Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Toggle notes
Chapter 1
Eccl WelBeibl 1:1  Geiriau yr Athro, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
Eccl WelBeibl 1:2  Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – Dydy e'n gwneud dim sens! Mae'r cwbl yn hollol absẃrd!
Eccl WelBeibl 1:3  Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth? Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?
Eccl WelBeibl 1:4  Mae un genhedlaeth yn mynd ac un arall yn dod, ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.
Eccl WelBeibl 1:5  Mae'r haul yn codi ac yn machlud, yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.
Eccl WelBeibl 1:6  Mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd. Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôl i'r un lle yn y diwedd.
Eccl WelBeibl 1:7  Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr, ac eto dydy'r môr byth yn llawn; maen nhw'n mynd yn ôl i lifo o'r un lle eto.
Eccl WelBeibl 1:8  Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd! Dydy hi ddim posib dweud popeth. Dydy'r llygad byth wedi gweld digon, na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.
Eccl WelBeibl 1:9  Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol – Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ag o'r blaen; does dim byd newydd dan yr haul!
Eccl WelBeibl 1:10  Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth, “Edrychwch, dyma i chi beth newydd!” Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl, o flaen ein hamser ni.
Eccl WelBeibl 1:11  Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd, a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawb aeth o'u blaenau nhw chwaith.
Eccl WelBeibl 1:12  Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem.
Eccl WelBeibl 1:13  Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd. Mae'n waith caled, wedi'i roi gan Dduw i'r ddynoliaeth.
Eccl WelBeibl 1:14  Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 1:15  Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi'i blygu, na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!
Eccl WelBeibl 1:16  Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o mlaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.”
Eccl WelBeibl 1:17  Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i'r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 1:18  Po fwya'r doethineb, mwya'r dolur; mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.
Chapter 2
Eccl WelBeibl 2:1  Meddyliais, “Reit, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig!” Ond wedyn dod i'r casgliad mai nid dyna'r ateb chwaith.
Eccl WelBeibl 2:2  “Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy'r pwynt?”
Eccl WelBeibl 2:3  Dyma fi'n ceisio gweld fyddai codi'r galon gyda gwin, nes dechrau actio'r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Rôn i eisiau gweld a oedd hynny'n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear.
Eccl WelBeibl 2:4  Wedyn dyma fi'n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi'n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd.
Eccl WelBeibl 2:5  Dyma fi'n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw.
Eccl WelBeibl 2:6  Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i'n tyfu.
Eccl WelBeibl 2:7  Prynais weithwyr i mi fy hun – dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi'u geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o mlaen i.
Eccl WelBeibl 2:8  Dyma fi'n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i'm difyrru, a digonedd o bleser rhywiol – harîm o ferched hardd.
Eccl WelBeibl 2:9  Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nag unrhyw un oedd wedi bod o mlaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth.
Eccl WelBeibl 2:10  Rôn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Rôn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Rôn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech.
Eccl WelBeibl 2:11  Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi'i gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?
Eccl WelBeibl 2:12  Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi'i gyflawni eisoes! Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.
Eccl WelBeibl 2:13  Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.
Eccl WelBeibl 2:14  “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd, ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.” Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.
Eccl WelBeibl 2:15  Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens.
Eccl WelBeibl 2:16  Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl.
Eccl WelBeibl 2:17  Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 2:18  Rôn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i.
Eccl WelBeibl 2:19  A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 2:20  Rôn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi'i gyflawni ar y ddaear.
Eccl WelBeibl 2:21  Mae rhywun yn gweithio'n galed ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.
Eccl WelBeibl 2:22  Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd?
Eccl WelBeibl 2:23  Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 2:24  Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi'n sylweddoli mai Duw sy'n rhoi hyn i gyd i ni.
Eccl WelBeibl 2:25  Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn.
Eccl WelBeibl 2:26  Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael – a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Chapter 3
Eccl WelBeibl 3:1  Mae amser wedi'i bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy'n digwydd yn y byd:
Eccl WelBeibl 3:2  amser i gael eich geni ac amser i farw, amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;
Eccl WelBeibl 3:3  amser i ladd ac amser i iacháu, amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;
Eccl WelBeibl 3:4  amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio;
Eccl WelBeibl 3:5  amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;
Eccl WelBeibl 3:6  amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;
Eccl WelBeibl 3:7  amser i rwygo ac amser i bwytho, amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;
Eccl WelBeibl 3:8  amser i garu ac amser i gasáu; amser i ryfel ac amser i heddwch.
Eccl WelBeibl 3:9  Felly, beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?
Eccl WelBeibl 3:10  Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi'u rhoi i bobl eu gwneud:
Eccl WelBeibl 3:11  Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.
Eccl WelBeibl 3:12  Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.
Eccl WelBeibl 3:13  Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.
Eccl WelBeibl 3:14  Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.
Eccl WelBeibl 3:15  “Mae popeth a fu yn dal i fod, a phopeth fydd fel popeth sydd. Mae Duw'n gwneud eto beth sydd wedi mynd heibio.”
Eccl WelBeibl 3:16  Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni!
Eccl WelBeibl 3:17  Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi'i bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.”
Eccl WelBeibl 3:18  Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.”
Eccl WelBeibl 3:19  Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 3:20  Mae'r ddau'n mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd.
Eccl WelBeibl 3:21  Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear.
Eccl WelBeibl 3:22  Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw?
Chapter 4
Eccl WelBeibl 4:1  Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.
Eccl WelBeibl 4:2  Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na'r rhai sy'n dal yn fyw.
Eccl WelBeibl 4:3  Ond mae'n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy'n digwydd yn y byd!
Eccl WelBeibl 4:4  Yna dyma fi'n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a'i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli'r gwynt!
Eccl WelBeibl 4:5  “Mae'r ffŵl yn plethu ei freichiau ac yn gwastraffu ei fywyd,”
Eccl WelBeibl 4:6  Ac eto, “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.” Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt!
Eccl WelBeibl 4:7  Yna dyma fi'n ystyried rhywbeth arall sy'n gwneud dim sens o gwbl:
Eccl WelBeibl 4:8  Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn.
Eccl WelBeibl 4:9  “Mae dau gyda'i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda'i gilydd mae'r ddau berson ar eu hennill.
Eccl WelBeibl 4:10  Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o'r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i'w helpu i godi.
Eccl WelBeibl 4:11  Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda'i gilydd, maen nhw'n cadw'n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw'n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun?
Eccl WelBeibl 4:12  “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!”
Eccl WelBeibl 4:13  “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”
Eccl WelBeibl 4:14  Hyd yn oed os oedd e'n y carchar cyn dod i reoli, ac wedi'i eni'n dlawd yn y wlad y byddai'n teyrnasu arni.
Eccl WelBeibl 4:15  Yna dyma fi'n gweld yr holl bobl sy'n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai'n ei olynu.
Eccl WelBeibl 4:16  Doedd dim posib cyfri'r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Chapter 5
Eccl WelBeibl 5:1  Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le.
Eccl WelBeibl 5:2  Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau.
Eccl WelBeibl 5:3  “Mae hunllefau'n dod wrth boeni gormod, a siarad ffôl wrth ddweud gormod.”
Eccl WelBeibl 5:4  Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud.
Eccl WelBeibl 5:5  Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni!
Eccl WelBeibl 5:6  Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “Camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano!
Eccl WelBeibl 5:7  “Mae gormod o freuddwydio ac o wneud addewidion gwag.” Dangos di barch at Dduw.
Eccl WelBeibl 5:8  Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn.
Eccl WelBeibl 5:9  Mae cynnyrch y tir i fod i bawb – ac mae'r brenin i fod i feithrin hyn!
Eccl WelBeibl 5:10  “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na'r un sy'n caru cyfoeth yn hapus gyda'i enillion.” Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 5:11  “Po fwya'r llwyddiant, mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.” Felly, beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno?
Eccl WelBeibl 5:12  “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta, ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.”
Eccl WelBeibl 5:13  Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw'u hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd.
Eccl WelBeibl 5:14  Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw.
Eccl WelBeibl 5:15  Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e.
Eccl WelBeibl 5:16  Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd?
Eccl WelBeibl 5:17  Mae'n treulio'i fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth – yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin.
Eccl WelBeibl 5:18  Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi'i roi iddo. Dyna'i wobr.
Eccl WelBeibl 5:19  Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a'r gallu i'w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae'n ei wneud – rhodd gan Dduw ydy'r pethau yma i gyd.
Eccl WelBeibl 5:20  Pan mae Duw wedi llenwi ei fywyd â llawenydd, dydy rhywun felly ddim yn poeni rhyw lawer fod bywyd mor fyr.
Chapter 6
Eccl WelBeibl 6:1  Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae'n effeithio ar lot o bobl:
Eccl WelBeibl 6:2  Mae Duw weithiau'n rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a'i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi'r gallu iddo fwynhau'r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i'r peth! Mae'n ofnadwy!
Eccl WelBeibl 6:3  Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr – sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth! Os nad ydy e'n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy'n cael ei eni'n farw yn well ei fyd na rhywun felly!
Eccl WelBeibl 6:4  Ac i beth mae hwnnw'n cael ei eni? Mae'n ddiystyr! Mae'n diflannu i'r tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano.
Eccl WelBeibl 6:5  Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia mae'n cael gorffwys, felly'n well ei fyd na'r person arall!
Eccl WelBeibl 6:6  Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid i'r un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw?
Eccl WelBeibl 6:7  “Mae pawb yn gweithio'n galed i gael bwyd i'w fwyta, ond dydy'r stumog byth yn fodlon.”
Eccl WelBeibl 6:8  Felly, pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy'n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill?
Eccl WelBeibl 6:9  “Mae bod yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.” Dydy'r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 6:10  Mae popeth sy'n digwydd wedi'i drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e'n llawer cryfach.
Eccl WelBeibl 6:11  Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy'n cael ei ennill?
Eccl WelBeibl 6:12  Pwy sy'n gwybod beth ydy'r peth gorau i rywun ei wneud gyda'i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae'n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy'n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?
Chapter 7
Eccl WelBeibl 7:1  “Mae enw da yn well na phersawr drud,” a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni.
Eccl WelBeibl 7:2  Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti. Marw fydd y diwedd i bawb, a dylai pobl ystyried hynny.
Eccl WelBeibl 7:3  Mae tristwch yn well na chwerthin – er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.
Eccl WelBeibl 7:4  Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth, ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.
Eccl WelBeibl 7:5  Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd nag ar ffyliaid yn canu eich clodydd.
Eccl WelBeibl 7:6  Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthin fel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan. Mae'n ddiystyr!
Eccl WelBeibl 7:7  Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl, ac mae breib yn llygru barn pobl.
Eccl WelBeibl 7:8  “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,” ac “Mae amynedd yn well na balchder.”
Eccl WelBeibl 7:9  Paid gwylltio'n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.
Eccl WelBeibl 7:10  Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?” Dydy'r rhai doeth ddim yn meddwl felly.
Eccl WelBeibl 7:11  Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da ac yn fanteisiol i bob person byw,
Eccl WelBeibl 7:12  oherwydd mae doethineb, fel arian, yn gysgod i'n cadw'n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw'r doeth yn fyw.
Eccl WelBeibl 7:13  Ystyriwch bopeth mae Duw wedi'i wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi'i blygu?
Eccl WelBeibl 7:14  Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Eccl WelBeibl 7:15  Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni.
Eccl WelBeibl 7:16  Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi!
Eccl WelBeibl 7:17  A phaid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser?
Eccl WelBeibl 7:18  Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi'r ddau eithaf.
Eccl WelBeibl 7:19  “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywun na deg o lywodraethwyr mewn dinas.”
Eccl WelBeibl 7:20  “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”
Eccl WelBeibl 7:21  Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud, rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”
Eccl WelBeibl 7:22  Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hun wedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.
Eccl WelBeibl 7:23  Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion.
Eccl WelBeibl 7:24  Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd – mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.
Eccl WelBeibl 7:25  Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pha mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb.
Eccl WelBeibl 7:26  Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydy'r wraig sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, a'i breichiau amdano fel cadwyni. Mae'r dyn sy'n plesio Duw yn llwyddo i ddianc o'i gafael, ond mae'r un sy'n pechu yn cael ei ddal ganddi.
Eccl WelBeibl 7:27  Dyma'r casgliad dw i wedi dod iddo, meddai'r Athro – wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth:
Eccl WelBeibl 7:28  (Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo'n gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhw'n dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”)
Eccl WelBeibl 7:29  Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau.
Chapter 8
Eccl WelBeibl 8:1  Pwy sy'n ddoeth go iawn? Pwy sy'n gallu esbonio pethau? “Mae doethineb rhywun yn gwneud i'w wyneb oleuo, Ac mae'r olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.”
Eccl WelBeibl 8:2  Dw i'n dweud, “Gwranda ar orchymyn y brenin – gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.”
Eccl WelBeibl 8:3  Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb; a phaid oedi pan fydd pethau'n anghysurus. Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis.
Eccl WelBeibl 8:4  Mae gan y brenin awdurdod llwyr, a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?”
Eccl WelBeibl 8:5  Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion. Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth.
Eccl WelBeibl 8:6  Mae amser penodol a threfn i bopeth. Ond mae'r perygl o ryw drasiedi'n digwydd yn pwyso'n drwm ar bobl.
Eccl WelBeibl 8:7  Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
Eccl WelBeibl 8:8  A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.
Eccl WelBeibl 8:9  Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.
Eccl WelBeibl 8:10  Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra oedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?
Eccl WelBeibl 8:11  Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.
Eccl WelBeibl 8:12  Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato.
Eccl WelBeibl 8:13  Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy'n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw'n parchu Duw.
Eccl WelBeibl 8:14  Ond wedyn, dyma beth sy'n gwneud dim sens yn y byd yma: mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy'n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw i'n dweud, dydy'r peth yn gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 8:15  Felly dw i'n argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Mae'r pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr â'i holl waith caled yn ystod ei fywyd.
Eccl WelBeibl 8:16  Es i ati o ddifrif i geisio ddeall beth ydy doethineb ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd – hyd yn oed mynd heb gwsg nos a dydd –
Eccl WelBeibl 8:17  ac ystyried popeth mae Duw wedi'i wneud. Y gwir ydy does neb yn deall popeth sy'n digwydd yn y byd. Sdim ots pa mor galed mae pobl yn trio, does neb yn deall go iawn. Hyd yn oed os oes rhai pobl glyfar yn honni eu bod nhw'n gwybod, dŷn nhw ddim wir yn deall.
Chapter 9
Eccl WelBeibl 9:1  Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i'r casgliad fod y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn (y rhai doeth a'r cwbl maen nhw'n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw'n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o'u blaenau nhw.
Eccl WelBeibl 9:2  A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny.
Eccl WelBeibl 9:3  Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? – Marwolaeth!
Eccl WelBeibl 9:4  Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy'n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato – “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”.
Eccl WelBeibl 9:5  Mae'r byw yn gwybod eu bod nhw'n mynd i farw, ond dydy'r meirw'n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw.
Eccl WelBeibl 9:6  Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus – mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd.
Eccl WelBeibl 9:7  Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud.
Eccl WelBeibl 9:8  Gwisga dy ddillad gorau, a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau.
Eccl WelBeibl 9:9  Mwynha fywyd gyda'r wraig rwyt ti'n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae'n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear.
Eccl WelBeibl 9:10  Gwna dy orau glas, beth bynnag wyt ti'n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti'n mynd.
Eccl WelBeibl 9:11  Yna, ystyriais eto yr hyn sy'n digwydd yn y byd: dydy'r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras, na'r cryfaf yn ennill y frwydr; dydy'r doethaf ddim yn llwyddo bob tro, na'r clyfraf yn cael y cyfoeth; dydy'r un sy'n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio. Mae damweiniau'n gallu digwydd i bawb.
Eccl WelBeibl 9:12  Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser. Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd, neu adar mewn magl, mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd.
Eccl WelBeibl 9:13  Dyma enghraifft o rywbeth welais i'n digwydd, gafodd effaith fawr arna i:
Eccl WelBeibl 9:14  Roedd tref fechan lle nad oedd llawer o bobl yn byw. Daeth brenin cryf i ymosod arni, ei hamgylchynu ac adeiladu rampiau mawr i warchae yn ei herbyn.
Eccl WelBeibl 9:15  Ond roedd dyn tlawd oedd yn ddoeth iawn yn byw yn y dref. Dyma fe'n llwyddo i achub y dref drwy ei ddoethineb. Ac eto doedd neb yn ei gofio!
Eccl WelBeibl 9:16  Dw i wedi dweud: “Mae doethineb yn well na grym.” Mae hynny'n wir hyd yn oed os ydy doethineb y dyn tlawd yn cael ei dirmygu a'i eiriau'n cael eu diystyru.
Eccl WelBeibl 9:17  Mae'n well gwrando ar eiriau pwyllog y doeth nag ar lywodraethwr yn gweiddi yng nghanol ffyliaid.
Eccl WelBeibl 9:18  Mae doethineb yn well nag arfau rhyfel ond mae un weithred ffôl yn gallu dinistrio llawer o dda.
Chapter 10
Eccl WelBeibl 10:1  Mae pryfed marw'n gwneud i bersawr ddrewi, ac mae ychydig ffolineb yn gallu troi'r fantol yn erbyn doethineb mawr.
Eccl WelBeibl 10:2  Mae gogwydd y doeth at y da, ond mae'r ffŵl yn dewis y drwg.
Eccl WelBeibl 10:3  Mae'r ffordd mae'r ffŵl yn ymddwyn yn dangos i bawb ei fod yn dwpsyn!
Eccl WelBeibl 10:4  Pan mae'r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud; wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e'n tawelu.
Eccl WelBeibl 10:5  Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi'i weld – camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:
Eccl WelBeibl 10:6  Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod, a phobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.
Eccl WelBeibl 10:7  Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylau a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.
Eccl WelBeibl 10:8  Gall rhywun sy'n cloddio twll syrthio i mewn iddo, a'r un sy'n torri drwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.
Eccl WelBeibl 10:9  Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini, a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed.
Eccl WelBeibl 10:10  Os nad oes min ar y fwyell, os na chafodd ei hogi, rhaid i rywun ddefnyddio mwy o egni. Mae doethineb bob amser yn helpu!
Eccl WelBeibl 10:11  Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno, mae'r swynwr wedi methu!
Eccl WelBeibl 10:12  Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau.
Eccl WelBeibl 10:13  Mae'n dechrau drwy siarad dwli, ac yn darfod drwy ddweud pethau hollol wallgof.
Eccl WelBeibl 10:14  Mae'r ffŵl yn siarad gormod! Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
Eccl WelBeibl 10:15  Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân, dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd.
Eccl WelBeibl 10:16  Gwae'r wlad sydd â brenin plentynnaidd, a'i thywysogion yn dechrau gwledda'n gynnar yn y bore!
Eccl WelBeibl 10:17  Ond mae'n braf ar bobl sydd â'u brenin yn gallu rheoli, a'u tywysogion yn gwybod pryd mae'n iawn i wledda – dan reolaeth, ac nid i feddwi!
Eccl WelBeibl 10:18  Mae to sy'n syrthio yn ganlyniad diogi; mae'n gollwng dŵr am fod dim wedi'i wneud.
Eccl WelBeibl 10:19  Mae bwyd yn cael ei baratoi i'w fwynhau, ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon, ond wrth gwrs arian ydy'r ateb i bopeth!
Eccl WelBeibl 10:20  Paid hyd yn oed meddwl beirniadu'r brenin, na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely. Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill, neu ailadrodd beth ddwedaist ti.
Chapter 11
Eccl WelBeibl 11:1  “Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch – ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl.
Eccl WelBeibl 11:2  Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl, wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.”
Eccl WelBeibl 11:3  Pan mae'r cymylau'n dduon, byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear. Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio, bydd yn aros lle syrthiodd.
Eccl WelBeibl 11:4  Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.
Eccl WelBeibl 11:5  Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam, alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud, a fe sydd wedi creu popeth.
Eccl WelBeibl 11:6  Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda'r nos; wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo – y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.
Eccl WelBeibl 11:7  “Mae golau bywyd mor felys, ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”
Eccl WelBeibl 11:8  Os ydy rhywun yn cael oes hir, dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd, ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach. Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!
Eccl WelBeibl 11:9  Ti'n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle! Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti'n ifanc. Gwna be fynni di – beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi – ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl.
Eccl WelBeibl 11:10  Paid cael dy lethu gan boenau bywyd, a chadwa dy hun yn iach! Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!
Chapter 12
Eccl WelBeibl 12:1  Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd a'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud, “Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
Eccl WelBeibl 12:2  Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll, a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
Eccl WelBeibl 12:3  pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn crymu; y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin, a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg;
Eccl WelBeibl 12:4  pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn malu wedi tawelu; pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyn er fod holl seiniau byd natur yn distewi;
Eccl WelBeibl 12:5  pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd; pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd; pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol, a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
Eccl WelBeibl 12:6  Cyn i'r llinyn arian dorri ac i'r fowlen aur falu, a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion, a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
Eccl WelBeibl 12:7  Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd, ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw, yr un a'i rhoddodd.
Eccl WelBeibl 12:8  Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – Dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 12:9  Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.
Eccl WelBeibl 12:10  Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen.
Eccl WelBeibl 12:11  Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.
Eccl WelBeibl 12:12  Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.
Eccl WelBeibl 12:13  I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.
Eccl WelBeibl 12:14  Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw – hyd yn oed beth oedd o'r golwg – y da a'r drwg.