Toggle notes
Chapter 1
Ephe | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. At bobl Dduw yn Effesus, sy'n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo: | |
Ephe | WelBeibl | 1:2 | Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. | |
Ephe | WelBeibl | 1:3 | Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy'n y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia. | |
Ephe | WelBeibl | 1:4 | Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad | |
Ephe | WelBeibl | 1:5 | trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! | |
Ephe | WelBeibl | 1:6 | Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi'i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu. | |
Ephe | WelBeibl | 1:7 | Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! | |
Ephe | WelBeibl | 1:9 | Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu | |
Ephe | WelBeibl | 1:10 | i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod. | |
Ephe | WelBeibl | 1:11 | Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. | |
Ephe | WelBeibl | 1:12 | Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. | |
Ephe | WelBeibl | 1:13 | Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi'i addo i chi. | |
Ephe | WelBeibl | 1:14 | Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi'i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych! | |
Ephe | WelBeibl | 1:15 | Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill, | |
Ephe | WelBeibl | 1:16 | dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo. | |
Ephe | WelBeibl | 1:17 | Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well. | |
Ephe | WelBeibl | 1:18 | Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl. | |
Ephe | WelBeibl | 1:19 | Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol | |
Ephe | WelBeibl | 1:20 | wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. | |
Ephe | WelBeibl | 1:21 | Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na'r byd sydd i ddod! | |
Ephe | WelBeibl | 1:22 | Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi'i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. | |
Chapter 2
Ephe | WelBeibl | 2:1 | Ar un adeg roeddech chi'n farw'n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. | |
Ephe | WelBeibl | 2:2 | Roeddech chi'n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi'n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy'n anufudd i Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 2:3 | Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 2:5 | Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia – ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub! | |
Ephe | WelBeibl | 2:6 | Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi'n huno gydag e! | |
Ephe | WelBeibl | 2:7 | Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. | |
Ephe | WelBeibl | 2:8 | Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e! | |
Ephe | WelBeibl | 2:10 | Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi'n creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi'u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud. | |
Ephe | WelBeibl | 2:11 | Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ – sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 2:12 | Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi'n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. | |
Ephe | WelBeibl | 2:13 | Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes. | |
Ephe | WelBeibl | 2:14 | Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd – ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! | |
Ephe | WelBeibl | 2:15 | Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl. | |
Ephe | WelBeibl | 2:16 | Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben. | |
Ephe | WelBeibl | 2:17 | Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛. | |
Ephe | WelBeibl | 2:18 | Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân. | |
Ephe | WelBeibl | 2:19 | Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu! | |
Ephe | WelBeibl | 2:20 | Dych chi'n rhan o'r un adeilad! Dŷn ni'r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a'r Meseia Iesu ei hun ydy'r maen clo. | |
Ephe | WelBeibl | 2:21 | Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a'n cysylltu â'n gilydd i wneud teml sydd wedi'i chysegru i'r Arglwydd. | |
Chapter 3
Ephe | WelBeibl | 3:1 | Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i'n pregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu. | |
Ephe | WelBeibl | 3:2 | Dw i'n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i'ch helpu chi. | |
Ephe | WelBeibl | 3:3 | Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi'i guddio o'r blaen. Dw i wedi ceisio'i esbonio'n fyr yma. | |
Ephe | WelBeibl | 3:4 | Wrth i chi ei ddarllen, dewch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia. | |
Ephe | WelBeibl | 3:5 | Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi'i ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi. | |
Ephe | WelBeibl | 3:6 | Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi'i baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi'u gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd! | |
Ephe | WelBeibl | 3:7 | Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl. | |
Ephe | WelBeibl | 3:8 | Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. | |
Ephe | WelBeibl | 3:9 | Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi'i gadw o'r golwg cyn hyn. | |
Ephe | WelBeibl | 3:10 | Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw. | |
Ephe | WelBeibl | 3:11 | Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. | |
Ephe | WelBeibl | 3:12 | Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. | |
Ephe | WelBeibl | 3:13 | Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo! | |
Ephe | WelBeibl | 3:15 | Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. | |
Ephe | WelBeibl | 3:16 | Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. | |
Ephe | WelBeibl | 3:17 | Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud – dyna'r sylfaen i adeiladu arni! | |
Ephe | WelBeibl | 3:18 | Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! | |
Ephe | WelBeibl | 3:19 | Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy'n llawer rhy fawr i'w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â'r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. | |
Ephe | WelBeibl | 3:20 | Clod iddo! Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu! | |
Chapter 4
Ephe | WelBeibl | 4:1 | Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethu'r Arglwydd. Dw i'n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi'u galw i berthyn iddo fyw. | |
Ephe | WelBeibl | 4:2 | Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. | |
Ephe | WelBeibl | 4:3 | Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi'ch gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch. | |
Ephe | WelBeibl | 4:4 | Gan mai'r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni'n un corff – a dych chi wedi'ch galw gan Dduw i rannu'r un gobaith. | |
Ephe | WelBeibl | 4:6 | a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un! | |
Ephe | WelBeibl | 4:7 | Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb. | |
Ephe | WelBeibl | 4:8 | Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.” | |
Ephe | WelBeibl | 4:9 | (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol? | |
Ephe | WelBeibl | 4:10 | A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan.) | |
Ephe | WelBeibl | 4:11 | A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. | |
Ephe | WelBeibl | 4:12 | Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf. | |
Ephe | WelBeibl | 4:13 | Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun. | |
Ephe | WelBeibl | 4:14 | Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir. | |
Ephe | WelBeibl | 4:15 | Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia. | |
Ephe | WelBeibl | 4:16 | Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi'i weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith. | |
Ephe | WelBeibl | 4:17 | Felly gyda'r awdurdod mae'r Arglwydd ei hun wedi'i roi i mi, dw i'n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae'r paganiaid di-gred yn byw. Dŷn nhw'n deall dim – | |
Ephe | WelBeibl | 4:18 | maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig! | |
Ephe | WelBeibl | 4:19 | Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dŷn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg. | |
Ephe | WelBeibl | 4:21 | os mai fe ydy'r un dych chi wedi'ch dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir. | |
Ephe | WelBeibl | 4:22 | Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi'i lygru gan chwantau twyllodrus. | |
Ephe | WelBeibl | 4:24 | Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi'i fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân. | |
Ephe | WelBeibl | 4:25 | Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff. | |
Ephe | WelBeibl | 4:26 | “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd. | |
Ephe | WelBeibl | 4:28 | Rhaid i'r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i'w rannu gyda phobl mewn angen. | |
Ephe | WelBeibl | 4:29 | Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy'n helpu pobl eraill – pethau sy'n bendithio'r rhai sy'n eich clywed chi. | |
Ephe | WelBeibl | 4:30 | Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydy'r sêl sy'n eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. | |
Ephe | WelBeibl | 4:31 | Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus. | |
Chapter 5
Ephe | WelBeibl | 5:2 | Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 5:3 | Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 5:4 | Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw. | |
Ephe | WelBeibl | 5:5 | Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! | |
Ephe | WelBeibl | 5:6 | Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo. | |
Ephe | WelBeibl | 5:8 | Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau. | |
Ephe | WelBeibl | 5:11 | Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. | |
Ephe | WelBeibl | 5:14 | Mae'r golau'n dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.” | |
Ephe | WelBeibl | 5:15 | Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. | |
Ephe | WelBeibl | 5:16 | Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman. | |
Ephe | WelBeibl | 5:17 | Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau. | |
Ephe | WelBeibl | 5:18 | Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi. | |
Ephe | WelBeibl | 5:19 | Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd. | |
Ephe | WelBeibl | 5:20 | Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi'i wneud. | |
Ephe | WelBeibl | 5:23 | O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!) | |
Ephe | WelBeibl | 5:24 | Felly, fel mae'r eglwys yn atebol i'r Meseia, rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr ym mhopeth. | |
Ephe | WelBeibl | 5:25 | Chi'r gwŷr, rhaid i chi garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, | |
Ephe | WelBeibl | 5:26 | i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o'r golchi sy'n digwydd drwy'r neges sy'n cael ei chyhoeddi. | |
Ephe | WelBeibl | 5:27 | Mae'r Meseia am gymryd yr eglwys iddo'i hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall o'i le arni – yn berffaith lân a di-fai. | |
Ephe | WelBeibl | 5:28 | Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun! | |
Ephe | WelBeibl | 5:29 | Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys, | |
Ephe | WelBeibl | 5:31 | Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.” | |
Ephe | WelBeibl | 5:32 | Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia a'i eglwys. | |
Chapter 6
Ephe | WelBeibl | 6:1 | Dylech chi'r plant sy'n perthyn i'r Arglwydd fod yn ufudd i'ch rhieni, am mai dyna'r peth iawn i'w wneud. | |
Ephe | WelBeibl | 6:4 | Chi'r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy'n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a'u dysgu nhw i wneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud. | |
Ephe | WelBeibl | 6:5 | Chi sy'n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i'ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi'n gweithio i'r Meseia ei hun – | |
Ephe | WelBeibl | 6:6 | nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae'n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. | |
Ephe | WelBeibl | 6:7 | Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl. | |
Ephe | WelBeibl | 6:8 | Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud – caethwas neu beidio. | |
Ephe | WelBeibl | 6:9 | A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau! | |
Ephe | WelBeibl | 6:10 | Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. | |
Ephe | WelBeibl | 6:11 | Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. | |
Ephe | WelBeibl | 6:12 | Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. | |
Ephe | WelBeibl | 6:13 | Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw'n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau'n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. | |
Ephe | WelBeibl | 6:14 | Safwch gyda gwirionedd wedi'i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, | |
Ephe | WelBeibl | 6:15 | a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. | |
Ephe | WelBeibl | 6:16 | Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. | |
Ephe | WelBeibl | 6:17 | Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. | |
Ephe | WelBeibl | 6:18 | A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd. | |
Ephe | WelBeibl | 6:19 | A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw'n rhoi'r geiriau iawn i mi bob tro bydda i'n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. | |
Ephe | WelBeibl | 6:20 | Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud! | |
Ephe | WelBeibl | 6:21 | Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud. | |
Ephe | WelBeibl | 6:22 | Dyna pam dw i'n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi. | |
Ephe | WelBeibl | 6:23 | Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru'ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe. | |