'n dal dy ben yn uchel fel Mynydd Carmel ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
Song WelBeibl 7:6  O, rwyt mor hardd! Mor hyfryd! Ti'n fy hudo, fy nghariad!
Song WelBeibl 7:7  Ti'n dal fel coeden balmwydd, a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys.
Song WelBeibl 7:8  Dw i am ddod a dringo'r goeden a gafael yn ei ffrwythau. Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin, a'u sawr yn felys fel afalau.
Song WelBeibl 7:9  Mae dy gusanau fel y gwin gorau yn llifo'n rhydd ar fy ngwefusau wrth i ni fynd i gysgu.
Song WelBeibl 7:11  Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau; gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna.
Song WelBeibl 7:12  Gad i ni godi'n gynnar a mynd lawr i'r gwinllannoedd, i weld os ydy'r winwydden wedi blaguro a'u blodau wedi agor; ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo – yno gwnaf roi fy hun i ti.
Song WelBeibl 7:13  Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau yn llenwi'r awyr, a danteithion pleser wrth ein drysau – y cwbl dw i wedi'i gadw i'w rannu gyda ti, fy nghariad.
Chapter 8
Song WelBeibl 8:1  O na fyddet ti fel brawd bach i mi, wedi'i fagu ar fron fy mam; byddwn yn dy gusanu di'n agored, a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.
Song WelBeibl 8:2  Af â ti i dŷ fy mam, yr un ddysgodd bopeth i mi. Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau, gwin melys fy mhomgranadau.
Song WelBeibl 8:3  Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu.
Song WelBeibl 8:4  Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch: Pam trio cyffroi cariad rhywiol cyn ei fod yn barod?
Song WelBeibl 8:5  Merched Jerwsalem: Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch yn pwyso ar fraich ei chariad? Y ferch: Cynhyrfais di dan y goeden afalau. Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu, a dyna ble cest ti dy eni.
Song WelBeibl 8:6  Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd. Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt, fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
Song WelBeibl 8:7  All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai'n ddim byd ond testun sbort.
Song WelBeibl 8:8  Brodyr y ferch: Mae gynnon ni chwaer fach a'i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i'w helpu pan gaiff ei haddo i'w phriodi?
Song WelBeibl 8:9  Os ydy hi'n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
Song WelBeibl 8:10  Y ferch: Roeddwn i fel wal, ond bellach mae fy mronnau fel tyrau, felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.
Song WelBeibl 8:11  Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon, a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid. Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
Song WelBeibl 8:12  Mae'r mil o ddarnau arian i ti, Solomon, a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth; ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.
Song WelBeibl 8:13  Y cariad: Ti sy'n aros yn y gerddi, mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais; ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed.
Song WelBeibl 8:14  Y ferch: Brysia, fy nghariad! – bydd fel gasél neu garw ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.