Chapter 1
| Lame | WelBeibl | 1:1 | Y proffwyd: O! Mae'r ddinas oedd yn fwrlwm o bobl yn eistedd mor unig! Mae'r ddinas oedd yn enwog drwy'r byd bellach yn wraig weddw. Roedd hi fel tywysoges y taleithiau, ond bellach mae'n gaethferch. | |
| Lame | WelBeibl | 1:2 | Mae hi'n beichio crio drwy'r nos, a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb. Does dim un o'i chariadon yno i'w chysuro. Mae ei ffrindiau i gyd wedi'i bradychu ac wedi troi'n elynion iddi. | |
| Lame | WelBeibl | 1:3 | Mae pobl Jwda wedi'u cymryd i ffwrdd yn gaethion; ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision. Maen nhw'n byw mewn gwledydd eraill ac yn methu'n lân a setlo yno. Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi'u dal; doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc. | |
| Lame | WelBeibl | 1:4 | Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru; Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu. Does dim pobl yn mynd drwy giatiau'r ddinas. Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan, ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist. Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus! | |
| Lame | WelBeibl | 1:5 | Ei gelynion sy'n ei rheoli, ac mae bywyd mor braf iddyn nhw am fod yr ARGLWYDD wedi'i chosbi hi am wrthryfela yn ei erbyn mor aml. Mae ei phlant wedi'u cymryd i ffwrdd yn gaethion gan y gelyn. | |
| Lame | WelBeibl | 1:6 | Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddo wedi'i gymryd oddi ar Jerwsalem. Roedd ei harweinwyr fel ceirw yn methu dod o hyd i borfa, ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr. | |
| Lame | WelBeibl | 1:7 | Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartref, yn cofio ei holl drysorau – sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen. Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion doedd neb yn barod i'w helpu. Roedd ei gelynion wrth eu boddau, ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio. | |
| Lame | WelBeibl | 1:8 | Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy, felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan. Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbort wrth ei gweld hi'n noeth. A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawr ac yn cuddio'i hwyneb mewn cywilydd. | |
| Lame | WelBeibl | 1:9 | Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad. Roedd ei chwymp yn rhyfeddol! Doedd neb yno i'w chysuro. “O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai, “Mae'r gelyn wedi fy nghuro.” | |
| Lame | WelBeibl | 1:10 | Mae'r gelyn wedi cymryd ei thrysorau hi i gyd. Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaidd yn mynd i mewn i'r deml sanctaidd. Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhw fod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr! | |
| Lame | WelBeibl | 1:11 | Mae pobl Jerwsalem yn griddfan wrth chwilio am rywbeth i'w fwyta. Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawr i gael bwyd i gadw'n fyw. Jerwsalem: “Edrych, ARGLWYDD, dw i'n dda i ddim bellach!” | |
| Lame | WelBeibl | 1:12 | Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio? Edrychwch arna i'n iawn. Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde? Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mi pan oedd wedi digio'n lân. | |
| Lame | WelBeibl | 1:13 | Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd, oedd yn llosgi yn fy esgyrn. Gosododd rwyd i'm dal i, rhag i mi fynd ddim pellach. Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser. | |
| Lame | WelBeibl | 1:14 | Mae ngwrthryfel wedi'i rwymo fel iau ar fy ngwddf. Duw ei hun sydd wedi'i rwymo. Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar, a'm gwneud i'n hollol wan. Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn, ac alla i wneud dim yn eu herbyn. | |
| Lame | WelBeibl | 1:15 | Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewr oedd yn fy amddiffyn. Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbyn ac i sathru fy milwyr ifanc dan draed. Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwyl fel sathru grawnwin mewn gwinwasg. | |
| Lame | WelBeibl | 1:16 | Dyna pam dw i'n crio. Dyna pam mae'r dagrau'n llifo. Does gen i neb wrth law i'm cysuro; neb i godi fy nghalon. Does gan fy mhlant ddim dyfodol. Mae'r gelyn wedi'u gorchfygu. | |
| Lame | WelBeibl | 1:17 | Y proffwyd: Mae Seion yn begian am help, ond does neb yno i'w chysuro hi. Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob. Mae Jerwsalem yn eu canol nhw fel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd. | |
| Lame | WelBeibl | 1:18 | Jerwsalem: Yr ARGLWYDD sy'n iawn; dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e. Gwrandwch arna i, bawb! Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde. Mae fy merched a'm dynion ifanc wedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. | |
| Lame | WelBeibl | 1:19 | Rôn i'n galw ar fy ffrindiau am help ond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i. Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinas wrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw. | |
| Lame | WelBeibl | 1:20 | ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i! Dw i'n corddi tu mewn. Dw i'n torri fy nghalon, achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr. Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd; yn y tai mae pobl yn marw o newyn. | |
| Lame | WelBeibl | 1:21 | Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan, a does yna neb i'm cysuro. Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion, ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi. Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano, pan gân nhw eu cosbi run fath â fi! | |
Chapter 2
| Lame | WelBeibl | 2:1 | Y proffwyd: O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân, ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll! Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israel wedi'i bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd. Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml, sef ei stôl droed sydd ar y ddaear. | |
| Lame | WelBeibl | 2:2 | Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacob heb ddangos trugaredd o gwbl. Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerog oedd yn amddiffyn Jwda. Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyr ac achosi cywilydd mawr. | |
| Lame | WelBeibl | 2:3 | Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistrio grym byddin Israel yn llwyr. Stopiodd eu hamddiffyn nhw pan oedd y gelyn yn ymosod. Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wlad ac yn difa popeth ar dir Jacob. | |
| Lame | WelBeibl | 2:4 | Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth, a'i law dde yn barod i saethu. Lladdodd bawb oedd yn annwyl yn ei olwg. Do, tywalltodd ei lid fel tân ar gartrefi Jerwsalem. | |
| Lame | WelBeibl | 2:5 | Roedd yr Arglwydd fel gelyn yn dinistrio Israel. Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd, a dymchwel ei chaerau amddiffynnol. Bellach, dim ond griddfan a galar sydd i'w glywed drwy wlad Jwda. | |
| Lame | WelBeibl | 2:6 | Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan. Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd. Daeth pob Gŵyl grefyddol a Saboth i ben yn Seion. Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefn ar y brenin a'r offeiriaid. | |
| Lame | WelBeibl | 2:7 | Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor. Mae wedi troi cefn ar ei deml. Mae wedi gadael i'r gelyn rwygo ei waliau i lawr. Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDD fel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl. | |
| Lame | WelBeibl | 2:8 | Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion. Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud, ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinas yn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru. | |
| Lame | WelBeibl | 2:9 | Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr, a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu. Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi'u cymryd yn gaeth. Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith, a does gan y proffwydi ddim gweledigaeth gan yr ARGLWYDD. | |
| Lame | WelBeibl | 2:10 | Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalem yn eistedd ar lawr yn hollol dawel. Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennau ac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch. Mae merched ifanc Jerwsalem yn syllu ar lawr yn ddigalon. | |
| Lame | WelBeibl | 2:11 | Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau. Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi. Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm pobl yn fy ngwneud i'n sâl. Mae plant a babis bach yn llwgu a llewygu ar strydoedd y ddinas! | |
| Lame | WelBeibl | 2:12 | Mae plant yn galw ar eu mamau. “Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.” Maen nhw'n llewygu ar y strydoedd fel milwyr wedi'u hanafu. Maen nhw'n marw yn araf ym mreichiau eu mamau. | |
| Lame | WelBeibl | 2:13 | Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Dw i wedi gweld dim byd tebyg. Jerwsalem annwyl, beth alla i ei wneud i dy helpu di? Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr; does neb yn gallu dy iacháu. | |
| Lame | WelBeibl | 2:14 | Roedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwydd ac yn dwyll! Yn lle gwneud pethau'n iawn eto drwy ddangos dy bechod i ti, roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffals ac yn dy gamarwain di. | |
| Lame | WelBeibl | 2:15 | Mae pawb sy'n pasio heibio yn curo dwylo'n wawdlyd. Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygus ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan. “Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel ‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?” | |
| Lame | WelBeibl | 2:16 | Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben; yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat. “Dŷn ni wedi'i dinistrio hi!” medden nhw. “Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma, ac o'r diwedd mae wedi dod!” | |
| Lame | WelBeibl | 2:17 | Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu. Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud. Roedd wedi bygwth hyn ers talwm. Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd. Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu, ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus. | |
| Lame | WelBeibl | 2:18 | Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd! O, waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagrau lifo fel afon ddydd a nos! Peidiwch gorffwyso; peidiwch gadael i'r dagrau stopio! | |
| Lame | WelBeibl | 2:19 | Cod! Gwaedda am help yn y nos! Gwna hynny drosodd a throsodd. Tywallt beth sydd ar dy galon o flaen yr Arglwydd! Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi, i bledio dros y plant sy'n marw o newyn ar gornel pob stryd. | |
| Lame | WelBeibl | 2:20 | Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth! I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn? Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plant maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw? Ddylai offeiriaid a phroffwydi gael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD? | |
| Lame | WelBeibl | 2:21 | Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farw ar lwch y strydoedd. Bechgyn a merched ifanc wedi'u taro â chleddyf y gelyn. Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig. Lleddaist nhw yn ddidrugaredd. | |
Chapter 3
| Lame | WelBeibl | 3:1 | Y proffwyd: Dw i'n ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i. | |
| Lame | WelBeibl | 3:7 | Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trwm. | |
| Lame | WelBeibl | 3:15 | Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod. | |
| Lame | WelBeibl | 3:22 | Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a'i garedigrwydd e'n para am byth. | |
| Lame | WelBeibl | 3:25 | Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio, ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help. | |
| Lame | WelBeibl | 3:30 | Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio. | |
| Lame | WelBeibl | 3:32 | Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr. | |
| Lame | WelBeibl | 3:36 | os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys – ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl? | |
| Lame | WelBeibl | 3:43 | Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd. | |
| Lame | WelBeibl | 3:48 | Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio. | |
| Lame | WelBeibl | 3:51 | Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist. | |
| Lame | WelBeibl | 3:59 | Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD, felly wnei di farnu o'm plaid i? | |
| Lame | WelBeibl | 3:62 | Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwd ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser. | |
| Lame | WelBeibl | 3:64 | Tala nôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD; rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu. | |
Chapter 4
| Lame | WelBeibl | 4:1 | Y proffwyd: O! Mae'r aur wedi colli ei sglein. Dydy'r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy! Mae gemau gwerthfawr ar chwâl ar gornel pob stryd. | |
| Lame | WelBeibl | 4:2 | Roedd plant gwerthfawr Seion yn werth eu pwysau mewn aur. Ond bellach – O! maen nhw mor ddiwerth a photiau pridd wedi'u gwneud gan grochenydd! | |
| Lame | WelBeibl | 4:3 | Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bach ac yn eu bwydo ar y fron, ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plant fel yr estrys yn yr anialwch. | |
| Lame | WelBeibl | 4:4 | Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegau am fod syched arnyn nhw. Mae plant bach yn cardota am fwyd, ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw. | |
| Lame | WelBeibl | 4:5 | Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus yn marw o newyn ar y strydoedd. Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crand yn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach. | |
| Lame | WelBeibl | 4:6 | Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechod fwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel. Cafodd Sodom ei dinistrio'n sydyn gan Dduw, heb i neb droi llaw i'w helpu. | |
| Lame | WelBeibl | 4:7 | Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach na'r eira ac wyn fel llaeth. Roedd eu cyrff yn iach, ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir. | |
| Lame | WelBeibl | 4:8 | Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu. Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd. Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn, ac mae eu croen wedi sychu fel pren. | |
| Lame | WelBeibl | 4:9 | Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyf yn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn – y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw, am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta. | |
| Lame | WelBeibl | 4:10 | Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio, roedd mamau, oedd unwaith yn dyner, yn coginio eu plant i'w bwyta! | |
| Lame | WelBeibl | 4:11 | Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd. Tywalltodd ei ddig ffyrnig a chynnau tân wnaeth losgi sylfeini Seion. | |
| Lame | WelBeibl | 4:12 | Doedd dim un brenin wedi dychmygu, na neb arall drwy'r byd i gyd, y gallai unrhyw elyn neu ymosodwr goncro dinas Jerwsalem. | |
| Lame | WelBeibl | 4:13 | Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechu a'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela. Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwed yn y ddinas. | |
| Lame | WelBeibl | 4:14 | Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall. Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw, am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywallt wedi'u gwneud nhw'n aflan. | |
| Lame | WelBeibl | 4:15 | Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan! Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!” Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpas o un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman. | |
| Lame | WelBeibl | 4:16 | Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl, a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy. Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid, a does neb yn malio am yr arweinwyr. | |
| Lame | WelBeibl | 4:17 | Roedd ein llygaid ni wedi blino wrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help. Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylio yn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni. | |
| Lame | WelBeibl | 4:18 | Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd. Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed. Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi'u rhifo; oedd, roedd y diwedd wedi dod! | |
| Lame | WelBeibl | 4:19 | Daeth y gelyn ar ein holau. Roedden nhw'n gyflymach nag eryrod. Roedden nhw'n ein hela ni ar y bryniau, ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch. | |
| Lame | WelBeibl | 4:20 | Cafodd anadl bywyd y genedl, sef y brenin oedd wedi'i eneinio gan yr ARGLWYDD, ei ddal mewn trap ganddyn nhw. Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn, a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd. | |
| Lame | WelBeibl | 4:21 | Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom, a chi sy'n byw yn ngwlad Us, ond mae'ch tro chi yn dod! Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw, nes byddwch chi'n feddw ac yn noeth. | |
Chapter 5
| Lame | WelBeibl | 5:1 | Pobl Jerwsalem yn gweddïo am drugaredd. ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni. Edrycha arnon ni yn ein cywilydd! | |
| Lame | WelBeibl | 5:2 | Mae'n gwlad wedi'i rhoi yn nwylo'r gelyn, a'n cartrefi wedi'u meddiannu gan bobl estron. | |
| Lame | WelBeibl | 5:5 | Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau; wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys. | |
| Lame | WelBeibl | 5:7 | Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu; a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw. | |
| Lame | WelBeibl | 5:8 | Mae caethweision yn feistri arnon ni, a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw. | |
| Lame | WelBeibl | 5:9 | Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd, am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad. | |
| Lame | WelBeibl | 5:10 | Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn; mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn. | |
| Lame | WelBeibl | 5:13 | Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin, a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed. | |
| Lame | WelBeibl | 5:14 | Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas, ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth. | |
| Lame | WelBeibl | 5:17 | Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder; mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid, | |
| Lame | WelBeibl | 5:19 | Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth; mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau. | |
| Lame | WelBeibl | 5:21 | Tyn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl. Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm. | |