Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZECHARIAH
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Chapter 1
Zech WelBeibl 1:1  Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido) yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
Zech WelBeibl 1:2  “Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'ch hynafiaid chi.
Zech WelBeibl 1:3  Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud.
Zech WelBeibl 1:4  Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi'n dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai'r ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 1:5  A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd!
Zech WelBeibl 1:6  Ond daeth y cwbl ddwedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”
Zech WelBeibl 1:7  Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia:
Zech WelBeibl 1:8  Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn.
Zech WelBeibl 1:9  Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”
Zech WelBeibl 1:10  Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.”
Zech WelBeibl 1:11  A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”
Zech WelBeibl 1:12  Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”
Zech WelBeibl 1:13  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi.
Zech WelBeibl 1:14  A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.
Zech WelBeibl 1:15  Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!
Zech WelBeibl 1:16  Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.
Zech WelBeibl 1:17  Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD hollbwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”
Zech WelBeibl 1:19  Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”
Zech WelBeibl 1:21  A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”
Chapter 2
Zech WelBeibl 2:1  Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law.
Zech WelBeibl 2:2  Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.”
Zech WelBeibl 2:3  Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod.
Zech WelBeibl 2:4  Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi!
Zech WelBeibl 2:5  Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’”
Zech WelBeibl 2:6  “Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r ARGLWYDD. “Rôn i wedi'ch chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt.
Zech WelBeibl 2:7  Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!”
Zech WelBeibl 2:8  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!
Zech WelBeibl 2:9  “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i.
Zech WelBeibl 2:10  “Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 2:11  “Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.
Zech WelBeibl 2:12  Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto.
Zech WelBeibl 2:13  Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.
Chapter 3
Zech WelBeibl 3:1  Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo.
Zech WelBeibl 3:2  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n dy geryddu di Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae'r dyn yma fel darn o bren sydd wedi'i gipio allan o'r tân.”
Zech WelBeibl 3:3  Roedd Jehoshwa'n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd.
Zech WelBeibl 3:4  A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”
Zech WelBeibl 3:5  A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra oedd yr angel yn sefyll yno.
Zech WelBeibl 3:6  Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho,
Zech WelBeibl 3:7  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o mlaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma.
Zech WelBeibl 3:8  Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn.
Zech WelBeibl 3:9  Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’
Zech WelBeibl 3:10  Ac meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys.’”
Chapter 4
Zech WelBeibl 4:1  Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu.
Zech WelBeibl 4:2  Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw.
Zech WelBeibl 4:3  Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”
Zech WelBeibl 4:4  A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”
Zech WelBeibl 4:5  “Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.
Zech WelBeibl 4:6  Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.
Zech WelBeibl 4:7  Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”
Zech WelBeibl 4:9  “Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi.
Zech WelBeibl 4:10  “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”
Zech WelBeibl 4:11  A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?”
Zech WelBeibl 4:12  A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?”
Zech WelBeibl 4:13  “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.
Zech WelBeibl 4:14  A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi'u heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”
Chapter 5
Zech WelBeibl 5:1  Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan!
Zech WelBeibl 5:2  Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth – tua naw metr o hyd, a phedwar metr a hanner o led!”
Zech WelBeibl 5:3  A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd.”
Zech WelBeibl 5:4  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr – y coed a'r cerrig.”
Zech WelBeibl 5:5  Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?”
Zech WelBeibl 5:6  “Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.”
Zech WelBeibl 5:7  Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen!
Zech WelBeibl 5:8  A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le.
Zech WelBeibl 5:9  Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr. Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr.
Zech WelBeibl 5:10  A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?”
Zech WelBeibl 5:11  A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia, i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”
Chapter 6
Zech WelBeibl 6:1  Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd – mynyddoedd o bres.
Zech WelBeibl 6:2  Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail,
Zech WelBeibl 6:3  ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion.
Zech WelBeibl 6:4  Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”
Zech WelBeibl 6:5  A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt y nefoedd wedi'u hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan.
Zech WelBeibl 6:6  Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.”
Zech WelBeibl 6:7  Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.
Zech WelBeibl 6:8  Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”
Zech WelBeibl 6:10  “Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi'i anfon gyda nhw.
Zech WelBeibl 6:11  Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad.
Zech WelBeibl 6:12  Yna dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro! Mae'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 6:13  Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd.
Zech WelBeibl 6:14  Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia fab Seffaneia.
Zech WelBeibl 6:15  “‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’”
Chapter 7
Zech WelBeibl 7:1  Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia.
Zech WelBeibl 7:2  Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 7:3  Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”
Zech WelBeibl 7:4  Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus.
Zech WelBeibl 7:5  “Dwed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi?
Zech WelBeibl 7:6  Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’
Zech WelBeibl 7:7  Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a phobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”
Zech WelBeibl 7:8  A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 7:9  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi bod yn ei ddweud, ‘Byddwch yn deg bob amser, yn garedig a thrugarog at eich gilydd.
Zech WelBeibl 7:10  Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon, plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd. A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’
Zech WelBeibl 7:11  “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando.
Zech WelBeibl 7:12  Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi'u rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw. “Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus.
Zech WelBeibl 7:13  ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw, doedden nhw ddim yn gwrando. Felly pan fyddan nhw'n galw arna i, fydda i ddim yn gwrando chwaith.
Zech WelBeibl 7:14  Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd mewn storm i wledydd dieithr.’ “A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”
Chapter 8
Zech WelBeibl 8:1  Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus:
Zech WelBeibl 8:2  “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi'i wneud iddi.’
Zech WelBeibl 8:3  “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw ‛Y Ddinas Ffyddlon‛, ‛Mynydd yr ARGLWYDD hollbwerus‛, ‛Y Mynydd Cysegredig‛.’
Zech WelBeibl 8:4  “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto – pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen.
Zech WelBeibl 8:5  A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant – bechgyn a merched yn chwarae'n braf.
Zech WelBeibl 8:6  Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’
Zech WelBeibl 8:7  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,
Zech WelBeibl 8:8  a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.
Zech WelBeibl 8:9  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD hollbwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
Zech WelBeibl 8:10  Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Rôn i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
Zech WelBeibl 8:11  Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Zech WelBeibl 8:12  ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
Zech WelBeibl 8:13  O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi'i melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi'u bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’
Zech WelBeibl 8:14  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),
Zech WelBeibl 8:15  dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn!
Zech WelBeibl 8:16  “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn.
Zech WelBeibl 8:17  Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.”
Zech WelBeibl 8:19  “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus – yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’
Zech WelBeibl 8:20  “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bobman yn dod yma.
Zech WelBeibl 8:21  Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn iddo'n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni'n mynd!”’
Zech WelBeibl 8:22  Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i'r ARGLWYDD hollbwerus eu bendithio nhw.
Zech WelBeibl 8:23  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’”
Chapter 9
Zech WelBeibl 9:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
Zech WelBeibl 9:2  Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy'n meddwl ei bod mor glyfar.
Zech WelBeibl 9:3  Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!
Zech WelBeibl 9:4  Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw!
Zech WelBeibl 9:5  Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
Zech WelBeibl 9:6  A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!
Zech WelBeibl 9:7  Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw – byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.
Zech WelBeibl 9:8  Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml, i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i'w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw.
Zech WelBeibl 9:9  Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e'n gyfiawn ac yn achub; Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen.
Zech WelBeibl 9:10  Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw'r byd!
Zech WelBeibl 9:11  Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad rhyngon ni, wedi'i selio â gwaed – dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.
Zech WelBeibl 9:12  Dewch adre i'r gaer ddiogel, chi garcharorion – mae gobaith! Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!
Zech WelBeibl 9:13  Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw.
Zech WelBeibl 9:14  Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
Zech WelBeibl 9:15  Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.
Zech WelBeibl 9:16  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl. Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir fel cerrig gwerthfawr mewn coron –
Zech WelBeibl 9:17  Mor werthfawr! Mor hardd! Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud y dynion a'r merched ifanc yn gryf.
Chapter 10
Zech WelBeibl 10:1  Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law adeg tymor cawodydd y gwanwyn – yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd. Bydd yn anfon cawodydd trwm o law a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.
Zech WelBeibl 10:2  Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl, a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo – mae eu breuddwydion yn ffals, a'u cysur yn ddiwerth. Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid, heb fugail i'w hamddiffyn.
Zech WelBeibl 10:3  “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd, ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!” Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda, a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.
Zech WelBeibl 10:4  Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen, Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell, Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel, Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.
Zech WelBeibl 10:5  Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr yn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd. Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw, byddan nhw'n ymladd ac yn curo cafalri'r gelyn.
Zech WelBeibl 10:6  “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf, ac achub pobl Israel. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl a dangos trugaredd atyn nhw – bydd fel petawn i erioed wedi'u gwrthod nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
Zech WelBeibl 10:7  Bydd pobl Israel fel milwyr dewr yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi. Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny, ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 10:8  Dw i'n mynd i chwibanu i'w casglu nhw at ei gilydd – dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd! Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.
Zech WelBeibl 10:9  Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd, byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell – a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl
Zech WelBeibl 10:10  Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft, ac yn eu casglu nhw o Asyria; mynd â nhw i dir Gilead a Libanus, a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.
Zech WelBeibl 10:11  Byddan nhw'n croesi'r môr stormus, a bydd e'n tawelu'r tonnau. Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu, balchder Asyria'n cael ei dorri, a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.
Zech WelBeibl 10:12  Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf, a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 11
Zech WelBeibl 11:1  Agor dy giatiau, Libanus, a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd.
Zech WelBeibl 11:2  Bydd y coed pinwydd yn udo, am fod y coed cedrwydd wedi syrthio – mae'r coed mawreddog wedi'u difrodi. Bydd coed derw Bashan yn udo, am fod y goedwig drwchus wedi'i thorri i lawr.
Zech WelBeibl 11:3  Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo – am fod y borfa odidog wedi'i difetha! Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo – am fod coedwig yr Iorddonen wedi'i difa!
Zech WelBeibl 11:4  Dyma mae'r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy.
Zech WelBeibl 11:5  Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r ARGLWYDD am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw.
Zech WelBeibl 11:6  Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.”
Zech WelBeibl 11:7  Felly dyma fi'n bugeilio'r praidd oedd i fynd i'r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn ‛Haelioni‛ a'r llall yn ‛Undod‛. Yna es i fugeilio'r praidd
Zech WelBeibl 11:8  a diswyddo'r tri bugail mewn un mis. Rôn i wedi colli pob amynedd gyda'r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith.
Zech WelBeibl 11:9  Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A'r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!”
Zech WelBeibl 11:10  Yna dyma fi'n cymryd fy ffon ‛Haelioni‛, a'i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi'i ganslo.
Zech WelBeibl 11:11  Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 11:12  Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi'n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw'n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.
Zech WelBeibl 11:13  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‛hael‛ nhw i'r trysordy!” Dyna'r cwbl roedden nhw'n meddwl oeddwn i'n werth! Felly dyma fi'n rhoi'r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD.
Zech WelBeibl 11:14  Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, ‛Undod‛, a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi dod i ben.
Zech WelBeibl 11:15  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim.
Zech WelBeibl 11:16  Dw i'n rhoi arweinydd i'r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy'n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu'r rhai sydd wedi'u hanafu, nac yn bwydo'r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd.
Zech WelBeibl 11:17  Mae ar ben ar fy mugail diwerth sy'n troi cefn ar y praidd! Bydd cleddyf yn taro ei fraich ac yn anafu ei lygad dde. Bydd yn colli defnydd o'i fraich, ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”
Chapter 12
Zech WelBeibl 12:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel – ie, neges gan yr ARGLWYDD, Yr Un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfeini'r ddaear, a rhoi anadl bywyd i bobl.
Zech WelBeibl 12:2  “Dw i'n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i'r gwledydd o'i chwmpas feddwi'n gaib pan fyddan nhw'n ymosod arni hi a Jwda.
Zech WelBeibl 12:3  Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio'i symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw'u hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”
Zech WelBeibl 12:4  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall!
Zech WelBeibl 12:5  Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Zech WelBeibl 12:6  “Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem.
Zech WelBeibl 12:7  Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda.
Zech WelBeibl 12:8  “Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
Zech WelBeibl 12:9  “Bryd hynny bydda i'n mynd ati i ddinistrio'r gwledydd sy'n ymosod ar Jerwsalem!
Zech WelBeibl 12:10  Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi'i drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.
Zech WelBeibl 12:11  “Bryd hynny, bydd sŵn y galaru yn Jerwsalem fel y galaru yn Hadad-rimmon ar wastatir Megido.
Zech WelBeibl 12:12  Bydd y wlad i gyd yn galaru, pob clan ar wahân, a'r dynion a'r gwragedd yn galaru ar wahân – teulu brenhinol Dafydd, a'u gwragedd ar wahân; teulu Nathan, a'u gwragedd ar wahân;
Zech WelBeibl 12:13  teulu Lefi, a'u gwragedd ar wahân; teulu Shimei, a'u gwragedd ar wahân;
Zech WelBeibl 12:14  a phob clan arall oedd ar ôl – pob teulu'n galaru ar eu pennau'u hunain, a'u gwragedd yn galaru ar eu pennau'u hunain.”
Chapter 13
Zech WelBeibl 13:1  “Bryd hynny bydd ffynnon wedi'i hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”
Zech WelBeibl 13:2  “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir.
Zech WelBeibl 13:3  Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.
Zech WelBeibl 13:4  “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi.
Zech WelBeibl 13:5  Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’
Zech WelBeibl 13:6  Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”
Zech WelBeibl 13:7  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail, y dyn sy'n agos ata i. Taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl. Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.
Zech WelBeibl 13:8  Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl.
Zech WelBeibl 13:9  A bydda i'n arwain y rheiny drwy dân, i'w puro fel mae arian yn cael ei buro, a'u profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw'n galw ar fy enw i, a bydda i'n ateb. Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’ a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”
Chapter 14
Zech WelBeibl 14:1  Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a'i rannu o'ch blaen chi.
Zech WelBeibl 14:2  Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.
Zech WelBeibl 14:3  Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol.
Zech WelBeibl 14:4  Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de.
Zech WelBeibl 14:5  A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e.
Zech WelBeibl 14:6  Bryd hynny fydd dim golau – bydd y sêr disglair yn rhewi.
Zech WelBeibl 14:7  Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos.
Zech WelBeibl 14:8  Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf.
Zech WelBeibl 14:9  A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli.
Zech WelBeibl 14:10  Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn dir gwastad. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol.
Zech WelBeibl 14:11  Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.
Zech WelBeibl 14:12  Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau.
Zech WelBeibl 14:13  Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw'n ymladd ei gilydd!
Zech WelBeibl 14:14  Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem – aur, arian a llwythi o ddillad.
Zech WelBeibl 14:15  Bydd pla yn taro'r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn – bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a'r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla.
Zech WelBeibl 14:16  Yna bydd pawb fydd yn dal yn fyw (o'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem) yn mynd i Jerwsalem bob blwyddyn i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, ac i ddathlu Gŵyl y Pebyll.
Zech WelBeibl 14:17  Ac os bydd unrhyw grŵp o bobl drwy'r byd i gyd yn gwrthod mynd i Jerwsalem i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, fyddan nhw'n cael dim glaw.
Zech WelBeibl 14:18  Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw'n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda'r plâu mae'n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy'n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll.
Zech WelBeibl 14:19  Dyna sut bydd yr Aifft ac unrhyw wlad arall sy'n gwrthod mynd i ddathlu'r Ŵyl, yn cael eu cosbi.
Zech WelBeibl 14:20  Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD” i'w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â'r powlenni taenellu o flaen yr allor.
Zech WelBeibl 14:21  Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD hollbwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD hollbwerus.