Toggle notes
Chapter 1
Amos | WelBeibl | 1:1 | Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa. Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel. | |
Amos | WelBeibl | 1:2 | Dyma ddwedodd Amos: “Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion, a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod porfa'r anifeiliaid yn gwywo, a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.” | |
Amos | WelBeibl | 1:3 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead, a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi. | |
Amos | WelBeibl | 1:4 | Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y Brenin Hasael, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad. | |
Amos | WelBeibl | 1:5 | Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus, yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen, a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden. Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 1:6 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a'u gwerthu nhw i wlad Edom, | |
Amos | WelBeibl | 1:7 | Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa, a bydd y tân yn dinistrio'i chaerau amddiffynnol. | |
Amos | WelBeibl | 1:8 | Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdod a'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon. Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron, nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!” —fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 1:9 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'u brodyr drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a'u gwerthu nhw i wlad Edom, | |
Amos | WelBeibl | 1:10 | Felly bydda i'n llosgi waliau Tyrus, a bydd y tân yn dinistrio'i chaerau amddiffynnol.” | |
Amos | WelBeibl | 1:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda'r cleddyf a dangos dim trugaredd atyn nhw. Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt heb stopio'r trais o gwbl, | |
Amos | WelBeibl | 1:13 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gilead er mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw'u hunain. | |
Amos | WelBeibl | 1:14 | Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba, a bydd y tân yn dinistrio'i chaerau amddiffynnol. Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr, pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm, | |
Chapter 2
Amos | WelBeibl | 2:1 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom a'u llosgi nhw'n galch. | |
Amos | WelBeibl | 2:2 | Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab, a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth. Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro, yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio. | |
Amos | WelBeibl | 2:3 | Bydda i'n cael gwared â'i brenin hi ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 2:4 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi'u cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw'i orchmynion e. Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn. | |
Amos | WelBeibl | 2:5 | Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.” | |
Amos | WelBeibl | 2:6 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian, a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! – | |
Amos | WelBeibl | 2:7 | sathru'r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio'r gwan o'r ffordd! Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth. | |
Amos | WelBeibl | 2:8 | Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorau ar ddillad sydd wedi'u cadw'n warant am ddyled. Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw – gwin wedi'i brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl! | |
Amos | WelBeibl | 2:9 | Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! – yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau! | |
Amos | WelBeibl | 2:10 | Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft a'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd, ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi! | |
Amos | WelBeibl | 2:11 | Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydi a rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid. Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 2:12 | “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin, ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau! | |
Amos | WelBeibl | 2:13 | Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl, fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach am fod llwyth trwm o ŷd arni. | |
Amos | WelBeibl | 2:14 | Bydd y cyflymaf ohonoch chi'n methu dianc, a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan. Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun, | |
Amos | WelBeibl | 2:15 | a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir. Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc, a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd. | |
Chapter 3
Amos | WelBeibl | 3:1 | Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft. | |
Amos | WelBeibl | 3:2 | “O blith holl bobloedd y ddaear, chi ydy'r rhai wnes i ddewis – a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif am yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.” | |
Amos | WelBeibl | 3:4 | Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth? | |
Amos | WelBeibl | 3:5 | Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd os nad oes abwyd yn y trap? Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn heb fod rhywbeth wedi'i ddal ynddo? | |
Amos | WelBeibl | 3:6 | Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre wrth glywed y corn hwrdd yn seinio fod ymosodiad? Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd? | |
Amos | WelBeibl | 3:7 | Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi. | |
Amos | WelBeibl | 3:8 | Pan mae'r llew yn rhuo, pwy sydd ddim yn ofni? Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad, felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo? | |
Amos | WelBeibl | 3:9 | Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft! Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas, a'r gormes sy'n digwydd yno. | |
Amos | WelBeibl | 3:10 | Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau sydd wedi'u dwyn drwy drais.” | |
Amos | WelBeibl | 3:11 | Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad! Bydd yn rhwygo popeth oddi arni ac yn ei gadael yn noeth. Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!” | |
Amos | WelBeibl | 3:12 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew – dwy goes, neu ddarn o'r glust – dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!” | |
Amos | WelBeibl | 3:13 | “Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw hollbwerus. | |
Amos | WelBeibl | 3:14 | “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli'r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr. | |
Chapter 4
Amos | WelBeibl | 4:1 | Gwrandwch ar hyn, chi wartheg Bashan! Ie, chi wragedd Samaria dw i'n ei olygu! Chi sy'n twyllo pobl dlawd, ac yn gwneud i'r gwan ddioddef. Chi sy'n dweud wrth eich gwŷr, “Tyrd â diod i ni gael parti!” | |
Amos | WelBeibl | 4:2 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn addo ar lw, mor sicr â'i fod yn sanctaidd: “Gwyliwch chi! Mae'r amser yn dod pan fyddan nhw'n eich arwain chi i ffwrdd â bachau – pob copa walltog gyda bachau pysgota. | |
Amos | WelBeibl | 4:3 | Byddwch chi'n cael eich llusgo allan o'r ddinas drwy'r tyllau yn y wal gyferbyn a'ch tai – Byddwch chi'n cael eich taflu ar y domen sbwriel!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:4 | “Dewch i'r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i! Dewch i'r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth! Dewch i gyflwyno eich aberth yn y bore a thalu'r degwm y diwrnod wedyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:5 | Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo! Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrwm gwirfoddol! Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:6 | “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi; doedd gynnoch chi ddim i'w fwyta yn unman. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:7 | “Fi rwystrodd hi rhag glawio pan oedd y cnydau angen glaw i dyfu. Rôn i'n rhoi glaw i un dre a dim glaw i dre arall. Roedd hi'n glawio ar un cae, ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwbl ac roedd y cnwd yn gwywo. | |
Amos | WelBeibl | 4:8 | Roedd pobl dwy neu dair o drefi yn llusgo'u ffordd i dre arall, yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed, ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:9 | “Dyma fi'n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau. Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a'ch gwinllannoedd, eich coed ffigys a'ch coed olewydd, eu dinistrio'n llwyr gan blâu o locustiaid. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:10 | “Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio, fel y plâu yn yr Aifft. Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel, a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch. Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:11 | “Dyma fi'n dinistrio rhai ohonoch chi fel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra. Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgi ar ôl cael ei gipio o'r tân. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 4:12 | “Felly, dw i'n mynd i dy gosbi di, Israel. Dyna dw i'n mynd i'w wneud, felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!” | |
Chapter 5
Amos | WelBeibl | 5:1 | Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel: | |
Amos | WelBeibl | 5:2 | “Mae Israel fel merch ifanc wedi'i tharo i lawr, mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad a does neb i'w chodi ar ei thraed.” | |
Amos | WelBeibl | 5:3 | Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel: “Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre anfonodd fil allan i'r fyddin, a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre anfonodd gant i'r fyddin.” | |
Amos | WelBeibl | 5:4 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel: “Tro yn ôl ata i, a chei fyw! | |
Amos | WelBeibl | 5:5 | Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel, mynd i ymweld â chysegr Gilgal na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba. Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo, a fydd Bethel ddim mwy na rhith!” | |
Amos | WelBeibl | 5:6 | Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw! Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân ac yn llosgi Bethel yn ulw; a fydd neb yn gallu diffodd y tân. | |
Amos | WelBeibl | 5:7 | Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw, ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir! | |
Amos | WelBeibl | 5:8 | Duw ydy'r un wnaeth y sêr – Pleiades ac Orïon. Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore, ac yn troi'r dydd yn nos dywyll. Mae e'n cymryd dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e! | |
Amos | WelBeibl | 5:9 | Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel, nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion! | |
Amos | WelBeibl | 5:10 | Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys; ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir. | |
Amos | WelBeibl | 5:11 | Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw. | |
Amos | WelBeibl | 5:12 | Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu'n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys! | |
Amos | WelBeibl | 5:14 | Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg, a chewch fyw! Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, gyda chi go iawn (fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!) | |
Amos | WelBeibl | 5:15 | Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff. | |
Amos | WelBeibl | 5:16 | Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw hollbwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd galarwyr proffesiynol yno'n udo llafarganu. | |
Amos | WelBeibl | 5:17 | Bydd pobl yn wylo'n uchel, hyd yn oed yn y gwinllannoedd, achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 5:18 | Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod! Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw? Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl! | |
Amos | WelBeibl | 5:19 | Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod. Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel, ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr! | |
Amos | WelBeibl | 5:20 | Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod – diwrnod tywyll fydd e, dim un golau! Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau! | |
Amos | WelBeibl | 5:21 | “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw. Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi. | |
Amos | WelBeibl | 5:22 | Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi, ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw. Gallwch offrymu eich anifeiliaid gorau i mi, ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl! | |
Amos | WelBeibl | 5:23 | Stopiwch ddod yma i forio canu'ch emynau; does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich nablau. | |
Amos | WelBeibl | 5:24 | Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu. | |
Amos | WelBeibl | 5:25 | “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel? | |
Amos | WelBeibl | 5:26 | A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan – sef duwiau'r sêr dych chi wedi'u llunio i chi'ch hunain! | |
Chapter 6
Amos | WelBeibl | 6:1 | Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion, ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria! Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma – ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad. | |
Amos | WelBeibl | 6:2 | Dych chi'n dweud wrthyn nhw, “Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno! Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr, ac i lawr i Gath y Philistiaid. Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma? Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?” | |
Amos | WelBeibl | 6:3 | Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod. Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais! | |
Amos | WelBeibl | 6:4 | Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus. Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus, ac yn mwynhau gwledda ar gig oen a'r cig eidion gorau. | |
Amos | WelBeibl | 6:5 | Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl – a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd! | |
Amos | WelBeibl | 6:6 | Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyni ac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau! Ond dych chi'n poeni dim fod dinistr yn dod ar bobl Joseff! | |
Amos | WelBeibl | 6:7 | Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo, a hynny'n fuan iawn! Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben! | |
Amos | WelBeibl | 6:8 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun: “Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob, ac yn ffieiddio ei phlastai. Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phobl yn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw hollbwerus. | |
Amos | WelBeibl | 6:10 | Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ – gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”. | |
Amos | WelBeibl | 6:11 | Felly, mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r gorchymyn: “Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw, a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.” | |
Amos | WelBeibl | 6:12 | Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawr? Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen? Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol ac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw. | |
Amos | WelBeibl | 6:13 | Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tref Lo-defâr, a meddech chi wedyn, “Dŷn ni wedi dal Carnaïm! Roedden ni'n rhy gryf iddyn nhw!” | |
Chapter 7
Amos | WelBeibl | 7:1 | Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd yn creu haid o locustiaid pan oedd y cnwd diweddar yn dechrau tyfu (y cnwd sy'n cael ei blannu ar ôl i'r brenin fedi'r cnwd cyntaf). | |
Amos | WelBeibl | 7:2 | Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.” | |
Amos | WelBeibl | 7:3 | A dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd,” meddai'r ARGLWYDD. | |
Amos | WelBeibl | 7:4 | Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd. | |
Amos | WelBeibl | 7:5 | Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.” | |
Amos | WelBeibl | 7:6 | Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD. | |
Amos | WelBeibl | 7:7 | Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi'i hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law. | |
Amos | WelBeibl | 7:8 | Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. | |
Amos | WelBeibl | 7:9 | Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.” | |
Amos | WelBeibl | 7:10 | Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud. | |
Amos | WelBeibl | 7:11 | Achos mae e'n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u gwlad yn gaethion.’” | |
Amos | WelBeibl | 7:12 | Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno! | |
Amos | WelBeibl | 7:13 | Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae'r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.” | |
Amos | WelBeibl | 7:14 | A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud. | |
Amos | WelBeibl | 7:15 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ | |
Amos | WelBeibl | 7:16 | Felly, gwrando, dyma neges yr ARGLWYDD. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac. | |
Amos | WelBeibl | 7:17 | Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd, a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel. Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill, a byddi di'n marw mewn gwlad estron. Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’” | |
Chapter 8
Amos | WelBeibl | 8:2 | A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. | |
Amos | WelBeibl | 8:3 | Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crio ar y diwrnod hwnnw,”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!” | |
Amos | WelBeibl | 8:4 | Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan, ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad. | |
Amos | WelBeibl | 8:5 | Chi sy'n mwmblan i'ch hunain, “Pryd fydd gŵyl y lleuad newydd drosodd? – i ni gael gwerthu'n cnydau eto. Pryd fydd y dydd Saboth drosodd? – i ni gael gwerthu'r ŷd eto. Gallwn godi pris uchel am fesur prin, a defnyddio clorian sy'n twyllo. | |
Amos | WelBeibl | 8:6 | Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled, a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau. Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!” | |
Amos | WelBeibl | 8:7 | Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob: “Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi'i wneud.” | |
Amos | WelBeibl | 8:8 | Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn a phawb sy'n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr afon yn yr Aifft. | |
Amos | WelBeibl | 8:9 | “A'r diwrnod hwnnw,” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd, a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd. | |
Amos | WelBeibl | 8:10 | Bydda i'n troi eich partïon yn angladdau a'ch holl ganeuon yn gerddi galar. Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi, a bydd pob pen yn cael ei siafio. Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab; fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.” | |
Amos | WelBeibl | 8:11 | “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.” Dim newyn am fara neu syched am ddŵr, ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD. | |
Amos | WelBeibl | 8:12 | Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin i'r Môr Marw yn y de ac o'r gogledd i'r dwyrain, er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD, ond byddan nhw'n methu. | |
Amos | WelBeibl | 8:13 | Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf yn llewygu am fod syched arnyn nhw – | |
Chapter 9
Amos | WelBeibl | 9:1 | Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc! | |
Amos | WelBeibl | 9:2 | Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw! A thasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd, byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno. | |
Amos | WelBeibl | 9:3 | Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel, byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw. A thasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr, byddwn i'n cael y Sarff sydd yno i'w brathu nhw. | |
Amos | WelBeibl | 9:4 | Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud, byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.” | |
Amos | WelBeibl | 9:5 | Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi; a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr afon yn yr Aifft. | |
Amos | WelBeibl | 9:6 | Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoedd ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear. Mae'n galw'r dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e! | |
Amos | WelBeibl | 9:7 | “I mi, bobl Israel, dych chi ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft, ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Creta a'r Syriaid o Cir.” | |
Amos | WelBeibl | 9:8 | Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn cadw golwg ar y wlad bechadurus. “Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear! Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Amos | WelBeibl | 9:9 | “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymyn ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd, fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr, a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd. | |
Amos | WelBeibl | 9:10 | Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel, sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni, na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’ | |
Amos | WelBeibl | 9:11 | Y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion. Bydda i'n ei adfer i fod fel roedd yn yr hen ddyddiau. | |
Amos | WelBeibl | 9:12 | Byddan nhw'n cymryd meddiant eto o'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom, a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd. | |
Amos | WelBeibl | 9:13 | “Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig eto cyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau. | |
Amos | WelBeibl | 9:14 | Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad. Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau. | |