Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GALATIANS
Up
1 2 3 4 5 6
Toggle notes
Chapter 1
Gala WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw.
Gala WelBeibl 1:2  Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:
Gala WelBeibl 1:3  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Gala WelBeibl 1:4  Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni.
Gala WelBeibl 1:5  Dyma'r Duw sy'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
Gala WelBeibl 1:6  Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun drwy haelioni'r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛.
Gala WelBeibl 1:7  Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy'n eich drysu chi drwy ystumio'r newyddion da am y Meseia a'i wneud yn rhywbeth arall.
Gala WelBeibl 1:8  Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno!
Gala WelBeibl 1:9  Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno!
Gala WelBeibl 1:10  Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia.
Gala WelBeibl 1:11  Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi.
Gala WelBeibl 1:12  Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.
Gala WelBeibl 1:13  Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw.
Gala WelBeibl 1:14  Rôn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni.
Gala WelBeibl 1:15  Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda
Gala WelBeibl 1:16  i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi'r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un,
Gala WelBeibl 1:17  na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus.
Gala WelBeibl 1:18  Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno.
Gala WelBeibl 1:19  Welais i ddim un o'r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd.
Gala WelBeibl 1:22  Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i'n bersonol,
Gala WelBeibl 1:23  ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae'r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae'n cyhoeddi'r newyddion da roedd e'n ceisio ei ddinistrio o'r blaen!”
Gala WelBeibl 1:24  Roedden nhw'n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.
Chapter 2
Gala WelBeibl 2:1  Aeth un deg pedair blynedd heibio cyn i mi fynd yn ôl i Jerwsalem eto. Es i gyda Barnabas y tro hwnnw, a dyma ni'n mynd â Titus gyda ni hefyd.
Gala WelBeibl 2:2  Roedd Duw wedi dangos i mi fod rhaid i mi fynd. Ces gyfarfod preifat gyda'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arweinwyr ‛pwysig‛. Dyma fi'n dweud wrthyn nhw yn union beth dw i wedi bod yn ei bregethu fel newyddion da i bobl o genhedloedd eraill. Rôn i am wneud yn siŵr mod i ddim wedi bod yn gweithio mor galed i ddim byd.
Gala WelBeibl 2:3  Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew.
Gala WelBeibl 2:4  Roedd dryswch wedi codi am fod rhai pobl oedd yn smalio eu bod yn credu wedi'u hanfon i'n plith ni, fel ysbiwyr yn ein gwylio ni a'r rhyddid sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia Iesu. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni'n gaeth unwaith eto,
Gala WelBeibl 2:5  ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi'n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da.
Gala WelBeibl 2:6  Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‛pwysig‛ yma? – (dydy pwy oedden nhw'n gwneud dim gwahaniaeth i mi – does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i'w ychwanegu at fy neges i.
Gala WelBeibl 2:7  Na, yn hollol i'r gwrthwyneb! Roedd hi'n gwbl amlwg iddyn nhw fod Duw wedi rhoi'r dasg i mi o gyhoeddi'r newyddion da i bobl o genhedloedd eraill, yn union fel roedd wedi rhoi'r dasg i Pedr o'i gyhoeddi i'r Iddewon.
Gala WelBeibl 2:8  Roedd yr un Duw oedd yn defnyddio Pedr fel ei gynrychiolydd i'r Iddewon, yn fy nefnyddio i gyda phobl o genhedloedd eraill.
Gala WelBeibl 2:9  Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy'n cael eu cyfri fel ‛y pileri‛, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw'n gweld mai Duw oedd wedi rhoi'r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni'n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw'n mynd at yr Iddewon.
Gala WelBeibl 2:10  Yr unig beth oedden nhw'n pwyso arnon ni i'w wneud oedd i beidio anghofio'r tlodion, ac roedd hynny'n flaenoriaeth gen i beth bynnag!
Gala WelBeibl 2:11  Ond wedyn pan ddaeth Pedr i ymweld ag Antiochia, roedd rhaid i mi dynnu'n groes iddo, am ei bod hi'n amlwg ei fod e ar fai.
Gala WelBeibl 2:12  Ar y dechrau roedd yn ddigon parod i rannu pryd o fwyd gyda phobl oedd ddim yn Iddewon. Ond dyma ryw ddynion yn cyrraedd oedd wedi dod oddi wrth Iago yn Jerwsalem, a dyma Pedr yn dechrau cadw draw a thorri cysylltiad â'r Cristnogion hynny oedd ddim yn Iddewon. Roedd yn poeni am y rhai oedd yn credu bod defod enwaediad yn hanfodol bwysig – beth fydden nhw'n ei feddwl ohono.
Gala WelBeibl 2:13  A dyma'r Cristnogion Iddewig eraill yn dechrau rhagrithio yr un fath â Pedr. Cafodd hyd yn oed Barnabas ei gamarwain ganddyn nhw!
Gala WelBeibl 2:14  Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?”
Gala WelBeibl 2:15  “Rwyt ti a fi wedi'n geni'n Iddewon, dim yn ‛bechaduriaid‛ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto
Gala WelBeibl 2:16  dŷn ni'n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy'n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni'r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu – credu mai ei ffyddlondeb e sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith!’
Gala WelBeibl 2:17  “Ond os ydy ceisio perthynas iawn gyda Duw drwy beth wnaeth y Meseia yn dangos ein bod ni'n ‛bechaduriaid‛ fel pawb arall, ydy hynny'n golygu bod y Meseia yn gwasanaethu pechod? Na! Wrth gwrs ddim!
Gala WelBeibl 2:18  Os dw i'n mynd yn ôl i'r hen ffordd – ailadeiladu beth wnes i ei chwalu – dw i'n troseddu yn erbyn Duw go iawn wedyn.
Gala WelBeibl 2:19  Wrth i mi geisio cadw'r Gyfraith Iddewig mae'r Gyfraith honno wedi fy lladd i, er mwyn i mi gael byw i wasanaethu Duw. Dw i wedi marw ar y groes gyda'r Meseia,
Gala WelBeibl 2:20  ac felly nid fi sy'n byw bellach, ond y Meseia sy'n byw ynof fi. Dw i'n byw y math o fywyd dw i'n ei fyw nawr am fod Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i.
Gala WelBeibl 2:21  Dw i ddim yn mynd i daflu rhodd hael Duw i ffwrdd! Os oedd perthynas iawn gyda Duw yn bosib drwy gadw'r Gyfraith yn ddeddfol, doedd dim pwynt i'r Meseia farw!”
Chapter 3
Gala WelBeibl 3:1  Chi bobl Galatia, ydych chi wir mor dwp â hynny? Pwy sydd wedi'ch hudo chi? Cafodd ystyr marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes ei esbonio'n glir i chi.
Gala WelBeibl 3:2  Atebwch un cwestiwn: Ddaeth yr Ysbryd Glân i'ch bywyd chi drwy i chi gadw'r Gyfraith Iddewig yn ddeddfol neu drwy i chi gredu'r neges am y Meseia?
Gala WelBeibl 3:3  Alla i ddim credu eich bod chi mor ddwl! Ar ôl dechrau byw dan ddylanwad yr Ysbryd, ydych chi'n mynd i geisio gorffen y daith yn eich nerth eich hunain?
Gala WelBeibl 3:4  Gawsoch chi'r holl brofiadau yna i ddim byd? – mae'n anodd gen i gredu hynny!
Gala WelBeibl 3:5  Ydy Duw yn rhoi ei Ysbryd i chi, ac yn gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi'n cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu!
Gala WelBeibl 3:6  Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”
Gala WelBeibl 3:7  Felly, y rhai sy'n credu sy'n blant go iawn i Abraham!
Gala WelBeibl 3:8  Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
Gala WelBeibl 3:9  A dyna sy'n digwydd! – y rhai sy'n credu sy'n cael y fendith, yn union yr un fath ag Abraham, achos credu wnaeth e.
Gala WelBeibl 3:10  Mae'r rhai sy'n meddwl y byddan nhw'n iawn am eu bod nhw'n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.”
Gala WelBeibl 3:11  Felly mae'n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Drwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
Gala WelBeibl 3:12  Mae'r syniad o gadw rheolau'r Gyfraith yn hollol wahanol – does dim angen ffydd. Dweud mae'r Gyfraith: “Y rhai sy'n gwneud y pethau hyn i gyd sy'n cael byw.”
Gala WelBeibl 3:13  Roedd y Gyfraith yn ein melltithio ni – roedden ni i gyd yn gaeth! Ond wedyn daeth y Meseia a thalu'r pris i'n gollwng ni'n rhydd. Cafodd e ei felltithio yn ein lle ni. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae pawb sy'n cael eu crogi ar bren wedi'u melltithio.”
Gala WelBeibl 3:14  Talodd y Meseia Iesu y pris i'n gollwng ni'n rhydd, er mwyn i bobl o'r cenhedloedd eraill i gyd gael profi'r un fendith ag Abraham. Ac wrth gredu dŷn ni hefyd yn derbyn yr Ysbryd gafodd ei addo.
Gala WelBeibl 3:15  Frodyr a chwiorydd, gadewch i mi esbonio'r peth drwy ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd. Mae'r un fath ag ewyllys. Os ydy ewyllys wedi'i gwneud yn gyfreithlon does gan neb hawl i'w dileu hi nac ychwanegu dim ati.
Gala WelBeibl 3:16  Nawr, roedd Duw wedi rhoi addewid i Abraham ac i un o'i ddisgynyddion – sylwch mai ‛hedyn‛ ydy'r gair sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgrifau sanctaidd, dim y gair lluosog ‛hadau‛ fyddai'n cyfeirio at lawer o bobl. Y ffurf unigol sy'n cael ei ddefnyddio, ac felly mae'n sôn am un person yn unig, sef y Meseia.
Gala WelBeibl 3:17  Dyma beth dw i'n ei ddweud: Allai'r Gyfraith, oedd wedi'i rhoi ar ôl 430 mlynedd, ddim dileu yr ymrwymiad hwnnw oedd Duw wedi'i wneud gynt ac wedi addo ei gadw.
Gala WelBeibl 3:18  Os ydy derbyn y cwbl mae Duw am ei roi i ni yn dibynnu ar gadw'r Gyfraith Iddewig, dydy e ddim yn ganlyniad i'r ffaith fod Duw wedi gwneud addewid! Ond beth wnaeth Duw yn ei haelioni oedd gwneud addewid i Abraham.
Gala WelBeibl 3:19  Felly beth oedd diben rhoi'r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i'r ‛hedyn‛ y soniwyd amdano gyrraedd – sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi'r Gyfraith i ni, a hynny drwy ganolwr, sef Moses.
Gala WelBeibl 3:20  Does ond angen canolwr pan mae mwy nag un ochr. Ond pan wnaeth Duw addewid i Abraham roedd yn gweithredu ar ei ben ei hun.
Gala WelBeibl 3:21  Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna'n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r gyfraith honno.
Gala WelBeibl 3:22  Ond mae'r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy'r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy'n credu sy'n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon.
Gala WelBeibl 3:23  Cyn i'r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni'n gaeth – roedden ni dan glo nes i'w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni.
Gala WelBeibl 3:24  Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a'n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu ynddo.
Gala WelBeibl 3:25  Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy'n ein gwarchod ni bellach.
Gala WelBeibl 3:26  Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu.
Gala WelBeibl 3:27  Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda'r Meseia drwy eich bedydd – mae'r un fath â'ch bod wedi gwisgo'r Meseia amdanoch.
Gala WelBeibl 3:28  Sdim ots os ydych chi'n Iddew neu'n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu'n ddinesydd rhydd, yn ddyn neu'n wraig – dych chi i gyd fel un teulu sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
Gala WelBeibl 3:29  Os dych chi'n perthyn i'r Meseia, dych chi'n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi'u haddo.
Chapter 4
Gala WelBeibl 4:1  Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo'i dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed – er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr!
Gala WelBeibl 4:2  Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun.
Gala WelBeibl 4:3  Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.
Gala WelBeibl 4:4  Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddewis, anfonodd ei Fab, wedi'i eni o wraig, wedi'i eni dan y Gyfraith,
Gala WelBeibl 4:5  i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw.
Gala WelBeibl 4:6  A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “Abba! Dad!”
Gala WelBeibl 4:7  Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.
Gala WelBeibl 4:8  O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau.
Gala WelBeibl 4:9  Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto?
Gala WelBeibl 4:10  Ydych chi'n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau'r gwyliau crefyddol blynyddol sy'n plesio Duw?
Gala WelBeibl 4:11  Mae'n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f'amser gyda chi!
Gala WelBeibl 4:12  Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen.
Gala WelBeibl 4:13  Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf.
Gala WelBeibl 4:14  A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl am fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun!
Gala WelBeibl 4:15  Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib.
Gala WelBeibl 4:16  Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir?
Gala WelBeibl 4:17  Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw.
Gala WelBeibl 4:18  “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas.
Gala WelBeibl 4:19  Fy mhlant annwyl i – dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi.
Gala WelBeibl 4:20  O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!
Gala WelBeibl 4:21  Dwedwch wrtho i – chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud?
Gala WelBeibl 4:22  Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig.
Gala WelBeibl 4:23  Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud.
Gala WelBeibl 4:24  Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai – ac mae ei phlant hi wedi'u geni yn gaethion.
Gala WelBeibl 4:25  Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw – mae hi a'i phlant yn gaethion.
Gala WelBeibl 4:26  Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy'n mam ni!
Gala WelBeibl 4:27  Amdani hi mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy'n methu cael plant! Bloeddia ganu'n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r un sydd â gŵr.”
Gala WelBeibl 4:28  Frodyr a chwiorydd, chi ydy plant yr addewid! – yn union fel Isaac!
Gala WelBeibl 4:29  Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae'r plant sydd wedi'u geni o'r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy'n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Gala WelBeibl 4:30  Ond beth ydy ateb yr ysgrifau sanctaidd i'r broblem? “Rhaid i ti gael gwared â'r gaethferch a'i mab. Fydd mab y gaethferch ddim yn cael rhan o etifeddiaeth mab dy wraig, sy'n rhydd.”
Gala WelBeibl 4:31  Dim plant y gaethferch ydyn ni, ffrindiau! Plant y wraig rydd ydyn ni!
Chapter 5
Gala WelBeibl 5:1  Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto.
Gala WelBeibl 5:2  Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi'n mynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach.
Gala WelBeibl 5:3  Dw i'n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Gala WelBeibl 5:4  Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi'ch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw.
Gala WelBeibl 5:5  Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna'n gobaith sicr ni.
Gala WelBeibl 5:6  Os oes gynnoch chi berthynas gyda'r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod drwy'r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy'n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad.
Gala WelBeibl 5:7  Roeddech chi'n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i'r gwir?
Gala WelBeibl 5:8  Does gan y fath syniadau ddim byd i'w wneud â'r Duw wnaeth eich galw chi ato'i hun!
Gala WelBeibl 5:9  Fel mae'r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud!
Gala WelBeibl 5:10  Dw i'n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu'n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi'r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e.
Gala WelBeibl 5:11  Frodyr a chwiorydd, os ydw i'n dal i bregethu bod rhaid mynd drwy ddefod enwaediad, pam ydw i'n dal i gael fy erlid? Petawn i'n gwneud hynny, fyddai'r groes ddim problem i neb.
Gala WelBeibl 5:12  Byddai'n dda gen i petai'r rhai sy'n creu'r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain!
Gala WelBeibl 5:13  Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd.
Gala WelBeibl 5:14  Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”
Gala WelBeibl 5:15  Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio'ch gilydd.
Gala WelBeibl 5:16  Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau.
Gala WelBeibl 5:17  Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi.
Gala WelBeibl 5:18  Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach.
Gala WelBeibl 5:19  Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr;
Gala WelBeibl 5:20  hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol,
Gala WelBeibl 5:21  eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
Gala WelBeibl 5:22  Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb,
Gala WelBeibl 5:23  addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly.
Gala WelBeibl 5:24  Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes.
Gala WelBeibl 5:25  Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni.
Gala WelBeibl 5:26  Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o'n gilydd.
Chapter 6
Gala WelBeibl 6:1  Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth.
Gala WelBeibl 6:2  Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn.
Gala WelBeibl 6:3  Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain – dych chi'n neb mewn gwirionedd.
Gala WelBeibl 6:4  Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi'i wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd.
Gala WelBeibl 6:5  Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi'i wneud.
Gala WelBeibl 6:6  Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.
Gala WelBeibl 6:7  Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau.
Gala WelBeibl 6:8  Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd.
Gala WelBeibl 6:9  Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith.
Gala WelBeibl 6:10  Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.
Gala WelBeibl 6:12  Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi'i wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.
Gala WelBeibl 6:13  Ond dydy'r rhai sydd wedi'u henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!
Gala WelBeibl 6:14  “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.
Gala WelBeibl 6:15  Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi'i newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd!
Gala WelBeibl 6:16  Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!
Gala WelBeibl 6:17  Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!
Gala WelBeibl 6:18  Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.