Toggle notes
Chapter 1
Ezra | WelBeibl | 1:1 | Llai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: | |
Ezra | WelBeibl | 1:2 | “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. | |
Ezra | WelBeibl | 1:3 | Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! | |
Ezra | WelBeibl | 1:4 | Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’” | |
Ezra | WelBeibl | 1:5 | Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi'u hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 1:6 | Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol. | |
Ezra | WelBeibl | 1:7 | Yna dyma'r Brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar wedi'u cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun. | |
Ezra | WelBeibl | 1:8 | Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda, | |
Ezra | WelBeibl | 1:9 | Dyma'r rhestr o eitemau: – 30 dysgl aur – 1,000 o ddysglau arian – 29 eitem arall o arian – 30 powlen aur – 410 o bowlenni arian gwahanol – 1,000 o lestri eraill | |
Ezra | WelBeibl | 1:10 | Dyma'r rhestr o eitemau: – 30 dysgl aur – 1,000 o ddysglau arian – 29 eitem arall o arian – 30 powlen aur – 410 o bowlenni arian gwahanol – 1,000 o lestri eraill | |
Chapter 2
Ezra | WelBeibl | 2:1 | Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. | |
Ezra | WelBeibl | 2:2 | Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl: | |
Ezra | WelBeibl | 2:59 | Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol): | |
Ezra | WelBeibl | 2:61 | Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw). | |
Ezra | WelBeibl | 2:62 | Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. | |
Ezra | WelBeibl | 2:63 | Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim. | |
Ezra | WelBeibl | 2:65 | (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). | |
Ezra | WelBeibl | 2:68 | Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. | |
Ezra | WelBeibl | 2:69 | Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid. | |
Chapter 3
Ezra | WelBeibl | 3:1 | Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 3:2 | A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi'u rhoi i Moses, ei broffwyd. | |
Ezra | WelBeibl | 3:3 | Er bod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos. | |
Ezra | WelBeibl | 3:4 | Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a chyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud. | |
Ezra | WelBeibl | 3:5 | Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi – yr offrymau misol ar ŵyl y lleuad newydd, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol. | |
Ezra | WelBeibl | 3:6 | Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto. | |
Ezra | WelBeibl | 3:7 | Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a thalu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa. Roedd y Brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd. | |
Ezra | WelBeibl | 3:8 | Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD. | |
Ezra | WelBeibl | 3:9 | Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafïa), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi. | |
Ezra | WelBeibl | 3:10 | Pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi'i gosod. | |
Ezra | WelBeibl | 3:11 | Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD: “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!” A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfeini'r deml wedi'u gosod. | |
Ezra | WelBeibl | 3:12 | Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crio. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll. | |
Chapter 4
Ezra | WelBeibl | 4:1 | Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel, | |
Ezra | WelBeibl | 4:2 | dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, brenin Asyria, ein symud ni yma.” | |
Ezra | WelBeibl | 4:3 | Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.” | |
Ezra | WelBeibl | 4:4 | Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc. | |
Ezra | WelBeibl | 4:5 | Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y Brenin Dareius. | |
Ezra | WelBeibl | 4:6 | Pan ddaeth Ahasferus yn frenin dyma nhw'n dod â cyhuddiad arall yn erbyn pobl Jwda a Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 4:7 | Ac wedyn pan oedd Artaxerxes yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi'i ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu. | |
Ezra | WelBeibl | 4:8 | Dyma oedd y llythyr am Jerwsalem yn ei ddweud – wedi'i anfon at y Brenin Artaxerxes gan Rechwm yr uwch-swyddog a Shimshai yr ysgrifennydd: | |
Ezra | WelBeibl | 4:9 | “Llythyr oddi wrth Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr – yn farnwyr, arolygwyr, swyddogion, ac ysgrifenyddion. Hefyd pobl Erech, Babilon, a Shwshan (sef yr Elamiaid), | |
Ezra | WelBeibl | 4:10 | a phawb arall gafodd eu symud i fyw yn Samaria a threfi Traws-Ewffrates gan y brenin mawr ac enwog, Ashwrbanipal.” | |
Ezra | WelBeibl | 4:11 | (Mae hwn yn gopi o'r llythyr gafodd ei anfon:) “At y Brenin Artaxerxes, oddi wrth dy weision yn Traws-Ewffrates. | |
Ezra | WelBeibl | 4:12 | Dylai'r brenin wybod fod yr Iddewon ddaeth aton ni yma oddi wrthoch chi wedi mynd i Jerwsalem, ac maen nhw'n ailadeiladu'r ddinas wrthryfelgar, afiach yna. Maen nhw bron â gorffen y waliau, ac yn trwsio ei sylfeini. | |
Ezra | WelBeibl | 4:13 | A dylai'r brenin sylweddoli y bydd ar ei golled os bydd y gwaith yma'n cael ei orffen. Fydd dim mwy o drethi na thollau yn cael eu talu ganddyn nhw wedyn! | |
Ezra | WelBeibl | 4:14 | Fel rhai sy'n deyrngar i'r brenin, fydden ni ddim eisiau i'r brenin gael ei ddifrïo. Roedden ni eisiau iddo wybod am hyn, | |
Ezra | WelBeibl | 4:15 | er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio! | |
Ezra | WelBeibl | 4:16 | Felly, dŷn ni eisiau rhybuddio'r brenin, os bydd y ddinas yma'n cael ei hailadeiladu, a'r waliau yn cael eu gorffen, fydd e ddim yn gallu cadw rheolaeth ar y rhan yma o'i deyrnas yn Traws-Ewffrates.” | |
Ezra | WelBeibl | 4:17 | A dyma'r brenin yn anfon yr ateb yma: “At Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr yn Samaria a'r rhannau eraill o Traws-Ewffrates: Cyfarchion! | |
Ezra | WelBeibl | 4:18 | Cafodd y llythyr wnaethoch chi ei anfon aton ni ei gyfieithu a'i ddarllen o mlaen i. | |
Ezra | WelBeibl | 4:19 | Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau. | |
Ezra | WelBeibl | 4:20 | Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau. | |
Ezra | WelBeibl | 4:21 | Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall. | |
Ezra | WelBeibl | 4:22 | Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.” | |
Ezra | WelBeibl | 4:23 | Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio. | |
Chapter 5
Ezra | WelBeibl | 5:1 | Yna dyma'r proffwydi Haggai a Sechareia fab Ido yn proffwydo am yr Iddewon oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedden nhw'n siarad gydag awdurdod Duw Israel. | |
Ezra | WelBeibl | 5:2 | A dyma Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac yn dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem. Roedd proffwydi Duw yn eu hannog nhw a'u helpu nhw. | |
Ezra | WelBeibl | 5:3 | Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a'i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?” | |
Ezra | WelBeibl | 5:5 | Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi'i anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi'i anfon yn ôl. | |
Ezra | WelBeibl | 5:6 | Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y Brenin Dareius. | |
Ezra | WelBeibl | 5:8 | Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda. | |
Ezra | WelBeibl | 5:9 | Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?” | |
Ezra | WelBeibl | 5:10 | A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr. | |
Ezra | WelBeibl | 5:11 | A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel. | |
Ezra | WelBeibl | 5:12 | Ond ar ôl i'n hynafiaid ni ddigio Duw'r nefoedd, dyma fe'n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon. | |
Ezra | WelBeibl | 5:13 | Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto. | |
Ezra | WelBeibl | 5:14 | Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi'u cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi'i benodi'n llywodraethwr ar Jwda, | |
Ezra | WelBeibl | 5:15 | a dweud wrtho, ‘Dos â'r llestri yma yn ôl i'w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’ | |
Ezra | WelBeibl | 5:16 | Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfeini teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae'r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen. | |
Ezra | WelBeibl | 5:17 | Felly os ydy'r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y Brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu'r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai'r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.” | |
Chapter 6
Ezra | WelBeibl | 6:1 | Dyma'r brenin Dareius yn gorchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol oedd yn cael eu cadw yn Babilon. | |
Ezra | WelBeibl | 6:2 | Cafwyd hyd i sgrôl yn y gaer ddinesig yn Echbetana, talaith Media. A dyma oedd wedi'i ysgrifennu arni: “Memorandwm: | |
Ezra | WelBeibl | 6:3 | Yn ystod blwyddyn gyntaf Cyrus yn frenin, dyma fe'n rhoi gorchymyn am deml Dduw yn Jerwsalem: ‘Mae'r deml i gael ei hailadeiladu fel lle i gyflwyno aberthau. Dylai'r sylfeini gael eu gosod, ac yna dylid ei hadeiladu yn 27 metr o uchder a 27 metr o led, | |
Ezra | WelBeibl | 6:4 | gyda thair rhes o gerrig anferth, ac un rhes o goed. Bydd y trysorlys brenhinol yn talu am y gwaith. | |
Ezra | WelBeibl | 6:5 | Yna hefyd, mae'r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’” | |
Ezra | WelBeibl | 6:6 | Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith: “Rhaid i chi gadw o'r ffordd, | |
Ezra | WelBeibl | 6:7 | a gadael i'r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod. | |
Ezra | WelBeibl | 6:8 | Dw i hefyd yn gorchymyn eich bod chi i helpu arweinwyr yr Iddewon fel bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Mae'r costau i gyd i'w talu allan o drethi talaith Traws-Ewffrates, sy'n cael eu cadw yn y trysorlys brenhinol. | |
Ezra | WelBeibl | 6:9 | Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw'n cael popeth sydd ei angen – teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i'w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd – beth bynnag mae'r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano. | |
Ezra | WelBeibl | 6:10 | Wedyn byddan nhw'n gallu offrymu arogldarth i Dduw y nefoedd, a gweddïo dros y brenin a'i feibion. | |
Ezra | WelBeibl | 6:11 | A dw i'n rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n newid y gorchymyn yma yn marw – bydd trawst pren yn cael ei gymryd o'i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i'r trawst a'i drywanu'n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth. | |
Ezra | WelBeibl | 6:12 | Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!” | |
Ezra | WelBeibl | 6:13 | Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y Brenin Dareius wedi'i orchymyn. | |
Ezra | WelBeibl | 6:14 | Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra oedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi'i orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia. | |
Ezra | WelBeibl | 6:15 | Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius. | |
Ezra | WelBeibl | 6:16 | Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno – yr offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud. | |
Ezra | WelBeibl | 6:17 | Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth). | |
Ezra | WelBeibl | 6:18 | Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 6:19 | Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. | |
Ezra | WelBeibl | 6:20 | Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain ac wedi'u cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain. | |
Ezra | WelBeibl | 6:21 | Cafodd aberthau'r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a throi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. | |
Chapter 7
Ezra | WelBeibl | 7:1 | Flynyddoedd wedyn, pan oedd Artaxerxes yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia, | |
Ezra | WelBeibl | 7:6 | Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y Brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno. | |
Ezra | WelBeibl | 7:7 | Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml). | |
Ezra | WelBeibl | 7:9 | Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e. | |
Ezra | WelBeibl | 7:10 | Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel. | |
Ezra | WelBeibl | 7:11 | Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel): | |
Ezra | WelBeibl | 7:12 | “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd, At Esra, yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw'r nefoedd wedi'i rhoi i ni. Cyfarchion! | |
Ezra | WelBeibl | 7:13 | Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid. | |
Ezra | WelBeibl | 7:14 | Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw. | |
Ezra | WelBeibl | 7:15 | Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 7:16 | Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 7:17 | Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 7:18 | Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau. | |
Ezra | WelBeibl | 7:19 | Dos â'r llestri sydd wedi'u rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 7:20 | Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen i'r deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol. | |
Ezra | WelBeibl | 7:21 | Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano. | |
Ezra | WelBeibl | 7:22 | Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano. | |
Ezra | WelBeibl | 7:23 | Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion. | |
Ezra | WelBeibl | 7:24 | Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma. | |
Ezra | WelBeibl | 7:25 | Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi'i rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith. | |
Ezra | WelBeibl | 7:26 | Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol – cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.” | |
Ezra | WelBeibl | 7:27 | Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, sydd wedi gwneud i'r brenin fod eisiau cefnogi'r deml yn Jerwsalem! | |
Chapter 8
Ezra | WelBeibl | 8:1 | Dyma'r penaethiaid, a'r bobl oedd yn perthyn i'w rhestrau teuluol nhw, ddaeth yn ôl gyda mi o Babilon. Artaxerxes oedd brenin Persia ar y pryd. | |
Ezra | WelBeibl | 8:2 | Gershom, o deulu Phineas; Daniel, o deulu Ithamar; Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd; Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi'u cofrestru yn ôl eu teuluoedd); | |
Ezra | WelBeibl | 8:3 | Gershom, o deulu Phineas; Daniel, o deulu Ithamar; Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd; Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi'u cofrestru yn ôl eu teuluoedd); | |
Ezra | WelBeibl | 8:13 | a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion); | |
Ezra | WelBeibl | 8:15 | Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafâ. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid. | |
Ezra | WelBeibl | 8:16 | Felly dyma fi'n anfon am Elieser, Ariel, Shemaia, Elnathan, Iarîf, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Meshwlam, oedd yn arweinwyr, ac am Ioiarîf ac Elnathan, oedd yn athrawon. | |
Ezra | WelBeibl | 8:17 | A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw. | |
Ezra | WelBeibl | 8:18 | Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e – 18 o ddynion i gyd. | |
Ezra | WelBeibl | 8:19 | Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion. | |
Ezra | WelBeibl | 8:20 | A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y Brenin Dafydd a'i swyddogion wedi'u penodi i helpu'r Lefiaid) – 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru. | |
Ezra | WelBeibl | 8:21 | Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafâ, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo. | |
Ezra | WelBeibl | 8:22 | Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.” | |
Ezra | WelBeibl | 8:23 | Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni. | |
Ezra | WelBeibl | 8:24 | Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau. | |
Ezra | WelBeibl | 8:25 | Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi'i gyfrannu): | |
Ezra | WelBeibl | 8:26 | – 22 tunnell o arian; – Llestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell; – 3.4 tunnell o aur; | |
Ezra | WelBeibl | 8:27 | – 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogram; – Dau lestr rhyfeddol o gain wedi'u gwneud o bres wedi'i loywi, mor werthfawr ag aur. | |
Ezra | WelBeibl | 8:28 | Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi'u cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma. | |
Ezra | WelBeibl | 8:29 | Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a phenaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.” | |
Ezra | WelBeibl | 8:30 | Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 8:31 | Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafâ i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith. | |
Ezra | WelBeibl | 8:33 | Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi. | |
Ezra | WelBeibl | 8:35 | Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel – un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. | |
Chapter 9
Ezra | WelBeibl | 9:1 | Ar ôl hyn i gyd dyma'r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn byw yr un fath â'r bobl baganaidd o'u cwmpas nhw. Maen nhw'n mynd drwy'r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a'r Amoriaid yn eu gwneud. | |
Ezra | WelBeibl | 9:2 | Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda'r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a'r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!” | |
Ezra | WelBeibl | 9:3 | Pan glywais hyn dyma fi'n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a'm barf ac eistedd ar lawr. Rôn i mewn sioc. | |
Ezra | WelBeibl | 9:4 | A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr. | |
Ezra | WelBeibl | 9:5 | Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi'u rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw, | |
Ezra | WelBeibl | 9:6 | a gweddïo, “O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd. | |
Ezra | WelBeibl | 9:7 | Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill – wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw. | |
Ezra | WelBeibl | 9:8 | Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig aton ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed. | |
Ezra | WelBeibl | 9:9 | Roedden ni'n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni'n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 9:10 | Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti'n ddweud | |
Ezra | WelBeibl | 9:11 | drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae'r tir dych chi'n mynd iddo wedi'i lygru gan arferion drwg y bobl sy'n byw yno. Maen nhw wedi llenwi'r wlad gyda'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud. | |
Ezra | WelBeibl | 9:12 | Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’ | |
Ezra | WelBeibl | 9:13 | Mae'r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi'i wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo'n cosbi ni gymaint ag oedden ni'n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl. | |
Ezra | WelBeibl | 9:14 | Felly ydyn ni'n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a chymysgu drwy briodas gyda'r bobl yma sy'n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni'n llwyr, a gadael neb ar ôl? | |
Chapter 10
Ezra | WelBeibl | 10:1 | Tra oedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crio ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel – dynion, merched, a phlant – wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crio. | |
Ezra | WelBeibl | 10:2 | A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra: “Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl. | |
Ezra | WelBeibl | 10:3 | Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud. | |
Ezra | WelBeibl | 10:4 | Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.” | |
Ezra | WelBeibl | 10:5 | Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a phobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau. | |
Ezra | WelBeibl | 10:6 | Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra oedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. | |
Ezra | WelBeibl | 10:7 | Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem. | |
Ezra | WelBeibl | 10:8 | Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud. | |
Ezra | WelBeibl | 10:9 | Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw. | |
Ezra | WelBeibl | 10:10 | Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw! | |
Ezra | WelBeibl | 10:11 | Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.” | |
Ezra | WelBeibl | 10:12 | A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud! | |
Ezra | WelBeibl | 10:13 | Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth. | |
Ezra | WelBeibl | 10:14 | Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.” | |
Ezra | WelBeibl | 10:15 | (Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.) | |
Ezra | WelBeibl | 10:16 | Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis. | |
Ezra | WelBeibl | 10:17 | Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd. | |
Ezra | WelBeibl | 10:18 | Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd: O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia. | |
Ezra | WelBeibl | 10:19 | (Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai.) | |
Ezra | WelBeibl | 10:24 | O'r cantorion: Eliashif. O'r rhai oedd yn gofalu am y giatiau: Shalwm, Telem ac Wri. | |
Ezra | WelBeibl | 10:25 | Yna pobl gyffredin Israel: O deulu Parosh: Rameia, Iesïa, Malcîa, Miamin, Eleasar, Malcîa a Benaia. | |
Ezra | WelBeibl | 10:30 | O deulu Pachath-Moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Betsalel, Binnŵi a Manasse. | |