Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HOSEA
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Toggle notes
Chapter 1
Hose WelBeibl 1:1  Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel.
Hose WelBeibl 1:2  Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.”
Hose WelBeibl 1:3  Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi'n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo.
Hose WelBeibl 1:4  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i'n mynd i ddod â theyrnas Israel i ben.
Hose WelBeibl 1:5  Bydda i'n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.”
Hose WelBeibl 1:6  Pan oedd Gomer yn disgwyl babi eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i.
Hose WelBeibl 1:7  Ond bydda i'n dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.”
Hose WelBeibl 1:8  Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall.
Hose WelBeibl 1:9  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.”
Hose WelBeibl 1:10  Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i'w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”!
Hose WelBeibl 1:11  Bydd pobl Jwda a phobl Israel yn uno gyda'i gilydd. Byddan nhw'n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o'r tir. Bydd hi'n ddiwrnod mawr i Jesreel!
Chapter 2
Hose WelBeibl 2:1  “Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)!
Hose WelBeibl 2:2  Plediwch yn daer gyda'ch mam (Dydy hi ddim yn wraig i mi, a dw i ddim yn ŵr iddi hi.) Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain, a dangos ei bronnau i bawb.
Hose WelBeibl 2:3  Neu bydda i'n rhwygo'i dillad oddi arni – bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch. Bydd fel tir sych; a bydd hi'n marw o syched.
Hose WelBeibl 2:4  Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant, am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.
Hose WelBeibl 2:5  Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw; mae hi wedi ymddwyn yn warthus. Roedd hi'n dweud: ‘Dw i'n mynd at fy nghariadon. Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi, gwlân, llin, olew, a diodydd.’
Hose WelBeibl 2:6  Felly, dw i am gau ei ffordd gyda drain a chodi wal i'w rhwystro, fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
Hose WelBeibl 2:7  Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon, bydd hi'n methu'u cyrraedd nhw. Bydd hi'n chwilio, ond yn methu'u ffeindio nhw. Bydd hi'n dweud wedyn, ‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr. Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
Hose WelBeibl 2:8  “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!
Hose WelBeibl 2:9  Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a'r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llin oeddwn i wedi'i rhoi iddi i'w gwisgo.
Hose WelBeibl 2:10  Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddi sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon. Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
Hose WelBeibl 2:11  Bydd ei holl bartïo ar ben: ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol – pob un parti!
Hose WelBeibl 2:12  Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys – roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl. Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt; dim ond anifeiliaid gwyllt fydd yn bwyta'u ffrwyth.
Hose WelBeibl 2:13  Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'n llosgi arogldarth i ddelwau o Baal. Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaith i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Hose WelBeibl 2:14  “Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i. Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto.
Hose WelBeibl 2:15  Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a throi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
Hose WelBeibl 2:16  Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛; fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.
Hose WelBeibl 2:17  Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
Hose WelBeibl 2:18  Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaear Bydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a'r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.
Hose WelBeibl 2:19  Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth. Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
Hose WelBeibl 2:20  Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di'n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
Hose WelBeibl 2:21  Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.
Hose WelBeibl 2:22  Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd. A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel.
Hose WelBeibl 2:23  Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir. Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd. Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛. A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.”
Chapter 3
Hose WelBeibl 3:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.”
Hose WelBeibl 3:2  Felly dyma fi'n mynd a thalu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani.
Hose WelBeibl 3:3  A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.”
Hose WelBeibl 3:4  Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nac arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol.
Hose WelBeibl 3:5  Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e.
Chapter 4
Hose WelBeibl 4:1  Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae'r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad. Does yna neb sy'n ffyddlon, neb sy'n garedig, neb sy'n nabod Duw go iawn.
Hose WelBeibl 4:2  Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman!
Hose WelBeibl 4:3  A dyna pam fydd y wlad yn methu a'i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a'r adar a'r pysgod yn diflannu!
Hose WelBeibl 4:4  Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw. Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid!
Hose WelBeibl 4:5  Byddwch yn baglu yng ngolau dydd, a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos. Bydd dychryn yn eich dinistrio!
Hose WelBeibl 4:6  Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i. Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i, felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid. Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw felly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi.
Hose WelBeibl 4:7  Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoeth maen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i – cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus!
Hose WelBeibl 4:8  Maen nhw'n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl! Maen nhw eisiau i'r bobl bechu!
Hose WelBeibl 4:9  Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid – felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.
Hose WelBeibl 4:10  Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon. Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant. Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a bwrw ati i buteinio.
Hose WelBeibl 4:12  Maen nhw'n troi at ddarn o bren am help, a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr! Mae'r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli'r ffordd, ac maen nhw'n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw.
Hose WelBeibl 4:13  Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd, a llosgi arogldarth ar ben y bryniau – dan gysgod hyfryd rhyw dderwen, coeden boplys neu derebinth. A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid, a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu!
Hose WelBeibl 4:14  Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio, a'th ferched-yng-nghyfraith am odinebu? Mae'r dynion yr un fath! – yn ‛addoli‛ gyda hwren, ac yn aberthu gyda phutain teml! ‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’
Hose WelBeibl 4:15  Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu, boed i Jwda osgoi pechu. Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen! Paid tyngu llw, “Fel mae'r ARGLWYDD yn fyw …”
Hose WelBeibl 4:16  Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul! Cyn bo hir bydd yr ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori, a bydd fel oen bach ar dir agored!
Hose WelBeibl 4:17  Mae pobl Effraim yn briod ag eilunod – gad iddyn nhw fod!
Hose WelBeibl 4:18  Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl, maen nhw'n troi at buteiniaid cwltig ac yn joio eu mochyndra digywilydd!
Hose WelBeibl 4:19  Ond bydd corwynt yn eu cipio, a bydd eu haberthau'n achos cywilydd go iawn.
Chapter 5
Hose WelBeibl 5:1  Gwrandwch, chi offeiriaid! Daliwch sylw, bobl Israel! Clywch, chi'r teulu brenhinol! Mae'r farn ar fin dod arnoch! Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa, a rhwyd i ddal pobl Tabor;
Hose WelBeibl 5:2  yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol, a bydda i'n eich cosbi chi i gyd.
Hose WelBeibl 5:3  Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim. Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i! Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio – mae Israel wedi'i llygru'n llwyr.
Hose WelBeibl 5:4  Mae eu drygioni'n eu rhwystro rhag troi yn ôl at eu Duw. Mae puteindra ysbrydol wedi'u meddiannu, a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
Hose WelBeibl 5:5  Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni. A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.
Hose WelBeibl 5:6  Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDD gyda'i defaid a'u geifr a'u bustych. Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi'u gadael nhw.
Hose WelBeibl 5:7  Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDD ac maen nhw wedi cael plant siawns. Yn fuan iawn, ar ŵyl y lleuad newydd, byddan nhw a'u tir yn cael eu difa.
Hose WelBeibl 5:8  Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea! Canwch utgorn yn Rama! Rhybuddiwch bobl Beth-afen! Ti fydd gyntaf, Benjamin!
Hose WelBeibl 5:9  Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi! Mae beth dw i'n ddweud wrth lwythau Israel yn mynd i ddigwydd.
Hose WelBeibl 5:10  Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir; a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!
Hose WelBeibl 5:11  Bydd Effraim yn cael ei orthrymu, a'i sathru pan fydda i'n barnu; am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.
Hose WelBeibl 5:12  Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim, fel pydredd i bobl Jwda.
Hose WelBeibl 5:13  Pan welodd Effraim ei fod yn sâl, a Jwda'n gweld ei ddolur, dyma Effraim yn troi at Asyria am help gan ‛y brenin mawr‛. Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu. Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!
Hose WelBeibl 5:14  Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda, fel llew yn rhwygo'i ysglyfaeth. Fi – ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnau a'u cario nhw i ffwrdd. Fydd neb yn gallu eu helpu.
Hose WelBeibl 5:15  Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffau nes byddan nhw'n cyfaddef eu bai. Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i; yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i:
Chapter 6
Hose WelBeibl 6:1  “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu! Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau!
Hose WelBeibl 6:2  Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o dro. Cawn fyw yn ei gwmni,
Hose WelBeibl 6:3  a'i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.”
Hose WelBeibl 6:4  O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Beth wna i gyda chi, bobl Jwda? Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar.
Hose WelBeibl 6:5  Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro. Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn. Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr.
Hose WelBeibl 6:6  Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi.
Hose WelBeibl 6:7  Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda! Maen nhw wedi fy mradychu i!
Hose WelBeibl 6:8  Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg, ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
Hose WelBeibl 6:9  Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron, yn cuddio i ymosod ar bobl – yn llofruddio ar y ffordd i Sichem. Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg!
Hose WelBeibl 6:10  Dw i wedi gweld pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd! Mae Effraim yn puteinio – mae Israel wedi'i llygru'n llwyr!
Hose WelBeibl 6:11  Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda! Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto;
Chapter 7
Hose WelBeibl 7:1  dw i eisiau iacháu Israel. Ond mae pechod Effraim yn y golwg, a drygioni Samaria mor amlwg. Maen nhw mor dwyllodrus! Mae lladron yn torri i mewn i'r tai, a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.
Hose WelBeibl 7:2  Dŷn nhw ddim yn sylweddoli fy mod i'n gweld y drwg i gyd. Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw – dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!
Hose WelBeibl 7:3  Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwg a'r tywysogion yn twyllo.
Hose WelBeibl 7:4  Maen nhw i gyd yn godinebu! Maen nhw fel popty crasboeth – does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân tra mae'n tylino'r toes, na pan mae'n cael ei bobi!
Hose WelBeibl 7:5  Mae'r brenin yn cynnal parti, ac mae'r tywysogion yn meddwi; Mae e'n cynllwynio gyda phaganiaid
Hose WelBeibl 7:6  ac yn troi ata i gan fwriadu brad. Bwriadau sydd fel popty poeth, yn mudlosgi drwy'r nos ac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.
Hose WelBeibl 7:7  Maen nhw i gyd fel popty crasboeth, yn lladd eu llywodraethwyr. Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio, a does dim un yn galw arna i!
Hose WelBeibl 7:8  Mae Effraim wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd. Mae fel bara tenau wedi'i losgi ar un ochr!
Hose WelBeibl 7:9  Mae estroniaid yn sugno'i nerth, a dydy e ddim wedi sylwi! Mae fel hen ddyn a'i wallt yn britho heb iddo sylwi!
Hose WelBeibl 7:10  Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw! Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato.
Hose WelBeibl 7:11  Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo – mae'n galw ar yr Aifft am help, ac wedyn yn troi at Asyria.
Hose WelBeibl 7:12  Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan; bydda i'n eu dal nhw fel dal adar, ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd.
Hose WelBeibl 7:13  Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i! Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i! Sut alla i eu gollwng nhw'n rhydd pan maen nhw'n dweud celwydd amdana i?
Hose WelBeibl 7:14  Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif. Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi, a thorri eu hunain â chyllyll wrth ofyn am ŷd a grawnwin. Maen nhw wedi troi cefn arna i,
Hose WelBeibl 7:15  er mai fi wnaeth eu dysgu nhw. Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf, ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi.
Hose WelBeibl 7:16  Maen nhw'n troi at Baal! Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim. Byddan nhw'n cael eu lladd gan y gelyn am siarad mor hy yn fy erbyn. Byddan nhw'n destun sbort i bobl yr Aifft.
Chapter 8
Hose WelBeibl 8:1  Canwch y corn hwrdd! Rhybuddiwch y bobl! Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi, ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.
Hose WelBeibl 8:2  Mae Israel yn galw arna i, “O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!”
Hose WelBeibl 8:3  Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da, a bydd y gelyn yn ei erlyn.
Hose WelBeibl 8:4  Maen nhw wedi dewis brenhinoedd heb ofyn i mi. Maen nhw wedi urddo arweinwyr heb i mi gytuno. Maen nhw wedi gwneud eilunod gyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw – ffordd dda i ddinistrio'i hunain!
Hose WelBeibl 8:5  Dw i wedi gwrthod tarw Samaria. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw! Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw,
Hose WelBeibl 8:6  er mai pobl Israel ydyn nhw! Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr – nid Duw ydy e! Felly, bydd tarw Samaria yn cael ei falu'n ddarnau mân!
Hose WelBeibl 8:7  Maen nhw wedi hau gwynt, ond byddan nhw'n medi corwynt! ‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛ Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd, pobl estron fydd yn ei fwyta.
Hose WelBeibl 8:8  Bydd Israel wedi'i llyncu gan y cenhedloedd; bydd fel darn o sbwriel wedi'i daflu i ffwrdd.
Hose WelBeibl 8:9  Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria – fel asyn gwyllt yn crwydro'n unig. Mae Effraim wedi bod yn talu am ei chariadon.
Hose WelBeibl 8:10  Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd, dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu, a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr.
Hose WelBeibl 8:11  Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod, maen nhw wedi'u troi yn allorau i bechu!
Hose WelBeibl 8:12  Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw, maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr!
Hose WelBeibl 8:13  Maen nhw'n dod i offrymu aberthau er mwyn cael bwyta'r cig! Dydy'r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw! Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw, ac yn eu cosbi nhw; byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!
Hose WelBeibl 8:14  Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr. Mae Jwda wedi adeiladu palasau, a chryfhau ei chaerau amddiffynnol. Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi, ac yn llosgi ei phalasau.
Chapter 9
Hose WelBeibl 9:1  O Israel, stopia ddathlu a gweiddi'n llawen fel y paganiaid; ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw. Ti'n hoffi derbyn cyflog putain wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!
Hose WelBeibl 9:2  Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl, a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.
Hose WelBeibl 9:3  Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD. Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft, ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.
Hose WelBeibl 9:4  Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD, nac offrymu aberthau iddo. Bydd yr aberthau'n aflan, fel bwyd pobl sy'n galaru; bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru. Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig; fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD.
Hose WelBeibl 9:5  Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl – sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD?
Hose WelBeibl 9:6  Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr, bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw, a Memffis yn eu claddu nhw. Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau a mieri'n meddiannu eu tai.
Hose WelBeibl 9:7  Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd! Mae dydd y farn wedi dod! Mae'n bryd i Israel wybod! “Mae'r proffwyd yn hurt! Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!” Ti wedi pechu gymaint, ac mor llawn casineb!
Hose WelBeibl 9:8  Mae'r proffwyd yn wyliwr dros Effraim ar ran Duw. Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau; a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw.
Hose WelBeibl 9:9  Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth, fel digwyddodd yn Gibea gynt. Bydd Duw yn delio gyda'u drygioni ac yn eu cosbi am eu pechodau.
Hose WelBeibl 9:10  Roedd darganfod Israel fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch. I mi, roedd dy hynafiaid fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys. Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor, a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus – cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd â'r eilun roedden nhw'n ei addoli.
Hose WelBeibl 9:11  “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant – byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth!
Hose WelBeibl 9:12  Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd – fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw!
Hose WelBeibl 9:13  Rôn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi'i phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.”
Hose WelBeibl 9:14  Rho iddyn nhw, ARGLWYDD – Ond beth roi di iddyn nhw? – Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu!
Hose WelBeibl 9:15  “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, dw i'n eu casáu nhw. Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir o achos eu holl ddrygioni. Dw i ddim yn eu caru nhw bellach; mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig.
Hose WelBeibl 9:16  Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed – mae'r gwreiddyn wedi sychu; a does dim ffrwyth yn tyfu. A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant, byddwn i'n lladd eu babis bach del!”
Hose WelBeibl 9:17  Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw am beidio gwrando arno; ac yn gwneud iddyn nhw grwydro ar goll ymhlith y cenhedloedd!
Chapter 10
Hose WelBeibl 10:1  Roedd Israel fel gwinwydden iach a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau. Ond po fwya o ffrwyth gafwyd, mwya o allorau a godwyd. Wrth i gnydau'r tir lwyddo byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.
Hose WelBeibl 10:2  Maen nhw'n rhagrithio, felly byddan nhw'n cael eu cosbi. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn chwalu'r allorau ac yn malu'r colofnau.
Hose WelBeibl 10:3  Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef, “Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD. Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”
Hose WelBeibl 10:4  Maen nhw'n llawn geiriau gwag, addewidion wedi'u torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi'i aredig.
Hose WelBeibl 10:5  Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu, am fod ei ysblander wedi'i gipio,
Hose WelBeibl 10:6  a'i gario i Asyria yn anrheg i'r brenin mawr. Bydd Effraim yn destun sbort, ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.
Hose WelBeibl 10:7  Bydd Samaria'n cael ei dinistrio, a'i brenin yn cael ei gipio fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.
Hose WelBeibl 10:8  Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio – sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!”
Hose WelBeibl 10:9  “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?
Hose WelBeibl 10:10  A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.
Hose WelBeibl 10:11  Roedd Effraim fel heffer wedi'i hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn. Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu'r tir ei hun!
Hose WelBeibl 10:12  Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed – ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth.
Hose WelBeibl 10:13  Ond rwyt wedi plannu drygioni, a medi anghyfiawnder, ac yna bwyta ffrwyth y twyll. Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel, a phwyso ar faint dy fyddin.
Hose WelBeibl 10:14  Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl, a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio. Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant.
Hose WelBeibl 10:15  Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.”
Chapter 11
Hose WelBeibl 11:1  Pan oedd Israel yn blentyn rôn i'n ei garu, a galwais fy mab allan o'r Aifft.
Hose WelBeibl 11:2  Ond po fwya roeddwn i'n galw, pellaf roedden nhw'n mynd. Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal, a llosgi arogldarth i eilunod.
Hose WelBeibl 11:3  Fi ddysgodd Effraim i gerdded; a'i arwain gerfydd ei law. Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod mai fi ofalodd amdanynt.
Hose WelBeibl 11:4  Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr – tennyn cariad. Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf, a fi wnaeth blygu i'w bwydo.
Hose WelBeibl 11:5  Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Bydd Asyria'n eu rheoli, am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
Hose WelBeibl 11:6  Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi. Bydd y gelyn yn malu'r giatiau, a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
Hose WelBeibl 11:7  Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i. Maen nhw'n galw ar Baal, ond fydd e byth yn eu helpu nhw!
Hose WelBeibl 11:8  Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
Hose WelBeibl 11:9  Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi. Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr! Duw ydw i, nid dyn fel chi, yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.
Hose WelBeibl 11:10  Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew, a byddan nhw'n ei ddilyn eto. Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod o'r gorllewin yn llawn cyffro.
Hose WelBeibl 11:11  Dod ar frys fel adar o'r Aifft, neu golomennod yn hedfan o Asyria. “Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Hose WelBeibl 11:12  Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas; dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo. Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw – yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon.
Chapter 12
Hose WelBeibl 12:1  Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion – mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain! Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn. Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria, ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!
Hose WelBeibl 12:2  Mae'r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda: bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.
Hose WelBeibl 12:3  Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth, a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!
Hose WelBeibl 12:4  Reslo gydag angel heb golli – crio a pledio arno i'w fendithio. Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel a siarad ag e yno –
Hose WelBeibl 12:5  Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw hollbwerus! Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!
Hose WelBeibl 12:6  Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! – byw bywyd o gariad a chyfiawnder, a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
Hose WelBeibl 12:7  Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo, maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.
Hose WelBeibl 12:8  Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr! A does neb yn gallu gweld y twyll; neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
Hose WelBeibl 12:9  “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft. Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto, fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.
Hose WelBeibl 12:10  Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi – mewn gweledigaethau a negeseuon.”
Hose WelBeibl 12:11  Ydy Gilead yn addoli eilunod? Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl! Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal? Ydyn, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig mewn cae wedi'i aredig!
Hose WelBeibl 12:12  Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram – gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig, a chadw defaid i dalu amdani.
Hose WelBeibl 12:13  Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwyd i arwain Israel allan o'r Aifft, ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch.
Hose WelBeibl 12:14  Ond mae Effraim wedi'i bryfocio i ddigio. Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed, ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.
Chapter 13
Hose WelBeibl 13:1  Pan oedd llwyth Effraim yn siarad roedd pawb yn crynu – roedd pawb yn ei barchu yn Israel. Ond buont ar fai yn addoli Baal, a dyna oedd eu diwedd.
Hose WelBeibl 13:2  Ac maen nhw'n dal i bechu! Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd; eilunod cywrain wedi'u gwneud o arian – ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl! Mae yna ddywediad amdanyn nhw: “Mae'r bobl sy'n aberthu yn cusanu teirw!”
Hose WelBeibl 13:3  Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar; fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu, neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.
Hose WelBeibl 13:4  “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw, ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft. Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi – Fi ydy'r unig un sy'n achub!
Hose WelBeibl 13:5  Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch, mewn tir sych, diffaith.
Hose WelBeibl 13:6  Ond wedi'u bwydo, roedden nhw'n fodlon – mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch, ac yna fy anghofio i!
Hose WelBeibl 13:7  Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew, ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
Hose WelBeibl 13:8  Bydda i'n ymosod arnyn nhw fel arth wedi colli ei chenawon; a'u llarpio nhw fel llew, neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.
Hose WelBeibl 13:9  Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel! Pwy sydd yna i dy helpu di?
Hose WelBeibl 13:10  Ble mae dy frenin, iddo fe dy achub di? Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi? Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.
Hose WelBeibl 13:11  Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig, a dw i wedi'i gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!
Hose WelBeibl 13:12  Mae'r dyfarniad ar Effraim wedi'i gofnodi, a'i gosb wedi'i gadw'n saff iddo.
Hose WelBeibl 13:13  Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi; mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.
Hose WelBeibl 13:14  Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw? Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth? O farwolaeth! Ble mae dy blâu di? O fedd! Ble mae dy ddinistr di? Fydda i'n dangos dim trugaredd!”
Hose WelBeibl 13:15  Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors, ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain i fyny o gyfeiriad yr anialwch. Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu, a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.
Hose WelBeibl 13:16  Bydd Samaria yn cael ei galw i gyfri am wrthryfela yn erbyn ei Duw. Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel, plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored.
Chapter 14
Hose WelBeibl 14:1  O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio.
Hose WelBeibl 14:2  Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti.
Hose WelBeibl 14:3  Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”
Hose WelBeibl 14:4  “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio, a'u caru nhw'n ddiamod. Dw i'n mynd i droi cefn ar fy llid.
Hose WelBeibl 14:5  Bydda i fel gwlith i Israel – bydd hi'n blodeuo fel saffrwn, a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.
Hose WelBeibl 14:6  Bydd ei blagur yn tyfu; bydd yn hardd fel coeden olewydd, a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
Hose WelBeibl 14:7  Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod. Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu; bydd yn enwog fel gwin Libanus.
Hose WelBeibl 14:8  Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”
Hose WelBeibl 14:9  Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall. Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod. Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn – bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn, ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.